| Ernest Evans |
Rhyddfrydwyr Cenedlaethol |
14111 |
57.3% |
| W Llewelyn Williams |
Rhyddfrydwyr |
10521 |
42.7% |
| |
Mwyafrif: |
03590 |
14.6% |
|
| Ym mis Chwefror 1921 galwyd
isetholiad yng Ngheredigion ar ddyrchafiad M L Vaughan Davies i Dŷ'r
Arglwyddi. Y ddau ymgeisydd am y sedd oedd Capten Ernest Evans, Rhyddfrydwr
clymbleidiol, a W Llewelyn Williams, Rhyddfrydwr annibynnol. |
|
|
Bargyfreithiwr yn Aberystwyth
oedd Ernest Evans a chyn-ysgrifennydd personol i Lloyd George. Safai fel
ymgeisydd swyddogol y Blaid Ryddfrydol yn erbyn ymgeisydd Rhyddfrydol arall, W Llewelyn Williams. Roedd W Llewelyn Williams, gelyn Lloyd
George, yn cefnogi H H Asquith. Bu ef yn AS dros fwrdeistrefi Caerfyrddin
o 1906 hyd oni ddiddymwyd y sedd yn 1918. |
|
Ffurfiwyd Ffederasiwn Rhyddfrydol Cymreig newydd
gan rai o gefnogwyr Asquith megis Ellis W Davies a Rhys Hopkin Morris, i wrthwynebu
Cyngor Cenedlaethol Cymru a oedd yn cael ei reoli gan Lloyd George.
Credai'r Ffederasiwn fod y llywodraeth yn anwybyddu'r alwad am hunanreolaeth
a'u bod yn ceisio chwalu'r ddeddf ddirwest.
|

|
 |
Creodd yr isetholiad hwn rwygiadau o
fewn y gymdeithas. Roedd y Methodistiaid a phobl y trefi yn dueddol o
gefnogi Capten Evans a phobl yr ardaloedd gwledig, ac yn arbennig yr Annibynwyr
a'r Bedyddwyr, yn dueddol o gefnogi Llewelyn Williams. Nid oedd ymgeisydd
gan y Ceidwadwyr ac mae'n debyg i Ernest Evans ennill y rhan fwyaf o bleidlais
draddodiadol y blaid honno. |
Capten Evans, ymgeisydd Lloyd George, a enillodd
wedi iddo dderbyn 14,111 o bleidleisiau o gymharu â 10,521 pleidlais
i Llewelyn Williams.
|
 |