2 / 6 (45K)

Llythyr
At Etholwyr Prifysgol Cymru

Foneddigion,
Gwahoddwyd fi gan ganghennau'r Blaid Genedlaethol yng ngholegau Prifysgol Cymru i fod yn ymgeisydd am sedd seneddol y Brifysgol. Derbyniais y gwahoddiad ac erfyniaf yn awr am eich pleidleisiau yn yr etholiad sy'n dyfod.

Sgrifennodd golygydd ariannol y Times, Medi 28:
"Nid fel rhan o'i pholisi yr ymadawodd Prydain Fawr â'r Safon Aur, Medi 21; yn hytrach, fe'i bwriwyd oddi wrthi."

Y mae'r addefiad yn nodedig. Ei ystyr yw bod prif amcan Lloegr mewn gwleidyddiaeth er 1919 wedi methu. Er iddi geisio diystyru amgylchiadau newydd y byd ar ôl y rhyfel, er iddi ymegnïo'n gibddall a chyndyn i ail-sefydlu arferion gwleidyddol ac economaidd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gorchfygwyd hi. Gallwn gydnabod rhyfyg gorffwyll arianwyr dinas Llundain, a frwydrodd hyd at yr awr olaf dros eu breintiau cydwladol ac a frwydra eto i'w hadennill; ond ar bobl gyffredin Lloegr a Sgotland, ac yn arbennig ar bobl Cymru, y disgynnodd y baich o dalu am eu cyndynrwydd creulon, ac fe erys yn faich arnynt eto'n hir. Yn rhy ddiweddar,

Llythyr at Etholwyr Prifysgol Cymru oddi wrth Saunders Lewis adeg isetholiad 1943.

  Yn ôl
A letter to the voters of the University of Wales from Saunders Lewis before the 1943 by-election.   Back
Carta de Saunders Lewis al electorado de la Universidad de Gales escrita antes de la elección parcial de 1943.   Volver

Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau / Department of Manuscripts and Records

Papurau Kate Roberts 2916

National Library of Wales Ymgyrchu! LLyfrgell Genedlaethol Cymru