Gwybodaeth am y safle
Croeso i'r safle | Dulliau o ymgyrchu | Digideiddio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Manylion technegol am y safle | Atborth

Croeso i'r safle

Mae'r safle hwn yn ymdrin ag ymgyrchu cymdeithasol a gwleidyddol yng Nghymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Defnyddir lluniau a dogfennau gwreiddiol sydd wedi eu digideiddio, ynghyd â thapiau sain a fideo i adrodd yr hanes. Y mae'r ymgyrchoedd yn ymwneud â hawliau gwahanol garfanau, er enghraifft hawl merched i bleidleisio, neu hawl y glowyr a'r chwarelwyr i dderbyn cyflog ac amodau gwaith teg

Daw'r ffynonellau o gasgliadau amrywiol Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ac yn arbennig Yr Archif Wleidyddol Gymreig. Ceir gwybodaeth bellach wrth glicio ar eiriau sydd wedi eu tanlinellu yn y safle.

Gellir defnyddio map o'r safle, y dudalen chwilio neu'r llinell amser i chwilio'r safle, neu gellir dilyn trywydd y chwe thema, sef Y Blwch Pleidleisio, Rhyfel a Heddwch, Brwydrau Llafur, Yr Iaith Gymraeg, Datganoli, a'r Diwydiant Dŵr. Wrth glicio ar y delweddau sy'n cael eu harddangos yn thematig, gellir cael llun cliriach a manylach ohonynt.

Cliciwch ar y llun!

Ceir manylion pellach am ffynonellau, adnoddau addysgol a hawlfraint ar dudalen blaen Ymgyrchu! Mae'r safle mewn tair iaith, sef Cymraeg, Saesneg a Sbaeneg, a gellir symud yn hawdd o un iaith i'r llall o unrhyw fan ar y safle.

Dulliau o ymgyrchu

Yn ystod yr ugeinfed ganrif defnyddiwyd nifer o ddulliau gwahanol o ymgyrchu. Mewn ymgyrchoedd etholiadol defnyddir cyrn siarad, taflenni etholiadol, bathodynnau a phosteri a darllediadau radio a theledu. Bydd rhai yn canfasio o ddrws i ddrws neu dros y ffôn ac eraill yn areithio mewn cyfarfodydd cyhoeddus.

Mae carfanau pwyso, neu ymgyrchoedd sydd yn canolbwyntio ar achos arbennig, hefyd yn defnyddio nifer o'r dulliau hyn, ynghyd â rhai eraill megis streicio, picedi, gorymdeithio, canu caneuon protest, ysgrifennu llythyrau, arddangos baneri, cymryd rhan mewn gwrthdystiadau cyhoeddus, ymprydio, casglu deisebau, gwneud mur ysgrifeniadau, torri'r gyfraith, a threulio amser mewn carchar dros eu daliadau.

Bu cyhoeddi yn ffordd boblogaidd o ledaenu gwybodaeth, boed mewn llyfrau, llythyrau agored mewn papurau newydd, cylchlythyrau, erthyglau, neu daflenni propaganda. Gwelwn fod taflenni etholiadol wedi datblygu tipyn yn ystod yr ugeinfed ganrif, a bod pleidiau gwleidyddol a grwpiau eraill erbyn hyn yn defnyddio safleoedd ar y we yn eu hymgyrchoedd.

Top y dudalen


Digideiddio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Gan y Llyfrgellydd, Andrew M. W. Green M.A., Dip. Lib., A.L.A.

Cynllun yn rhaglen ddigideiddio'r Llyfrgell Genedlaethol yw Ymgyrchu. Heddiw cydnabyddir digideiddio yn rhan allweddol o ymdrech y Llyfrgell i agor ei chasgliadau cyfoethog i nifer fwy ac i ystod ehangach o ddefnyddwyr (yn enwedig dysgwyr o bob math). Trwy dechnolegau digidol, a thrwy gyfrwng y Rhyngrwyd a'r We Fyd Eang, gallwn arddangos eitemau o'n casgliadau i gynulleidfa fyd-eang - eitemau a oedd o fewn cyrraedd o'r blaen ond trwy ymweliad personol ag adeilad y Llyfrgell yn Aberystwyth.

Prosiect arbrofol, tymor byr fu Ymgyrchu. Dechreuodd ym mis Hydref 1999 a dod i ben yn Mai 2000. Ein nod cyntaf oedd dethol delweddau o'r casgliadau sy'n taflu goleuni ar rai themâu o ddiddordeb i ddysgwyr o bob oed, a'u plethu yn ei gilydd gyda thestun eglurhaol. Amcan arall yw inni fagu profiad a sgiliau yn y gwahanol feysydd sydd ynghlwm wrth ddigideiddio, er enghraifft sganio deunydd, creu metadata, rheoli hawliau deallusol a chyflwyno gwybodaeth ar y sgrîn.

Ffordd arall o ddigideiddio yw trin casgliad unigol yn ei gyfanrwydd. Chwaer-gynllun i Ymgyrchu yw Gweithiau mewn ffrâm [ http://cairsweb.llgc.org.uk/ffraworkc.htm ], sy'n cynnig delweddau o'r rhan fwyaf o'r peintiadau yn y Llyfrgell ynghyd â gweithiau eraill wedi'u fframio.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf byddwn yn troi at gynlluniau newydd, mwy uchelgeisiol, fydd yn dod â thestunau, lluniau a deunydd arall o fewn cyrraedd dysgwyr, ymchwilwyr, ymwelwyr a phawb arall sydd â mynediad i'r rhyngrwyd.

Top y dudalen


Ffeiliau aml-gyfrwng

Cynigir ffeiliau aml-gyfrwng ar y safle hwn. Cynigir pob clip fel Apple QuickTime, Microsoft Windows Media a RealVideo. Os oes angen meddalwedd penodol (neu plugins) i chwarae unrhyw glip dewisol yn ôl dylai neges ymddangos sy'n cysylltu â lleoliad y plugin. Awgrymir trio pob fformat unwaith cyn dechrau dadlwytho unrhyw beth rhag ofn bod plugins ar eich peiriant yn barod. Os yw'r clipiau yn chwarae yn ddidrafferth does dim angen chwilio am feddalwedd ychwanegol.

Mae cyngor manwl i'w gael ar y safleoedd isod:

QuickTime

    Get QuickTime 4 Now - Free

Windows Media

    Get Windows Media Player

Real Video

    Download RealPlayer 7 Free

Top y dudalen


Manylion technegol am y safle

Digideiddio'r eitemau

Cynhyrchwyd y delweddau rhithwir ar gyfer y safle trwy ddefnyddio camera digidol sy'n sganio i gydraniad uchel. Edrychwyd ar y lluniau amrwd archifol hyn ac yna eu trosglwyddo i uned RAID trwy gyfrwng rhwydwaith Apple Talk neu yriant symudol. Copïwyd y ffeiliau ar dapiau DLT (heb eu cywasgu) ar gyfer eu storio fel archif digidol. Cafodd y copïau ychwanegol o'r lluniau eu hail samplu, eu prosesu a'u cywasgu trwy ddefnyddio Adobe Photoshop V5.5 ac Image Ready. Newidiwyd maint y ddelwedd, dyfnder y lliw, yr unsharp mask a'r lefelau cywasgiad ar gyfer y we er mwyn cyflawni'r cyfaddawd gorau rhwng eglurder, delweddau darllenadwy, ansawdd y ddelwedd a maint y ffeil. Gosodwyd y ffeiliau hyn wedyn ar y wefan. Roedd y blasluniau (+/- 150 x 175 pixel) yn cael eu cynhyrchu un ar y tro ac yn cael eu gosod ar dudalen uchaf y thema.

Defnyddiwyd y safonau canlynol:

MEINCFESURIAD FFEILIAU ARCHIFOL FFEILIAU AR GYFER Y SGRÎN (TESTUN YN Y GWREIDDIOL) FFEILIAU AR GYFR Y SGRIÎN (TONYDDU DI-DOR YN Y GWREIDDIOL)
CYDRANIAD 300 ppi 72 ppi 72 ppi
DIMENSIYNAU Fel y gwreiddiol Y maint lleiaf sy'n ofynnol ar gyfer medru darllen y testun Dim mwy na 500 x 700 pixel
DYFNDER Y BITIAU 24 bit RGB 2 bit - 8 bit lliw a fynegeiwyd (indexed colour) 24 bit RGB
MODD / MAINT LLIW Apple RGB maint lliw (colour space) Gamma 1.8 Lliw a fynegeiwyd (indexed colour) palet addasol, Gamma 2.2 SRGB maint lliw (colour space) Gamma 2.2
CYMHAREB CYWASGIAD Dim Gosodiadau GIF yn amrywio. Adobe Image Ready JPEG 20 - 30 yn Adobe Image Ready
FFORMAT Y FFEIL TIFF (PC) GIF JPEG

 

EGWYDDORION CYFFREDINOL:
Cydraniad: Ar gyfer TIFFS archifol - Fel isafswm safon, dylid ceisio atgynhyrchu'r delweddau gwreiddiol i gyd yr un maint, sef 300 ppi. Defnyddiwch gydraniadau optegol yn unig.
Lliw a chywirdeb tonaidd: Ar gyfer delweddau gwreiddiol sydd wedi eu printio defnyddiwch siart Macbeth i osod pwyntiau du a gwyn ac i brofi atgynhyrchiad y lliw. Ar gyfer delweddau ffotograffig a rhai gyda llawer o gyferbyniad defnyddiwyd darn (patch) print lliw a graddfeydd llwyd Kodak. Ar gyfer y delweddau ar y we addaswyd gamma i 2..2 er mwyn gwneud yn iawn am gyferbynnedd uwch ar fonitorau cyfrifiaduron personol.

YR OFFER A DDEFNYDDIWYD:
Camera: Camera sganio ccd o gydraniad uchel 6000 x 6000 pixel Jenoptik Eyelike.
Lens: Micro-Nikkor 55mm, f2.8.
Gweithfan: Apple G4
Medalwedd: Adobe PhotoShop 5.5 ac Image Ready 2.0.

Datblygu'r Safle

Y mae'r safle yn llawn o ddelweddau graffig, ond gwnaed ymdrech i gyfyngu ar faint y ffeiliau, ac y mae modd cael cip o flaen llaw ar y delweddau mewn blaslun sy'n dangos maint ffeiliau'r delweddau peg. Ni ddefnyddir llawer o ddelweddau ar gyfer llywio o amgylch y safle. Defnyddiwyd Macromedia Dreamweaver 2, Brooklyn HTML Assistant 1.0.4, Microsoft Notepad, Adobe Photoshop 5.5 ac Image Styler 2.0. i greu'r safle. Nid yw'r safle wedi cael ei gynllunio ar gyfer un math o borwr neu gydraniad sgrîn arbennig. Fe arbrofwyd â'r safle trwy ddefnyddio Netscape Navigator 4.7, Microsoft Internet Explorer 5.0 ac Opera 3.60. I weld côd gwreiddiol y dudalen bydd angen gosod y porwr i Preference / Character set UTF-8.

Y mae arwyddnod Windows Media yn perthyn i Microsoft Corporation.
Y mae arwyddnodau QuickTime a QuickTime Logo yn perthyn i Apple Computer, Inc., a gofrestrwyd yn UDA a gwledydd eraill. Mae arwyddnod Get QuickTime Badge yn perthyn i Apple Computer Inc. ac fe'i defnyddir gyda chaniatâd.
Y mae arwyddnod Real G2 with Flash® yn perthyn i Macromedia a RealNetworks, Inc. Flash© 1997 Macromedia, Inc.

Top y dudalen


Atborth

Danfonwch eich sylwadau at: ymgyrchu@llgc.org.uk


Y Blwch Pleidleisio Brwydrau Llafur Rhyfel a Heddwch
Yr Iaith Gymraeg Datganoli Y Diwydiant Dŵr

Top y dudalen Tudalen Flaen Ymgyrchu!

 

I fyny Llinell Amser Ymgyrchu! Tudalen Flaen Ymgyrchu! Tudalen Chwilio Map o'r safle Espanol This page in English Y dudalen hon Llyfrgell Genedlaethol Cymru