Etholiad Cyffredinol 1966 a'r Blaid Lafur

Canlyniadau Etholiad Cyffredinol 1966 yng Nghymru

Llafur 32
Ceidwadwyr 03
Rhyddfrydwyr 01

Sefydlwyd y Labour Representation Committee yn 1900 ac yn yr un flwyddyn etholwyd dau aelod i'r Senedd i gynrychioli'r pwyllgor. Newidiwyd yr enw yn 1906 i'r Labour Party (y Blaid Lafur) ac erbyn hynny roedd naw aelod ar hugain ganddynt yn Nhŷ'r Cyffredin. Ramsay MacDonald oedd yn Brif Weinidog ar y ddau achlysur cyntaf i'r Blaid Lafur ddod i rym, sef yn 1923-24 ac o 1929 i 1931.

Daeth llwyddiant mawr i'r Blaid Lafur yn Etholiad Cyffredinol 1945 o dan arweiniad Clement Attlee, ond enillwyd Etholiad Cyffredinol 1951 gan y Ceidwadwyr. Ar ôl tair blynedd ar ddeg fel gwrthblaid, enillodd y Blaid Lafur Etholiad Cyffredinol 1964 ond gyda mwyafrif bychan.

Poster etholiad Elystan Morgan, 1966 (32K) Cafodd y llwyddiant ei gadarnhau a'i gryfhau yn Etholiad Cyffredinol 1966 pan enillwyd 32 allan o'r 36 sedd yng Nghymru ganddynt. Llwyddodd y Rhyddfrydwyr i ddal eu gafael ar un sedd a'r Ceidwadwyr ar dair. Cododd cyfanswm pleidlais y Blaid Lafur i 836,100 sef cynnydd o 26,000 ers yr Etholiad Cyffredinol ddwy flynedd ynghynt. Cwympodd pleidlais y pleidiau eraill, gyda'r Ceidwadwyr yn colli 25,000, y Rhyddfrydwyr 17,000 a Phlaid Cymru 8,000 o bleidleisiau.
Yn Etholiad 1966 pleidleisiodd 61% o etholwyr Cymru dros y Blaid Lafur. Roedd ymgeisydd seneddol gan y Blaid Lafur a'r Blaid Geidwadol ym mhob sedd yng Nghymru, gyda 11 Rhyddfrydwr, 20 Cenedlaetholwr ac 8 Comiwnydd hefyd yn sefyll. Cipiodd y Blaid Lafur pedair sedd ychwanegol, sef Conwy, Gogledd Caerdydd a Sir Fynwy oddi ar y Ceidwadwyr, a Cheredigion oddi ar y Rhyddfrydwyr. Elystan Morgan, 1966 (75K)
Poster y Blaid Lafur (20K) Cynrychiolwyd etholaeth Ceredigion gan y Rhyddfrydwyr ers bron i ganrif tan i Elystan Morgan gipio'r sedd i'r Blaid Lafur yn 1966, gyda 532 pleidlais yn unig o fwyafrif. Roedd Elystan Morgan yn gyn-aelod o Blaid Cymru. Yn ei daflen etholiadol mae'n datgan "Fel un a fu yn sosialydd erioed, ymunais â'r Blaid Lafur gan lwyr gredu yn ei daliadau. Trwy Lafur a thrwy Lafur yn unig, y daw ffrwythau gwleidyddol i Gymru"
Yn dilyn Etholiad Cyffredinol 1966 fe barhaodd y Blaid Lafur mewn grym o dan arweiniad Harold Wilson hyd 1970. Roedd yn ôl wrth y llyw eto erbyn 1974, ond yn Etholiad Cyffredinol 1979 trechwyd y Llywodraeth Lafur gan y Blaid Geidwadol dan arweinyddiaeth Margaret Thatcher. Taflen y Blaid Lafur (11K)
Etholiad Cyffredinol 1906 a'r Blaid Ryddfrydol
Etholiad Cyffredinol 1966 a'r Blaid Lafur
Etholiad Cyffredinol 1983 a'r Blaid Geidwadol
Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 a Phlaid Cymru / The Party of Wales

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru