Y Blwch Pleidleisio

Etholiadau Cyffredinol | Isetholiadau | Pleidiau Lleiafrifol | Merched a'r bleidlais

Etholiadau Cyffredinol

Bu pedair plaid wleidyddol yn flaenllaw yn hanes gwleidyddol Cymru yn yr ugeinfed ganrif, sef, y Blaid Lafur, y Blaid Ryddfrydol, y Blaid Geidwadol a Phlaid Cymru. Gwelodd y Blaid Ryddfrydol ei chefnogaeth yn cyrraedd pinacl yn ystod Etholiad Cyffredinol 1906, ond erbyn Etholiad Cyffredinol 1966 roedd y Blaid Lafur mewn bri. Daeth Etholiad Cyffredinol 1983 a llwyddiant mawr i'r Ceidwadwyr yng Nghymru, ac erbyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 1999 roedd Plaid Cymru yn rym gwleidyddol o bwys yng Nghymru.


Isetholiadau

Isetholiadau

Bu nifer o isetholiadau pwysig yng Nghymru yn ystod y ganrif. Amlygwyd rhwygiadau o fewn y Blaid Ryddfrydol yn lleol yn ystod isetholiad Ceredigion yn 1921 rhwng cefnogwyr David Lloyd George a chefnogwyr Asquith. Daeth dau o ffigyrau amlycaf Cymru, sef W.J. Gruffydd a Saunders Lewis, wyneb yn wyneb yn ystod ymgyrch isetholiad sedd Prifysgol Cymru yn 1943. Mewn isetholiad yng Nghaerfyrddin yn 1966 enillodd Gwynfor Evans y sedd gyntaf i Blaid Cymru yn y Senedd. Pan gynhaliwyd isetholiad ym Mrycheiniog a Maesyfed yn 1985 cafwyd un o'r canlyniadau agosaf a fu erioed yng Nghymru gyda Richard Livsey yn ennill o drwch blewyn.


Pleidiau Lleiafrifol

Roedd nifer o bleidiau gwleidyddol eraill yng Nghymru heblaw am y pedair prif blaid. Bu'r Blaid Gomiwnyddol yn boblogaidd ymysg rhai o gymunedau diwydiannol de Cymru yn ystod hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Safodd ymgeisydd dros Fudiad Gweriniaethol Cymru yn Etholiad Cyffredinol 1950, ac fe chwaraeodd y Blaid Werdd yng Nghymru ran bwysig yn ymgyrch Cynog Dafis yn Etholiad Cyffredinol 1992.

Pleidiau Lleiafrifol


Merched a'r bleidlais

Merched a'r bleidlais

Dechreuodd ymgyrch merched i gael y bleidlais gyda phrotestiadau'r swffragetiaid ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau'r ugeinfed ganrif. O dipyn i beth fe gyflwynodd y llywodraeth ddeddfau yn ymwneud â merched a'r bleidlais. Megan Lloyd George oedd yr ymgeisydd benywaidd cyntaf yng Nghymru i ennill sedd. Gydag amser, etholwyd mwy a mwy o Aelodau Seneddol benywaidd i San Steffan ac i'r Senedd Ewropeaidd, a thrwy'r defnydd gan rai pleidiau o ddulliau arbennig i ddewis ymgeisyddion, etholwyd canran uchel o aelodau benywaidd i'r Cynulliad.


Y Blwch Pleidleisio Brwydrau Llafur Rhyfel a Heddwch
Yr Iaith Gymraeg Datganoli Y Diwydiant Dŵr

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!

 

I fyny Llinell Amser Espanol This page in English Llyrfgell Genedlaethol Cymru