|
Adnoddau addysgol |
Mae safle Ymgyrchu! y we yn adnodd cyffrous ar
gyfer dysgu Hanes mewn Ysgolion Uwchradd:
Mae'n cyflwyno detholiad o ffynonellau gwreiddiol i ddisgyblion, gan gynnwys dogfennau, lluniau, tapiau sain a fideo, a'u gosod o fewn eu cyd-destun hanesyddol ehangach. Trefnir y wybodaeth mewn modd thematig. Dyma rai awgrymiadau o'r modd y gallai testunau yn safle Ymgyrchu! hybu cynlluniau gwaith eich ysgol.
Mae safle Ymgyrchu! yn cwrdd â gofynion dwy raglen astudio: 'Byd yr Ugeinfed Ganrif', ac 'Un Thema Hanesyddol'. Gallai'r defnydd o'r ffynonellau hybu datblygiad yr Elfennau Allweddol i gyd, yn ogystal â chynnig cyfleoedd i weithredu a datblygu sgiliau TG a'r Cwricwlwm Cymreig. Testunau o ddiddordeb arbennig: Rhyfel a Heddwch:
Mae safle Ymgyrchu! yn cwrdd â gofynion nifer o astudiaethau manwl, amlinellol a thematig TGAU. Gallai gynorthwyo i ddarparu deunyddiau dysgu ar gyfer ymarferion ffynonellau, ac at ddibenion disgyblion sy'n gwneud ymchwil ar gyfer gwaith cwrs. Testunau o ddiddordeb arbennig: Y Blwch Pleidleisio:
Brwydrau Llafur:
Yr Iaith Gymraeg:
Rhydd safle Ymgyrchu! gyfle i ddisgyblion Safon A drafod natur amrywiaeth o ffynonellau hanesyddol cyfoes, gan hybu eu dealltwriaeth o'r gorffennol. Testunau o ddiddordeb arbennig: Y Blwch Pleidleisio:
Brwydrau Llafur:
Rhyfel a Heddwch:
|
|
|
||
| Y Blwch Pleidleisio | Brwydrau Llafur | Rhyfel a Heddwch |
| Yr Iaith Gymraeg | Datganoli | Y Diwydiant Dwr |
|
|
||
| Top y dudalen | Tudalen Flaen Ymgyrchu! | |