Mudiad Gweriniaethol Cymru
Sefydlwyd Mudiad Gweriniaethol Cymru ym mis Medi 1949 o ganlyniad i ffrae a gododd yng nghynhadledd flynyddol Plaid Cymru. Gadawodd tua hanner cant o aelodau Plaid Cymru y gynhadledd a mynd ati i greu plaid newydd. Ymhlith y rhain yr oedd Gwilym Prys-Davies, W. Huw R. Davies, Trefor Morgan a Cliff Bere. Mudiad Gweriniaethol Cymru (25K)

"Credent fod pwyslais Plaid Cymru ar y Gymraeg ac ar fuddiannau'r bröydd gwledig yn ei rhwystro rhag ennill tir yn y de-ddwyrain diwydiannol; dadleuant hefyd fod heddychiaeth Gwynfor Evans, y llywydd er 1945, yn llesteirio'r blaid rhag bod yn feiddgar filwriaethus."

John Davies, Hanes Cymru

Yn 1950 fe roddwyd ymgeisydd ymlaen i gynrychioli'r mudiad yn yr Etholiad Cyffredinol. Yr ymgeisydd oedd Ithel Davies (1894-1989) a safai ym Mro Ogwr, lle cafodd 613 o bleidleisiau sef 1.3% o'r bleidlais gyfan. Roedd Ithel Davies yn gyn-aelod o'r Blaid Lafur, ac yn Etholiad Cyffredinol 1935 bu'n ymgeisydd Llafur yn sedd Prifysgol Cymru.

Ithel Davies (44K)

Roedd naws wladgarol i'r taflenni etholiadol ac i'r 'Datganiad Gweriniaethol'. Dyma ran o daflen Ithel Davies ar gyfer etholiad 1950;

"I mi Cymru yw ei gwerin bobl. Gwerin Cymru sydd wedi cadw Cymru a'i bywyd cenedlaethol a'i diwylliant yn fyw drwy oesoedd hir o orthrwm Lloegr arnom. Am y werin honno y mae fy ngofal, am ei rhyddid a cheisio iddi yr helaethrwydd bywyd y medrem ei sicrhau o dan ein llywodraeth ein hunain. Peryglir ein bywyd heddiw yn fwy nac erioed gan ofynion hunanol llywodraethau Lloegr ar ein tir, ein hadnoddau a'n pobl"

Cyhoeddodd Mudiad Gweriniaethol Cymru bapur o dan y teitl The Welsh Republican rhwng 1950 a 1957. Harri Webb (1920-94) oedd un o'r golygyddion ac yr oedd Cliff Bere (1915-1997) yn cyfrannu ato. Ymddangosodd 41 rhifyn gan werthu oddeutu 2,000 o gopïau yn ei dair blynedd gyntaf. Y Gweriniaethwr  (59K)
Datganiad Gweriniaethwyr Cymru (37K) Yn Hydref 1947 cyhoeddodd Cliff Bere ei bamffled The Welsh Republican. Bu Cliff Bere yn weithgar gyda'r mudiad ac fe fu nifer o achosion llys yn ei erbyn am iddo losgi baner Jac yr Undeb, fel y gwnaeth yn Aberdâr ac yn Eisteddfod Genedlaethol Caerffili yn 1950. Cyhuddwyd y Mudiad Gweriniaethol o fod yn dreisgar ac o achosi niwed i eiddo ar nifer o achlysuron. Diflannodd y mudiad ynghanol y pumdegau a dychwelodd nifer o'r aelodau at Blaid Cymru.

Ail ymddangosodd y papur The Welsh Republican yn Awst 1973 ar ôl pymtheng mlynedd. Newidiodd wedyn i'r Faner Goch a oedd yn bapur radicalaidd ond heb fod yn weriniaethol. Sefydlwyd 'Mudiad Sosialaidd Gweriniaethol Cymru' yn 1980.

 Gweriniaethwyr Sosialaidd Cymru (23K)

Y Blaid Gomiwnyddol
Mudiad Gweriniaethol Cymru
Y Blaid Werdd

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
Map o'r safle Tudalen Chwilio Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Llinell Amser I fyny Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru