[ MS Word doc ar gael]

DATGANIAD GWERINIAETHWYR CYMRU

AMCANION MUDIAD GWERINIAETHOL CYMRU

NI ALL mudiad a fynn wireddu hawl hanesyddol a moesol cenedl y Cymry i ryddid ac annibyniaeth gydnabod unrhyw rwymau uniongyrchol neu anuniongyrchol, a gadwo Gymru'n israddol i sefydliadau sofran Lloegr, neu i unrhyw awdurdod sofran estronol arall. Y mae Cymru yn genedl. Y mae ei theyrngarwch yn ddyledus iddi hi ei hun, megis y mae ei sofraniaeth ynddi hi ei hun, ac yn ei chenedligrwydd hanesyddol a diymwahân. Ni allwn, o ganlyniad, dderbyn teyrngarwch i Goron Lloegr fel amod ein rhyddid a'n hannibyniaeth.

Y mae cenedl y Cymry yn ei hanfod yn gymdeithas o werin bobl. Gan hynny, rhaid i'r mudiad sydd i ymgorffori ysbryd ein rhyddhad, ac i fynegi a thywys y frwydr am em rhyddid, feddu amcan a fydd yn arwydd o'n hannibyniaeth fel cenedl, ac o gymdeithas werinol ein pobl. Yr amcan hwnnw yw sefydlu Gwerinwladwriaeth Gymreig.

Y mae'r werin, neu'r bobl gyffredin ys gelwir hwy, yn ymegnïo ymhobman i gyfeiriad trefn ddemocrataidd lawnach a dyfnach. Sylfaen y drefn ddemocrataidd honno fydd cydnabod cydraddoldeb gwleidyddol, cymdeithasol, ac economaidd pawb dynion [sic.]. Yn y drefn honno fe gaiff dynion fwynhau rhyddid cyflawnach, ac fe berchir cenhedloedd, a'r bywyd cenedlaethol, yn ddiwarafun.

Rhaid i fudiad cenedlaethol Cymru dderbyn ei ysbrydiaeth o'r symudiad hwn. Rhaid inni hefyd ei ddehongli, a'i gyfeirio, a'i arwain. Ac ni allwn lwyddo yn hynny o beth heb ymwrthod â'r ffurfreolau gwleidyddol, cymdeithasol, ac economaidd, sy'n nodweddu'r hen wareiddiad aristocrataidd-imperialaidd pydredig. Y mae'r Ymerodraeth Seisnig, a'r Goron Seisnig yn arwyddlun o'i hundod ac yn gyfrwng ei pharhad, yn enghraifft glasurol o'r gwareiddiad treuliedig hwnnw. A heddiw y mae'r math hwn o wareiddiad yn cael ei herio o ddau gyfeiriad.

Gwelir cenhedloedd ymhob rhan o'r byd yn deffro i sylweddoli eu cenedligrwydd. Ar yr un pryd, y mae'r argyhoeddiad mai'r un yw iawnderau'r holl ddynoliaeth, yn ymledu ac yn ymgryfhau. Canys, mewn gwir drefn ddemocrataidd, o'i chyferbynu â democratiaeth ffurfiol ein cyfnod, ni bydd graddfa hawliau, yn rhoi i rai lai nag, i eraill, na rhwng dynion yn eu cymdeithas ac yn eu gwaith, nac ychwaith rhwng cenhedloedd a phobloedd. Y mae'n hen bryd dileu'r syniad o haenau cymdeithasol, a'u dosbarthiadau uwchraddol ac israddol yn rhannu'r bobl yn ôl braint ac ystad a chyfoeth. Rhaid diddymu gweddillion y gymdeithas anghydradd.

O angenrheidrwydd felly, nod mudiad rhyddid cenedlaethol Cymru fydd dymchwelyd yr holl alluoedd hynny sy'n cadw dynion a chenhedloedd mewn caethiwed gwleidyddol, neu mewn darostyngiad cymdeithasol neu economaidd. Rhaid i fudiad rhyddid Cymru fod yn fudiad chwyldroadol. Ac wrth gyrchu tuag at rhyddid i'n pobl a'n cenedl, fe grëir sinthesis cymdeithasol a moesol newydd, a fydd yn ernes ac yn fynegiant o wareiddiad newydd. Teimlwn ni fod derbyn ffurfiau a simbolau'r hen wareiddiad yn dirymu'n llwyr wirionedd a sylwedd y gwareiddiad newydd. Gan hynny, cyflwynwn ein hamcanion a'n nod i'r Gymru Rydd ac Annibynnol fel a ganlyn:

1. Fod yn rhaid i Gymru fod yn Werinwladwriaeth ddemocrataidd, sofran, heb fod yn ddarostyngedig ond i'r cyfryw awdurdod cydwladol ag y byddo Cymru, fel aelod o gymdeithas y cenhedloedd rhyddion, yn ei dderbyn ac yn ei gynnal.

2. Na fydd gan Frenin Lloegr, nac yn rhinwedd ei berson, nac yn herwydd ei swyddogaeth gyfansodiadol fel brenin, unrhyw awdurdod cyfreithiol nac unrhyw arglwyddiaeth dros Gymru, na thros unrhyw ddinesydd Cymreig.

3. Na fydd i unrhyw Gymro na Chymraes roddi teyrngarwch, na bod yn ddeiliad, i unrhyw arglwydd nac i unrhyw berson arall.

4. Na fydd yng Nghymru unrhyw deitlau etifeddol, na theitlau eraill, nac unrhyw freiniau na rhagorfreiniau gwleidyddol, cymdeithasol, neu economaidd, na chaiff pawb eu mwynhau, neu gael cyfle i'w mwynhau.

5. Y bydd pobl Cymru yn werin rydd mewn gwlad rydd, heb fod yn ddarostyngedig i'r un ffurf ar gaethiwed, nac yn wleidyddol, nac yn gymdeithasol, nac yn economaidd, gan feddu safle gymdeithasol o gydraddoldeb diamodau. Diddymir pob gwahaniaeth dosbarth, pa un ai ar etifeddiaeth ai ar eiddo y seilier ef.

6. Y sylfeinir Gweriniaeth Cymru ar gydnabyddiaeth lwyr o urddas a gwerth personoliaeth dyn, gan warantu i bawb o bobl Cymru, yn ddiwahaniaeth, iawnderau dinacâd y bersonoliaeth foesol, er mwyn sicrhau a hyrwyddo datblygiad llawnaf y person unigol a'r bywyd cenedlaethol.

7. Y bydd yn amcan gan Werinwladwriaeth Cymru gyflawni delfryd y gymdeithas ddemocrataidd ymhob cylch o weithgarwch dynion, a sefydlu egwyddor cydweithrediad yn sylfaen gwerinol ein cyfundrefn economaidd drwy gyfrwng cymdeithasau cydweithredol y rhennir eu gwaith a'u cyfrifoldeb a'u ffrwythau rhwng y rhai a fo'n cydweithio ynddynt.

8. I'r un diben y bydd iddo'n feddiant i'r sawl a'i defnyddio, neu a fo am ei ddefnyddio. Diddymir pob dull hynafol o ddal tir. Bydd y tir, y tai, a phob ffurf arall ar eiddo, yn perthyn i'r rhai a'u defnyddio er mwyn byw neu weithio, naill ai'n unigol neu mewn cydweithrediad fel cydberchenogion.

9. Y bydd y Gymraeg, fel iaith frodorol gwerin Cymru, yn iaith gyntaf a swyddogol y Werinwladwriaeth Gymreig, eithr, yn wyneb yr amgylchiadau sy'n ganlyniad llywodraeth Seisnig ar Gymru, y defnyddir yr iaith Saesneg fel ail iaith, a'i chydnabod fel iaith swyddogol.

10. Y bydd yn un o brif amcanion Gwerinwladwriaeth Cymru ychwanegu at gyfanswm y tir amaethyddol yng Nghymru sy'n cynhyrchu bwyd, a sefydlu trefn economaidd gytbwys drwy gyfrwng cynlluniau egnïol i ailwladychu ein pobl ar y tir ac i ddatblygu'r crefftau a'r diwydiannau gwledig.

11. Y bydd i Werinwladwriaeth Cymru fyw mewn cyfathrach agos a'r cenhedloedd Celtaidd eraill, ac ymdrechu ymhob rhyw fodd i gydweithredu'n llawn a'r holl genhedloedd eraill, yn arbennig â'i chymdogion agos, Gweriniaeth Iwerddon, Yr Alban a Lloegr.

12. Y bydd i Werinwladwriaeth Cymru gymryd ei lle a gwneud ei rhan yng nghymdeithas gydwladol y cenhedloedd.

Cyhoeddwyd gan Fudiad Gweriniaethol Cymru, o 8 Lôn-y-rhyd, Rhiwbeina, Caerdydd, ac Argraffwyd gan Wasg Gee, Dinbych. Pris - Dwy Geiniog.

Datganiad Gweriniaethwyr Cymru, 1950.

  Yn ôl
Welsh Republican Movement Manifesto, 1950.   Back
Manifiesto de 1950 de los Republicanos de Gales.   Volver

Adran Llawysgrifau a Chofysgrifau / Department of Manuscripts and Records

Effemera A.W.G, Mudiad Gweriniaethol Cymru
WPA Ephemera, Welsh Republican Movement

National Library of Wales Ymgyrchu! LLyfrgell Genedlaethol Cymru