Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999
a Phlaid Cymru - The Party of Wales

Canlyniadau Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999

Llafur 29
Plaid Cymru 17
Y Ceidwadwyr 09
Democratiaid Rhyddfrydol 06

Enillodd y Blaid Lafur Etholiad Cyffredinol ym mis Mai 1997, ac ym mis Gorffennaf yr un flwyddyn fe gyhoeddodd y llywodraeth newydd Bapur Gwyn, 'Llais dros Gymru', a oedd yn ddisgrifiad manwl o gynigion y Blaid Lafur ar gyfer datganoli i Gymru. Yn dilyn hyn cynhaliwyd Refferendwm ar 18 Medi 1997 er mwyn darganfod a oedd pobl Cymru'n cefnogi datganoli.

Neges etholiadol y Ceidwadwyr (46K)

Hwn oedd y tro cyntaf i Gymru gael pleidleisio ar gwestiwn datganoli ers 1979 pan bleidleisiodd 80% yn erbyn cynnig y Blaid Lafur i sefydlu Cynulliad yng Nghymru. Yn 1997 50.3% yn unig o etholwyr a aeth allan i bleidleisio ac roedd y canlyniad yn un agos. Pleidleisiodd 552, 698 yn erbyn datganoli a 559,419 o'i blaid.

Yn dilyn Refferendwm 1997 pasiodd y senedd Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 a arweiniodd at sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru a throsglwyddo pwerau a chyfrifoldebau datganoledig Ysgrifennydd Gwladol Cymru i'r Cynulliad.

Ar 6 Mai 1999 cynhaliwyd etholiadau cyntaf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Defnyddiwyd system newydd o bleidleisio am y tro cyntaf a oedd yn ddull cynrychiolaeth gyfrannol. Roedd dwy bleidlais gan bawb, y gyntaf dros ymgeisydd ym mhob etholaeth seneddol (40 sedd), a'r ail dros blaid i ddewis ugain aelod rhanbarthol. Aelod rhanbarthol oedd Prif Ysgrifennydd cyntaf y Cynulliad, Alun Michael.
Taflen Llafur Newydd (98K)
Taflen etholiadol Michael  German (30K)
Enillodd y Blaid Lafur 28 o'r 60 sedd ac felly nid oedd gan yr un plaid fwyafrif clir yn y Cynulliad. Gwnaeth Plaid Cymru yn well na'r disgwyl. Fe gwympodd seddi megis Llanelli, Rhondda ac Islwyn iddynt ac ar ddiwedd y cyfrif gwelwyd bod ganddynt 17 sedd. Yn Etholiad Cyffredinol 1997 roedd Plaid Cymru wedi cael 6.8% o'r pleidleisiau yn unig ond enillwyd 28.4% o'r bleidlais etholaethol a 30.59% o'r bleidlais yn rhanbarthol yn etholiad 1999.
Canlyniadau annisgwyl oedd buddugoliaethau Gareth Jones yng Nghonwy a Helen Mary Jones yn Llanelli. Syrthiodd y Rhondda i Geraint Davies er bod Llafur wedi dal y sedd Seneddol ers cenedlaethau. Sedd ddiogel arall a gipiwyd gan Blaid Cymru oedd sedd Islwyn. Roedd yr ymgeisydd Llafur, Don Touhig, wedi ennill y sedd Seneddol yn isetholiad 1995 gyda mwyafrif o dros 13,000 o bleidleisiau yn dilyn penodiad Neil Kinnock fel Comisiynydd Ewropeaidd. Ond Plaid Cymru a enillodd etholiad y Cynulliad gyda Mr Brian Hancock yn curo yr ymgeisydd Llafur o 604 pleidlais.
Taflen Helen Mary Jones (68K)

Cliciwch yma i gael canlyniadau a thaflenni etholiadol Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999. Dewiswch yr etholaeth neu'r rhanbarth o'r ddewislen er mwyn gweld enwau a chanlyniadau'r holl ymgeiswyr. Yna cliciwch ar enwau'r ymgeiswyr er mwyn gweld eu taflenni etholiadol.

Yr Archif Wleidyddol Gymreig - Effemera Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999


Etholiad Cyffredinol 1906 a'r Blaid Ryddfrydol
Etholiad Cyffredinol 1966 a'r Blaid Lafur
Etholiad Cyffredinol 1983 a'r Blaid Geidwadol
Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 a Phlaid Cymru - The Party of Wales

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru