Daeth awr fawr y Blaid Werdd yn ystod Etholiadau Ewropeaidd 1989 pan gawsant 2.3 miliwn o bleidleisiau, er na chawsant afael ar sedd. Enillodd y Blaid Werdd 15,832 o bleidleisiau yn etholiad Ewropeaidd Gogledd Cymru lle cipiodd Joe Wilson (Llafur) y sedd oddi wrth Beata Brookes (Ceidwadwyr). Dim ond pedwar cant o aelodau a oedd gan y Blaid Werdd yng Nghymru ar y pryd, ond daeth yn drydydd mewn tair allan o bedair etholaeth gan wneud yn well na'r Rhyddfrydwyr.
Bu cydweithrediad rhwng arweinwyr Plaid Cymru ac arweinwyr y Blaid Werdd yng Ngheredigion er 1981. Yng nghynhadledd Plaid Cymru yn 1989 penderfynwyd cynnal cyfarfodydd achlysurol gyda'r Blaid Werdd er mwyn trafod polisi economaidd ecolegol i Gymru. O ganlyniad i'r cyfarfodydd hyn drafftiwyd Polisi Economaidd Gwyrdd.




