...fe addefir dyfod
oes i ben. Y mae'n awr bwysig mewn hanes.
Ni ddigwydd y fath argyfwng heb adael olion dinistr. Wedi dwy flynedd
o lywodraeth annifyr, rhwygwyd y Blaid Lafur yn ddwy. Drylliwyd y Blaid
Ryddfrydol yn derfynol. Dacw'r hyn a gam-enwir yn "Llywodraeth Genedlaethol"
gyda buandra dihafal yn troi'n gyff gwawd i Ewrop. Erys y Torïaid Seisnig
yn ddinewid ac annysgadwy, eu holl fryd ar edfryd eu rhwysg ymerodrol,
a heb ddeall o gwbl mai hwy yw'r sicraf o gynorthwywyr Bolsefiaeth, gan
mor union yr arwain eu ffyrdd at ryfel rhwng dosbarthau cymdeithas ac
at chwyldro.
Yn Lerpwl, Medi 29, dywedodd Mr. Winston Churchill:- "Sylfaenwyd mawredd
a ffyniant Prydain ar dri gogoniant a chynheiliad, - sef y llynges ryfel
a'n llynges drafnidiaeth, ymerodraeth India a'r Dwyrain, ac ariandai Dinas
Llundain......Pa fodd y collasom ein gogoniant a'n cynheiliaid a pha fodd
yr adferir hwynt?"
Yr ateb yw na ddylid fyth eu hedfryd. Oblegid mai ar y sylfeini hyn, ac
nid ar rai amgenach,
Llythyr
at Etholwyr Prifysgol Cymru oddi wrth Saunders Lewis adeg isetholiad 1943.