Llinell - Amser
Y mae'r llinell amser yn tynnu sylw at ddetholiad o ddigwyddiadau pwysicaf yr ugeinfed ganrif, ac at rai o'r eitemau ar y safle Ymgyrchu!
Y Deyrnas Unedig a'r Byd   Cymru a'r safle 'Ymgyrchu!'
Ffurfiwyd y Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur, 'Labour Representation Committee'. 1900 Streic tair blynedd yn cychwyn yn Chwarel y Penrhyn.
Bu farw'r frenhines Fictoria. 1901 Y dyfarniad yn achos rheilffordd 'Taff Vale' yn ergyd i undebau llafur.
Diwedd rhyfel y Böer. 1902 Dros 200 o Gymry Patagonia yn ymgartrefu yng Nghanada.
Marie Curie yn ennill y wobr Nobel, y wraig gyntaf i'w hennill. 1903 Diddymu'r arfer o dalu glowyr yn ôl graddfa symudol.
Y trên tanddaearol electronig cyntaf yn rhedeg yn Llundain. 1904 Adfywiad crefyddol yn ysgubo trwy Gymru.
Lladdwyd 5,000 o bobl yn Rwsia mewn protest yn erbyn y Tsar. 1905 Etholwyd y Maer Llafur cyntaf ym Merthyr Tudful.
Penodwyd Keir Hardie yn Gadeirydd cyntaf y Blaid Lafur newydd. 1906 Yn yr Etholiad Cyffredinol nid enillodd y Ceidwadwyr yr un sedd yng Nghymru.
Etholwyd yr aelodau seneddol benywaidd cyntaf yn y Ffindir. 1907 Sefydlwyd cangen gyntaf y mudiad er ennill y bleidlais i ferched yng Nghymru.
Etholwyd y Maer benywaidd cyntaf ym Mhrydain. 1908 Dechrau cyfnod o 'Aflonyddwch Mawr' a barodd am chwe mlynedd.
Dechreuwyd gorfodi bwyd ar swffragetiaid a garcharwyd. 1909 Lloyd George yn cyflwyno Cyllideb y Bobl.
Diddymu caethwasiaeth yn Nhsieina. 1910 Terfysgoedd Tonypandy.
60,000 o ferched yn gorymdeithio yn Llundain er mwyn hawlio'r bleidlais. 1911 Terfysgoedd Llanelli.
Y Titanic yn suddo. 1912 Cyhoeddwyd The Miners' Next Step.
Agorwyd camlas Panama. 1913 Tanchwa yng nglofa Senghennydd. Lladdwyd 439 o ddynion yn y drychineb.
Cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf. 1914 Sefydlwyd Cymdeithas y Cymod.
Ymgyrchu Gallipoli yn Nhwrci yn gorffen mewn trychineb. 1915 Bu farw Keir Hardie.
Lladdwyd miloedd o filwyr ym mrwydr y Somme. 1916 David Lloyd George yn dod yn Brif Weinidog.
Chwyldro yn Rwsia 1917 Bu farw'r bardd Hedd Wyn.
Diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf 1918 David Lloyd George yn parhau fel Prif Weinidog yn dilyn 'etholiad y cwpon'.
Arwyddo Cytundeb Versailles 1919 Terfysgoedd hiliol yng Nghaerdydd.
Sefydlu Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr 1920 Datgysylltu'r Eglwys a ffurfio'r Eglwys yng Nghymru.
Sefydlu Gwladwriaeth Iwerddon 1921 Isetholiad Ceredigion.
Bonar Law yn olynnu David Lloyd George fel Prif Weinidog 1922 Sefydlu Urdd Gobaith Cymru.
Stanley Baldwin yn dod yn Brif Weinidog 1923 Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn ymuno ag Undeb y Gweithwyr Trafnidiol a Chyffredinol.
Llywodraeth Lafur am y tro cyntaf ym Mhrydain. 1924 Prif Weinidog cyntaf y Blaid Lafur yw Ramsay MacDonald, AS Aberafan.
Cyhoeddi Mein Kampf gan Adolph Hitler. 1925 Sefydlu Plaid Genedlaethol Cymru.
Streic Gyffredinol yn parlysu Prydain am naw diwrnod 1926 Streic y Glowyr yng Nghymru.
Yn Rwsia saethwyd ugain o rai yr honnwyd eu bod yn ysbïwyr Prydeinig. 1927 Yr orymdaith newyn cyntaf o Gymru i Lundain.
Deddf Cynrychiolaeth y Bobl: Estynnwyd yr etholfraint i gynnwys gwragedd dros 21 mlwydd oed. 1928 Amelia Earhart, y wraig gyntaf i hedfan o America i Ewrop yn glanio yng Nghymru.
Cwymp ym marchnad Wall Street. 1929 Etholwyd yr AS benywaidd cyntaf i gynrychioli etholaeth yng Nghymru.
Darganfod y blaned Plwton

1930

Cyhoeddwyd yr argraffiad safonol Pedeir Keinc y Mabinogi.
Siapan yn meddiannu Manchuria 1931 Gwrthdystiadau yn erbyn agor sinemâu ar y Sul yng Nghymru
Franklin Delano Roosevelt yn dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau gan addo 'bargen newydd'. 1932 Diweithdra ymysg dynion yng Nghymru yn codi i 42.8%.
Hitler yn dod yn Ganghellor yr Almaen 1933 Cymru yn curo Lloegr am y tro cyntaf yn Twickenham.
Gwrthryfel yng Nghatalonia. 1934 Lladdwyd 265 mewn trychineb mewn glofa yng Ngresffordd ger Wrecsam.
Byddin Siapan yn meddiannu Beijing yn Nhsieina 1935 Gwrthdystiadau yn ne Cymru yn erbyn y Ddeddf Diweithdra.
Cychwyn Rhyfel Cartref Sbaen 1936 Llosgwyd Ysgol Fomio ym Mhenyberth gan genedlaetholwyr Cymreig amlwg.
Dinistrwyd Guernica, Sbaen, gan fomio o'r awyr. 1937 Ffoaduriaid o Sbaen yn cyrraedd Cymru.
Cytundeb Munich yn cael ei arwyddo gan Brydain, yr Almaen, Ffrainc a'r Eidal 1938 Agorwyd Teml Heddwch ac Iechyd Cenedlaethol Cymru yng Nghaerdydd.
Cychwyn yr Ail Ryfel Byd 1939 Yr ifaciwis cyntaf yn dod i Gymru.
Winston Churchill yn dod yn Brif Weinidog Prydain Fawr. 1940 Y Fyddin Brydeinig yn meddiannu tir ar fynydd Epynt, Powys, er gwaethaf protestiadau.
Byddin yr Almaen yn methu yn ei hymdrech i orchfygu Rwsia. 1941 Bomio o'r awyr yn achosi difrod mawr yn Abertawe.
Siapan yn gorchfygu Singapore. 1942 Cyfres o streiciau gan lowyr yn ne Cymru.
Stalin, Churchill a Roosevelt yn cyfarfod am y tro cyntaf yn Teheran 1943 Isetholiad Prifysgol Cymru.
Y Cynghreiriaid yn dechrau goresgyn Ewrop 1944 Y 'Diwrnod Cymreig' cyntaf yn Nhŷ'r Cyffredin.
Diwedd yr Ail Ryfel Byd ar ôl i America ollwng bomiau atomig ar Hiroshima a Nagasaki yn Japan 1945 Bu farw David Lloyd George.
Cenedlaetholi'r diwydiant glo ym Mhrydain 1946 Perfformiad cyntaf Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru.
Sefydlu adweithydd niwclear cyntaf Prydain yn Harwell. 1947 Sefydlu'r ysgol gynradd Gymraeg gyntaf dan ofal awdurdod lleol yn Llanelli.
Sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol ym Mhrydain. 1948 Cyfieithu maniffesto Y Blaid Gomiwnyddol i'r Gymraeg.
Sefydlu Cyfundrefn Cytundeb Gogledd Iwerydd (NATO). 1949 Ffurfio Mudiad Gweriniaethol Cymru.
Cychwyn Rhyfel Corea. 1950 Ffurfio Ymgyrch Senedd i Gymru.
Agor 'Gŵyl Prydain'. 1951 Syr David Maxwell Fyfe yn cael ei benodi yn Weinidog dros Faterion Cymreig, y cyntaf i ddal y swydd.
Prydain yn profi bom atomig. 1952 Agor argae Claerwen.
Bu farw Joseph Stalin, unben yr Undeb Sofietaidd. 1953 Bu farw'r bardd Dylan Thomas
Dechreuwyd brechu yn erbyn polio. 1954 Cyhoeddi'r papur Dydd Sul cyntaf yng Nghymru, yr Empire News.
Y Gwledydd Comiwnyddol yn arwyddo Cytundeb Warsaw. 1955 Sefydlu Undeb Amaethwyr Cymru (F.U.W.).
Yr orymdaith gyntaf yn Aldermaston yn erbyn arfau niwclear. 1956 Protestwyr yn gorymdeithio yn Lerpwl yn erbyn boddi cwm Tryweryn.
Creu'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd (EEC). 1957 Etholwyd Megan Lloyd George yn AS Caerfyrddin.
Sefydlu'r Ymgyrch Ddiarfogi Niwclear (CND). 1958 Y darllediad teledu masnachol cyntaf yng Nghymru.
Sefydlu Llys Ewropeaidd dros Iawnderau Dynol. 1959 Darganfod lefel uchel o alldafliad niwclear yng Ngogledd Cymru.
Cyflafan Sharpeville yn Ne Affrica. 1960 Bu farw Aneurin Bevan, gwleidydd Llafur.
Adeiladu Wal Berlin. 1961 Rali genedlaethol gyntaf CND yng Nghymru.
Myfyrwyr croenddu yn mynychu eu darlith gyntaf ym Mhrifysgol Mississippi. 1962 Darlledu 'Tynged yr Iaith', darlith y BBC gan Saunders Lewis.
Llofruddio'r Arlywydd John F Kennedy. 1963 Protest gyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Harold Wilson yn dod yn Brif Weinidog Prydain. 1964 Penodi James Griffiths yn Ysgrifennydd Gwladol cyntaf Cymru.
Lluoedd awyr America yn dechrau bombio Gogledd Fietnam. 1965 Protestwyr yn tarfu ar seremoni agoriadol cronfa ddŵr Tryweryn.
Y Blaid Lafur yn ennill yr Etholiad Cyffredinol. 1966 Gwynfor Evans, AS cyntaf Plaid Cymru yn cael ei ethol yn isetholiad Caerfyrddin.
Yr Israeliaid yn ennill y rhyfel chwe diwrnod rhwng yr Israeliaid a'r Arabiaid. 1967 Pasio Deddf Iaith Newydd.
Cyfres o brotestiadau torfol yn Ffrainc. 1968 Bom a blannwyd gan MAC yn ffrwydro yn y Swyddfa Gymreig.
Dyn yn cerdded ar y lleuad am y tro cyntaf. 1969 Arwisgiad y Tywysog Siarl yng Nghaernarfon.
Edward Heath yn dod yn Brif Weinidog Prydain. 1970 John Barnard Jenkins, arweinydd MAC, yn cael ei garcharu am ddeng mlynedd.
Cyflwyno mesurau argyfwng newydd yng Ngogledd Iwerddon. 1971 Protestiadau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dwysáu
Cyhoeddwyd stad o argyfwng gan lywodraeth Prydain oherwydd diffyg pŵer o ganlyniad i Streic y Glowyr. 1972 Glowyr Cymru ar streic
Arlywydd Chile, Salvador Allende, yn cael ei oresgyn gan y fyddin. 1973 Sefydlu Cyngor Undebau Llafur Cymru.
Richard Nixon, Arlywydd yr Unol Daleithiau yn ymddiswyddo. 1974 Glowyr Cymru allan ar streic eto.
Bu farw'r cadfridog Franco, unben Sbaen. 1975 Sefydlu' Ganolfan Dechnoleg Amgen ger Machynlleth
James Callaghan yn dod yn Brif Weinidog Prydain. 1976 Cyhoeddi Mesur Datganoli Cymru a'r Alban.
Cynhaliwyd yr etholiadau democrataidd cyntaf yn Sbaen ers y rhyfel cartref. 1977 Radio Cymru yn darlledu am y tro cyntaf.
Yr Aifft ac Israel yn arwyddo cytundeb heddwch hanesyddol. 1978 Prynwyd safle Nant Gwrtheyrn ar gyfer sefydlu canolfan iaith i'r Gymraeg.
Margaret Thatcher yn dod yn Brif Weinidog Prydain. 1979 Cynhaliwyd refferendwm pan bleidleisiodd pobl Cymru yn erbyn y mesur datganoli.
Sefydlwyd 'Solidarnosc', undeb masnach rydd newydd yng Ngwlad Pwyl. 1980 Ffurfio Cynghrair Gwrth-niwclear Cymru.
Deg carcharor, a oedd yn aelodau o'r IRA, yn marw o ganlyniad i streic newyn yng Ngogledd Iwerddon. 1981 Merched o Gymru yn sefydlu gwersyll heddwch Comin Greenham.
Rhyfel y Malvinas. 1982 Sianel Pedwar Cymru (S4C), y sianel deledu Gymraeg, yn darlledu am y tro cyntaf.
Y taflegrau niwclear cyntaf yn cyrraedd comin Greenham. 1983 Yn yr Etholiad Cyffredinol enillodd y Blaid Geidwadol y nifer uchaf o seddi yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif
Cychwyn Streic y Glowyr. 1984 Glowyr Cymreig ar flaen y gad yn ystod streic y glowyr.
Diwedd Streic y Glowyr. 1985 Isetholiad Brycheiniog a Maesyfed.
Trychineb niwcler yn Chernobyl. 1986 Gwrthdystiad yn erbyn adeiladu byncar niwclear yng Nghaerfyrddin.
UDA a'r Undeb Sofietaidd yn dod i gytundeb ynglŷn â lleihau nifer eu harfau. 1987 Carcharwyd Keith Best, AS Ynys Môn, am feddiannu trwy dwyll.
Terfysgwyr yn plannu bom ar awyren Pan Am 747 a laddodd 281 o bobl. 1988 Sefydlu Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Wal Berlin yn dod i lawr. 1989 Cefnogwyr Meibion Glyndŵr, a oedd yn gyfrifol am losgi tai haf yng Nghymru, yn ymddangos mewn lifrau milwrol am y tro cyntaf.
Rhyddhawyd Nelson Mandela wedi 26 mlynedd o garchar. 1990 Cwricwlwm Cenedlaethol Newydd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer dysgu Cymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru.
Cychwyn rhyfel y Gwlff yn dilyn ymosodiad Iraq ar Kuwait. 1991 Terfysg yng Nghaerdydd yn dilyn ymosodiad hiliol.
Bill Clinton yn dod yn Arlywydd yr Unol Daleithiau. 1992 Cynog Dafis, Plaid Cymru, yw'r AS cyntaf i gael ei ethol gyda chefnogaeth swyddogol y Blaid Werdd.
Diddymu'r system apartheid yn Ne Affrica. 1993 Deddf Iaith Newydd.
Agoriad swyddogol twnnel y Sianel rhwng Prydain a Ffrainc. 1994 Glowyr yn prynu pwll y Tŵr, Hirwaun
Ffrainc yn profi bomiau niwclear yn y Môr Tawel er gwaethaf gwrthwynebiadau. 1995 Dirwywyd 'Nuclear Electric' yn dilyn damwain niwclear yng ngorsaf bŵer yr Wylfa.
Saethwyd 16 o blant a'u hathro mewn ysgol gynradd yn Yr Alban. 1996 Myfyrwyr yn protestio adeg ymweliad y frenhines ag Aberystwyth.
Y Blaid Lafur yn cael ei ethol ym Mhrydain gyda mwyafrif mawr. 1997 Cymru yn pleidleidio dros ddatganoli yn y refferendwm.
Cytundeb Gwener y Groglith yng Ngogledd Iwerddon. 1998 Deddf Llywodraeth Cymru.
Agorwyd Senedd yr Alban. 1999 Agorwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Y Blwch Pleidleisio Brwydrau Llafur Rhyfel a Heddwch
Yr Iaith Gymraeg Datganoli Y Diwydiant Dŵr

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!
I fyny Llinell Amser Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Tudalen Chwilio Map o'r safle Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru