Isetholiad Prifysgol Cymru, 1943
Yr Athro W J Gruffydd Rhyddfrydwyr 3098 52.3%
Saunders Lewis Plaid Cymru 1330 22.5%
Alun Talfan Davies Annibynnol 755 12.8%
E Davies Llafur Annibynnol 634 10.7%
N L Evans Llafur Annibynnol 101 1.7%
  Mwyafrif: 1768 29.8%
Roedd dau ymgeisydd enwog yn cystadlu am sedd Seneddol Prifysgol Cymru yn ystod isetholiad 1943. Galwyd yr isetholiad oherwydd i Ernest Evans, cyn Aelod Seneddol, gael ei benodi yn farnwr llys sirol. Y ddau ymgeisydd enwog ymysg y pump a oedd yn sefyll oedd Yr Athro W. J. Gruffydd, golygydd Y Llenor a Saunders Lewis, cyn-Lywydd Plaid Cymru. Tudalen flaen Y Ddraig Goch, Chwefror 1943 (150K)
Llythyr at Etholwyr Prifysgol Cymru oddi wrth Saunders Lewis (50K) Roedd y ddau yn ffigyrau blaenllaw a dylanwadol iawn yng Nghymru. Roedd W. J. Gruffydd ar un cyfnod wedi bod yn un o is-lywyddion Plaid Cymru, ond erbyn 1943 roedd wedi troi at y Rhyddfrydwyr. Datganodd y Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur eu bod yn rhoi cefnogaeth lwyr i W. J. Gruffydd oherwydd bod cytundeb wedi cael ei sefydlu yn ystod yr Ail Ryfel Byd na fyddai'r prif bleidiau yn cystadlu mewn isetholiadau yn erbyn ei gilydd.

Enillodd Gruffydd 52.3% o'r bleidlais a Lewis 22.5%, sef 3,098 o bleidleisiau yn erbyn 1,330. Daliodd Gruffydd y sedd hyd at 1950 pan ddiddymwyd cynrychiolaeth seneddol y Prifysgolion. Er nad enillwyd sedd seneddol gan Blaid Cymru y tro hwn, gwelwyd newid agwedd wrth iddi gael ei chymryd o ddifrif fel plaid seneddol am y tro cyntaf.

Rhestr o gefnogwyr y ddau ymgeisydd a ymddangosodd yn y wasg.

Llythyr at W.J. Gruffydd cyn isetholiad 1943 (100K)

Isetholiad 1921 yng Ngheredigion
Isetholiad Prifysgol Cymru, 1943
Isetholiad 1966 yng Nghaerfyrddin
Isetholiad 1985 ym Mrycheiniog a Maesyfed

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru