|
Ar farwolaeth Tom Hooson, yr Aelod Seneddol Ceidwadol,
yn 1985 galwyd isetholiad ym Mrycheiniog a Maesyfed. Roedd Tom Hooson
wedi bod yn Aelod Seneddol yno ers i'r Ceidwadwyr ddod i bŵer yn 1979.
Roedd saith ymgeisydd seneddol ar gyfer y sedd hon:
Richard Livsey (Y Gynghrair Ryddfrydol / Liberal Alliance), Richard
Willey (Llafur), C. J. Butler (Ceidwadwyr), Mrs Janet Davies (Plaid Cymru),
David Sutch (Official Monster Raving Loony Party) a dau ymgeisydd annibynnol.
Galwyd yr isetholiad yn ystod cyfnod anodd i'r llywodraeth, ac fe gafodd
yr etholiad sylw mawr gan y wasg a'r cyfryngau Prydeinig. Cafodd y Ceidwadwyr
gryn syndod pan enillwyd sedd a arferai fod yn sedd ddiogel iddynt gan
Richard Livsey (Y Gynghrair Ryddfrydol).
|
 |
|
|
Roedd hwn yn gyfnod pan oedd clymblaid, dan yr
enw y Gynghrair, rhwng Plaid y Democratiaid Cymdeithasol (SDP) a'r
Blaid Ryddfrydol yn ennill tir. Ffurfiwyd Plaid y Democratiaid Cymdeithasol
(SDP) yn 1981, yn bennaf gan aelodau'r Blaid Lafur a oedd yn anfodlon
â pholisïau adain chwith Llafur ac a welai gyfle i drydedd plaid wneud
argraff ar wleidyddiaeth Prydain. Ymhlith arweinwyr amlycaf yr SDP
yng Nghymru oedd Tom Ellis a Gwynoro Jones.
Fel yr SDP, fe fanteisiodd y Rhyddfrydwyr ar anfodlonrwydd
yr etholwyr â'r ddwy blaid fawr a thrwy'r Gynghrair y llwyddont i drechu'r
Ceidwadwyr a Llafur yn isetholiad Brycheiniog a Maesyfed.
|