Etholiad Cyffredinol 1983 a'r Blaid Geidwadol

Canlyniadau Etholiad Cyffredinol 1983 yng Nghymru

Llafur 20
Ceidwadwyr 14
Plaid Cymru 03
Rhyddfrydwyr 02

Daeth y Blaid Geidwadol i fodolaeth yn ystod yr 1830au (defnyddiwyd yr enw am y tro cyntaf yn 1831) a ffurfiwyd llywodraeth gyntaf y Blaid yn 1834 gan Syr Robert Peel. Er nad enillodd y Ceidwadwyr gefnogaeth mwyafrif pobl Cymru, llwyddodd i aros mewn grym ym Mhrydain am y rhan fwyaf o'r ugeinfed ganrif.

Yn Etholiad Cyffredinol 1983 fe enillodd y Ceidwadwyr 42.2% o'r bleidlais ym Mhrydain a 31% o'r bleidlais yng Nghymru. Ymhlith y rhesymau i'r Blaid Geidwadol wneud mor dda yn yr etholiad hwn oedd ei phoblogrwydd yn dilyn Rhyfel y Falklands (Malvinas), a'r ffaith bod y Blaid Lafur yn parhau yn amhoblogaidd.
 '10 reasons for voting Conservative' (32K)
 '10 reasons for not voting Alliance' (24K)

Arweinydd llwyddiannus y Ceidwadwyr yn y cyfnod hwn oedd Margaret Thatcher (g.1925) a ddaeth yn Brif Weinidog yn 1979. Parhaodd yn y swydd tan 1990 pan ddaeth John Major (g.1943) yn arweinydd ar y blaid. Yng Nghymru cwympodd pleidlais y Blaid Lafur i 38% yn Etholiad Cyffredinol 1983, y ffigwr isaf ers 1918. Rhoddwyd llawer o'r bai am ddiffyg llwyddiant y Blaid Lafur ar Michael Foot, ac yn dilyn yr etholiad fe ymddiswyddodd. Yn ei le fe ddaeth Neil Kinnock, y pumed Aelod Seneddol Cymreig i arwain y Blaid Lafur.

Yng Nghonwy yn 1983 roedd Wyn Roberts, Is-Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, yn wynebu sialens oddi wrth Roger Roberts (Rhyddfrydwyr), Ira Walters (Llafur) a Dafydd Iwan (Plaid Cymru). Wyn Roberts oedd yn fuddugol gyda 41.7% o'r pleidleisiau. Roedd wedi bod yn Aelod Seneddol dros yr ardal ers 1970 ac wedi bod ar y meinciau blaen ers 1974. Taflen Etholiadol Wyn Roberts (30K)
Taflen Etholiadol Keith Best (33K) Keith Best, cyfreithiwr o ochrau Llundain a enillodd sedd Sir Fôn yn 1983 yn erbyn Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru) a Tudor Williams (Y Blaid Lafur). Ef oedd AS Ynys Môn o 1979 i 1987 a bu'n gynorthwy-ydd personol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru o 1981 i 1984.
Rhai Ceidwadwyr llwyddiannus eraill yng Nghymru oedd Syr Raymond Gower ym Mro Morgannwg; Nicholas Edwards ym Mhenfro (Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru, 1979-87); Peter Hubbard-Miles ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Keith Raffan yn Nelyn a Tom Hooson ym Mrycheiniog a Maesyfed. Taflen etholiadol Tom Hooson (28K)
Etholiad Cyffredinol 1906 a'r Blaid Ryddfrydol
Etholiad Cyffredinol 1966 a'r Blaid Lafur
Etholiad Cyffredinol 1983 a'r Blaid Geidwadol
Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 a Phlaid Cymru / The Party of Wales

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru