Isetholiad 1966 yng Nghaerfyrddin
Gwynfor Evans Plaid Cymru 16179 39%
Gwilym Prys Davies Llafur 13743 33.1%
D Hywel Davies Rhyddfrydwyr 8650 20.8%
Simon Day Ceidwadwyr 2934 7.1%
  Mwyafrif: 2436 5.99%
Yn Etholiad Cyffredinol Mawrth 1966 etholwyd Megan Lloyd George yn AS Llafur Sir Gaerfyrddin gan guro, ymysg eraill, Gwynfor Evans, Llywydd Plaid Cymru. Megan Lloyd George a oedd wedi dal y sedd dros y Blaid Lafur ers 1957, ond bu farw ychydig dros ddeufis ar ôl yr etholiad, ac fe alwyd isetholiad. Gwynfor Evans (43K)
Taflen etholiadol Gwynfor Evans (32K) Safodd Gwynfor Evans unwaith eto fel ymgeisydd Seneddol Plaid Cymru er ei fod wedi ei drechu gan yr ymgeisydd Llafur a'r ymgeisydd Rhyddfrydol, ac wedi cael 16.1% yn unig o'r bleidlais dri mis ynghynt. Ond y tro hwn ef oedd yn fuddugol gyda 39.0% o'r bleidlais, a mwyafrif o 2,436 pleidlais dros Gwilym Prys Davies, yr ymgeisydd Llafur.

Gwynfor Evans oedd Aelod Seneddol cyntaf Plaid Cymru ac fe barhaodd fel Aelod Seneddol Sir Gaerfyrddin tan iddo golli'r sedd yn 1970. Dychwelodd i gynrychioli Plaid Cymru yn Sir Gaerfyrddin am gyfnod o bum mlynedd rhwng 1974 a 1979 . Fe fu llwyddiant syfrdanol Gwynfor Evans yng Nghaerfyrddin yn hwb sylweddol i Blaid Cymru gan arwain at gyfnod o gynnydd yng nghefnogaeth y Blaid.

"Plaid Cymru became credible, an appealing alternative to an apparently ageing, timorous, and entrenched Labour Party, which showed all the symptoms of too long a monopoly of power."

K. O. Morgan, Rebirth of a Nation.


Isetholiad 1921 yng Ngheredigion
Isetholiad Prifysgol Cymru, 1943
Isetholiad 1966 yng Nghaerfyrddin
Isetholiad 1985 ym Mrycheiniog a Maesyfed

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru