Y Comiwnyddion

Sefydlwyd Plaid Gomiwnyddol Prydain ym mis Gorffennaf 1920, ac o 1929 ymlaen roedd ganddynt ymgeiswyr yn sefyll mewn Etholiadau Cyffredinol.

Y Comiwnyddion a hyrwyddodd sefydlu Mudiad Cenedlaethol y Gweithwyr Di-waith. Yn 1937 datganodd pwyllgor canolog y Blaid Gomiwnyddol eu bod yn cefnogi hunanlywodraeth i Gymru.

Cyfieithwyd maniffesto'r Blaid Gomiwnyddol i'r Gymraeg yn 1948 gan W. J. Rees, a lluniwyd polisïau Comiwnyddol arbennig i Gymru mewn pamffledi megis Fflam Rhyddid Cymru (1944) a The Fight for Socialism in Wales (1948).

"The ideological excitement of the Russian Revolution provided a new stimulus to industrial unionism in all it's diverse forms, and after 1918 South Wales was to become, along with Clydeside, the major breeding-ground for the Communist Party of Great Britain"

K. O. Morgan, Wales in British Politics.

Arthur Horner (31K)

Gelwid y Maerdy yn 'Moscow Fach', gan gymaint oedd dylanwad y Blaid Gomiwnyddol ar y gweithwyr yno.

Un o aelodau cyntaf y Blaid Gomiwnyddol oedd Arthur Horner (1894-1969). Daeth Arthur Horner yn Llywydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru (Y Ffed) yn 1936, y Comiwnydd cyntaf i gael y swydd, ac ef oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Undeb Cenedlaethol y Glowyr o 1946 hyd 1959. Ceisiodd gael ei ethol lawer gwaith i'r Senedd dros y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru, ac yn 1933 yn isetholiad Dwyrain y Rhondda enillodd 11,000 o bleidleisiau, sef 3,000 yn unig yn llai na'i wrthwynebydd, W. H. Mainwaring.

Daeth Idris Cox (1899-1989) yn drefnydd llawn amser ar y Blaid Gomiwnyddol yn Ne Cymru yn ystod haf 1927, a bu'n gweithio ar ran y Blaid Gomiwnyddol drwy gydol ei oes. Bu'n weithgar iawn yn yr ymgyrchoedd i ethol Comiwnyddion ar gynghorau lleol, a bu'n asiant i Harry Pollitt yn ystod Etholiad Seneddol 1945 yn Nwyrain y Rhondda.

Un o sefydlwyr y Blaid Gomiwnyddol ym Mhrydain oedd T. E. Nicholas (1878-1971), neu 'Niclas y Glais'. Trodd ei gefn ar y Blaid Lafur Annibynnol ar ôl iddo sefyll drostynt yn Etholiad 'Khaki' 1918. Ysgrifennodd gasgliadau o gerddi, gan gynnwys cerddi propaganda fel yn ei gyfrol Salmau'r Werin, yn ogystal ag erthyglau tanbaid megis 'Y Ddraig Goch a'r Faner Goch - Cenedlaetholdeb a Sosialaeth'.

T.E. Nicholas (35K)
Arthur True (18K)

Bu dathlu mawr yng Nghaerdydd ym mis Chwefror 1943 i gofio am sefydlu'r Fyddin Goch, (byddin y Bolshefigiaid yn Rhyfel Cartref Rwsia), bum mlynedd ar hugain ynghynt. Sefydlwyd y fyddin hon yn 1918 gan Trotsky (1879-1940), un o arweinwyr y Chwyldro yn Rwsia yn Hydref 1917.

Treblodd aelodaeth Plaid Gomiwnyddol Prydain yn 1941 ac yn etholiad 1945 daeth ei harweinydd, Harry Pollitt, 972 pleidlais yn unig yn brin o ennill yn etholaeth Dwyrain y Rhondda. Dyma'r canlyniad gorau i'r Blaid Gomiwnyddol ei gael erioed yng Nghymru.

Yn 1979 etholwyd Annie Powell yn Faeres ym mwrdeistref y Rhondda. Hi oedd y Maer cyntaf ym Mhrydain i berthyn i'r Blaid Gomiwnyddol.

Cyfrannodd dynion fel J. Roose Williams, Dai Francis a Dai Dan Evans at greu a datblygu syniadau a diwylliant y Blaid Gomiwnyddol yng Nghymru.

Ail sefydlwyd y Blaid Gomiwnyddol yn 1988 ac erbyn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 1999 roedd ganddynt nifer o ymgeiswyr Comiwnyddol gan gynnwys Robert Griffiths, ysgrifennydd cyffredinol y Blaid Gomiwnyddol a safodd yn etholaeth Pontypridd.

Sticer Robert Griffiths (31K)
Poster y Comiwynyddion, 1999 (35K)

Y Blaid Gomiwnyddol
Mudiad Gweriniaethol Cymru
Y Blaid Werdd

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru