Blog - Casgliadau

Postiwyd - 20-02-2015

Casgliadau / Digido / Gwasanaethau Darllenwyr

Cofio Joseph Parry

Joseph ParryAr ddydd Sadwrn, 21 Chwefror 1903 cynhaliwyd angladd Dr Joseph Parry, y ‘bachgen bach o Ferthyr’. Amcangyfrifid i oddeutu 7000 o alarwyr ddod ynghyd i’r gwasanaeth a gynhaliwyd yng nghapel Cynulleidfaol Christ Church ym Mhenarth cyn symud ymlaen i fynwent Sant Augustine. Yn ôl anerchiad a draddodwyd yn y gwasanaeth gan y Parchedig H. Elvet Lewis, Llundain, dywedodd nad oedd yn bosibl claddu cerddor am fod caniadau cerddor yn ei ddal yn fyw, a byddai i’r gerddoriaeth a gyfansoddodd Joseph Parry nid yn unig fyw yng nghof y genhedlaeth honno, ond arwain i fyny at feddyliau uwch a melysach mewn cenedlaethau i ddod.

 

Ganed ym Merthyr Tudful yn 1841 ac ar ôl treulio cyfran o’i blentyndod yn gweithio mewn pwll glo ac yng ngwaith haearn Cyfarthfa, ymfudodd gyda’i deulu yn 13 oed i Danville, Pensylfania lle bu’n gweithio mewn melin haearn. Dychwelodd i Brydain gan astudio yn y Royal Academy of Music ac ef oedd y Cymro cyntaf i dderbyn gradd Mus.Bac. o Brifysgol Caergrawnt. Fe’i penodwyd yn 1874 yn Athro Cerddoriaeth cyntaf Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ac yn ddiweddarach bu’n gweithio yn Abertawe a Chaerdydd.

 

Roedd yn gyfansoddwr toreithiog, a’i gynnyrch yn cynnwys caneuon, cytganau, anthemau, tonau, gweithiau offerynnol, oratorïau ac operâu, gyda Blodwen yn un ohonynt, sef yr opera gyntaf yn y Gymraeg. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gartref i ddegau o lawysgrifau cerddoriaeth Joseph Parry ac mae gwaith yn cymryd lle ar hyn o bryd i baratoi detholiad bychan o’r sgoriau cerddorol hyn ar gyfer eu delweddu maes o law’r flwyddyn hon.

 

Fodd bynnag, os nad ydych yn medru aros tan hynny i weld fersiynau digidol o ambell i sgôr nodiant yn llaw Pencerdd America ac yn dymuno cael blas ar fywyd y cerddor, gellir cymryd mantais ar ambell i adnodd sy’n bodoli eisoes ar-lein gan y Llyfrgell. Gellir darllen ei gofnod bywgraffyddol ar wefan Y Bywgraffiadur Cymreig neu mi allwch ddarllen cannoedd o erthyglau sy’n cyfeirio ato trwy chwilio ar wefan Papurau Newydd Cymru Arlein. Er enghraifft, wrth chwilio am ‘Joseph Parry’ a chyfyngu eich dyddiadau i 1903 gellir dod ar draws nifer o erthyglau sy’n adrodd hanes ei farwolaeth a’i gladdedigaeth 112 o flynyddoedd yn ôl.

 

Wrth chwilio amdano ar gatalog e-Adnoddau’r Llyfrgell sy’n cynnwys eitemau o gasgliadau’r Llyfrgell sydd eisoes wedi’u digido, gellir darganfod ambell i ffotograff ohono gan John Thomas. Ac ar wefan Casglu’r Tlysau (rhan o Casgliad y Werin Cymru bellach) gellir bodio trwy daflen angladd Joseph Parry er mwyn cael gweld pa emynau a ganwyd yn y gwasanaeth.

 

Os nad yw hyn yn eich digoni, cofiwch y gellir dod yma i ddarllen y llawysgrifau a’r llythyrau yn Ystafell Ddarllen y De, dim ond i chi wneud cais am docyn darllen cyn hynny. Gellir darllen drafft o hunangofiant Joseph Parry yn ei law ei hun trwy archebu NLW MS 9661D fel man cychwyn!

 

D. Rhys Davies

Postiwyd - 27-01-2015

Arddangosfeydd / Casgliadau

Dirgelwch yr wythfed Gorchymyn coll

Yny lhyvyr wyneb ddalenPam tybed y bu i awdur y llyfr Cymraeg cyntaf hepgor yr wythfed o’r Deg Gorchymyn (‘na ladrata’) o’i gyfrol? A oedd Siôn Prys, awdur Yny lhyvyr hwnn, yn dioddef o gydwybod euog? Oedd hwn yn gamgymeriad bwriadol?

Yny lhyvyr hwnn oedd y llyfr cyntaf i’w argraffu yn y Gymraeg, a hynny yn 1546. Ynddo mae Siôn Prys yn arddangos rhai o flaenoriaethau pennaf y dyneiddwyr yng Nghymru a’u gofid am ddyfodol yr iaith. Ceir ynddo gymysgedd o’r wyddor, calendr, awgrymiadau garddwriaethol, a hanfodion y ffydd Gristnogol. Ond pam hepgor yr wythfed o’r Deg Gorchymyn?

Roedd i Siôn Prys ran amlwg yn niddymiad y mynachlogydd yn Lloegr dan Harri VIII, a thybir iddo fanteisio ar ei safle fel gwas sifil i gasglu llyfrgell ysblennydd o lawysgrifau a llyfrau printiedig, gan gynnwys yr enwog Lyfr Du Caerfyrddin. Tybed a dalodd yn onest am y cyfrolau hyn, neu a fu iddynt syrthio i’w boced er mwyn iddo eu ‘diogelu’ yn ei gartref yn Henffordd? Ai cymwynaswr neu ynteu leidr diegwyddor oedd Syr Siôn Prys?

Bydd rhai o’i drysorau i’w gweld mewn arddangosfa newydd – ‘Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf’ – yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru rhwng diwedd Ionawr a diwedd Mehefin, yn eu mysg bedair llawysgrif gadwynog o Eglwys Gadeiriol Henffordd, cyfrolau y gwyddom iddynt ddod o fynachlogydd a phriordai Aberhonddu, Henffordd a Chaerloyw.

Yn ôl Aled Gruffydd Jones, Llyfrgellydd a Phrif Weithredwr y Llyfgell Genedlaethol: ‘Mae hwn yn gyfle prin i weld cyfrolau sydd wedi eu cadwyno i silffoedd Henffordd ers canrifoedd, a hynny ochr-yn-ochr â thrysorau a ddiogelwyd yma yng Nghymru. Mae’n gyfle i holi hefyd am gymhellion un o arwyr y Gymraeg, ac un o gewri y Dadeni Dysg’.

Digidwyd Yny lhyvyr hwnn, a’i chyhoeddi o’r newydd arlein, i gyd-fynd â’r arddangosfa, a bydd cyfres o weithgareddau, gan gynnwys cynhadledd ac ysgol undydd yn rhan o’r tymor yn y Llyfrgell.

Dydd Mercher, 4 Chwefror, am 1.15 bydd Dr Eryn White o Adran Hanes a Hanes Cymru, Prifysgol Aberystwyth yn taflu goleuni newydd ar ‘Syr Siôn Prys, y Dadeni, a’r diwylliant print yng Nghymru’, a hynny yn y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Bydd arddangosfa ‘Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf’, ar agor yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru o 31 Ionawr – 27 Mehefin 2015.

Postiwyd - 23-01-2015

Arddangosfeydd / Casgliadau

Uffern o le

Mae rhigwm Eisteddfod o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn Saesneg, yn sôn am ymweliad y diafol ei hun â Glandŵr. Wrth iddo anadlu mwg ffwrneisiau’r gweithfeydd meddyliodd, “Ni allaf fod yn bell o gartref”!

 

Heddiw, ni all un ond dychmygu’r mwg a’r drewdod, ond cofiaf yn glir y golygfeydd o’r trên ar gyrion gorsaf Abertawe – tiroedd sorod cythreulig Glandŵr, y diffeithdir, ac Allt Cilfái, yn foel, heb goeden. Dyma’r etifeddiaeth hyll a gwenwynig a adawyd inni gan ddwy ganrif o weithgarwch diwydiannol dwys a llygredd enbyd.

 

Hwn oedd y pris dalodd Abertawe am fod ymhlith y pennaf o grudau’r Chwyldro Diwydiannol. Mae’r ardal bellach yn enwog am ei hanes o doddi metel a hefyd am fod yn brif ganolfan y byd ar gyfer cynhyrchu copr yn ystod y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Dyma sut cafodd yr enw Copperopolis. Deilliodd llwyddiant y diwydiant copr o’r digonedd o lo a llafur lleol oedd gan Abertawe, ac oherwydd bod y diwydiant yn agos i haenau mwyn copr Cernyw, ac i afon fordwyol a hwylusai gludo’r mwyn yn syth i’r mwyndoddwyr, ar y dechrau o Gernyw ond, yn nes ymlaen, o wledydd tramor.

 

“Copper smelting houses near Swansea” gan Thomas Rowlandson

“Copper smelting houses near Swansea” gan Thomas Rowlandson

Dyma ddarlun, a brynwyd yn ddiweddar, gan Thomas Rowlandson mewn pen ac inc a dyfrlliw gyda chyffyrddiadau pensil, gyda’r arysgrif “Copper smelting houses near Swansea”. Darluniwyd yn Awst 1797, ac mae’n rhoi cipolwg ar ddechreuad diwydiannol y ddinas.

 

Mae Rowlandson yn darlunio mwg yn dod allan o ffwrneisiau copr yn ardal y Graig Wen ar lan ddwyreiniol Afon Tawe. Roedd mwyndoddwr y Graig Wen yn un o’r mwyndoddwyr cynharaf ac yn gweithredu o 1736 i 1924. Mae’r darlun hefyd yn dangos Camlas Smith, oedd newydd ei hadeiladu ac a roddai fynediad uniongyrchol i gyflenwadau o lo, a thu hwnt i’r afon, tir agored lle’r oedd gweithfeydd copr enfawr yr Hafod a Morfa ar fin cael eu hadeiladu a lle byddai cymunedau Glandŵr, Plas-marl a Threforys yn tyfu. Uwchben, ar y Clas, gwelir ‘Castell Morris’, ‘castell’ Cymreig anghonfensiynol, oedd mewn gwirionedd yn floc o fflatiau i weithwyr yn dyddio o tua 1775. Adfeilion ‘Castell Morris’ sydd bellach yn edrych dros y cwm.

 

Ar yr heol, yn nhu blaen y darlun, gwelir braslun pensil, egwan ac anghyflawn, sy’n dangos pobl, o bosib gyda cheffyl cwch camlas.

 

Mae darlun Rowlandson yn cynnwys gwybodaeth werthfawr. Dechreuodd y gwaith adfer a gwaredu’r diffeithdir diwydiannol o ddifrif yn ystod canol y 1960au, cyn i’r cysyniad o archaeoleg ddiwydiannol, a’r astudiaeth ohoni, ddatblygu’n llawn a chyn colli gweithfeydd y Graig Wen, safle oedd yn berffaith ar gyfer gwaith cadwraeth. Mae’r gwaith o adfer rhai o’r ychydig o adeiladau diwydiannol hanesyddol sydd ar ôl yn parhau, ond mae creiriau’r hen ddiwydiannau bellach yn rhai prin ymhlith y swyddfeydd, y siopau mân-werthu a’r cymdogaethau preswyl sydd yno heddiw.

 

Tra oedd yn Abertawe, aeth Rowlandson hefyd i’r Mwmbwls ac i Fae Caswell. Atgynhyrchwyd rhai o’r lluniau o’r ardal yn 1800 gan ei gyd-deithiwr Henry Wigstead, a’u cyhoeddi yn ei lyfr yntau, “Remarks on a Tour to North and South Wales”. Ar yr un adeg, darluniodd Rowlandson fannau eraill yng Nghymru a chymynroddwyd nifer o’i ddarluniau gwreiddiol cyfoes, yn arbennig o Eryri, Conwy a Llangollen, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru gan Syr John Williams, cymwynaswr mwyaf blaenllaw’r Llyfrgell.

 

Mae darlun Rowlandson i’w weld yn arddangosfa gyfredol y Llyfrgell, sef ‘Beth Sy’n Newydd?’, sy’n cynnwys rhai o’r derbyniadau diweddar.

 

Gwilym Tawy

Postiwyd - 20-01-2015

ArAgor / Casgliadau / Digido / Gwasanaethau Darllenwyr / Newyddion a Digwyddiadau / Research

Wicipediwr Preswyl – Sut fydd o’n gweithio.

Wicipedia yw un o’r gwefannau mwyaf poblogaidd yn y byd a’r fersiwn Gymraeg yw’r wefan Gymraeg fwyaf poblogaidd yn y byd o bell ffordd. Dyma’r gwyddoniadur mwyaf a grëwyd erioed, ac y mae’n cael i ysgrifennu gan y bobl ar gyfer y bobl. Gall unrhyw un olygu ac ychwanegu at gynnwys yr adnodd cyfoethog hwn.

 

Gyda chefnogaeth ariannol Wikimedia UK mae’r cysyniad o Wicipediwr Preswyl eisoes wedi profi ei werth mewn sefydliadau eraill megis y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban ac Amgueddfa hanes naturiol. Nawr mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi penodi Wicipediwr Preswyl.

 

Bydd y cyfnod o breswylio yn rhedeg am flwyddyn gyda’r nod o adeiladu pontydd parhaol rhwng y Llyfrgell a Wicipedia. Bydd hyn yn rhoi llwyfan arall i ni  rannu ein casgliadau â’r byd, i wella maint ac ansawdd y cynnwys Wicipedia, yn enwedig yn yr iaith Gymraeg. Y gobaith yw, trwy gefnogi a chyfrannu at adnodd efo phroffil mor uchel y gallwn ddechrau sylweddoli uchelgais y Llyfrgell o ddarparu ‘Gwybodaeth i Bawb’ a bydd hyn yn ei dro yn denu pobl yn ôl at ein gwefan ac i’r Llyfrgell.

 

Bydd yr agwedd gyntaf o’r preswyliad yn canolbwyntio ar gynnig gweithdai i staff, fel y gallant ddod yn olygyddion Wicipedia eu hunain. Bydd cyfres o ddigwyddiadau o’r enw ‘Golygathonau’ hefyd yn cael eu trefnu, lle gall golygyddion gwirfoddol, o bob cefndir, ddod at ei gilydd a threulio diwrnod cyfan yn gwella’r cynnwys ar bwnc penodol, yn Gymraeg neu Saesneg (neu unrhyw iaith arall o’u dewis).

 

Bydd yr ail agwedd o’r cyfnod preswyl yn ymwneud â rhyddhau rhai o gasgliadau digidol y Llyfrgell ar drwyddedau agored fel y gellir eu llwytho i fyny i Wici-comin. Oddi yno gall unrhyw un ddefnyddio’r delweddau i wella cynnwys Wicipedia. Erbyn diwedd y cyfnod preswyl, y gobaith yw y bydd system fwy parhaol yn ei le, lle gall ein cyfryngau digidol gael eu rannu gyda Wicipedia fel mater o drefn.

 

O gywiro sillafu a gramadeg i greu erthyglau manwl, mae gan bawb ran i’w chwarae yn natblygiad Wicipedia fel porth i fywyd, diwylliant a hanes Cymru.

 

Jason Evans

Postiwyd - 19-01-2015

Arddangosfeydd / Casgliadau

A fedrwch chi fod yn wyneb cyhoeddus i’r Llyfrgell?

Mae dros 100 o wirfoddolwyr wedi bod yn helpu y tu ôl i’r llenni yn y Llyfrgell ers cychwyn y cynllun gwirfoddoli, gan gyflawni amrywiol dasgau, o adysgrifio i greu rhestri, o wirio ffotograffau mewn papurau newydd i roi trefn ar gasgliadau.  Mae’r prosiectau mwyaf diweddar yn hwyluso mynediad ein defnyddwyr i fapiau O. S. Cymru a Lloegr, ac i gofnodion copïau cofrestredig o ewyllysiau siroedd Cymru.

Dros y chwe mis nesaf, rydym yn chwilio am bobl brwdfrydig, sy’n medru sgwrsio’n rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, i fod yn wynebau cyhoeddus i’r Llyfrgell.  Trwy ymuno â’r cynllun ‘Lletygarwch’, byddwch yn estyn croeso i’n hymwelwyr a’u cyfeirio at yr amryw gyfleusterau o fewn yr adeilad; bydd cyfle i sgwrsio a chanfod eu barn ar ein gwasanaethau.
Os oes gennych ddiddordeb yn oes y Tuduriaid, beth am ddod yn Dywysydd i arddangosfa newydd cyffrous sy’n ystyried bywyd a gwaith cymeriad lliwgar o’r cyfnod – Syr Siôn Prys? Yn ei waith bob dydd, roedd Siôn Prys yn gyfrifol am groesholi bradwyr a gwrthryfelwyr, am weinyddu ysgariad cyntaf ei Frenin, ac am sicrhau buddiannau Harri VIII yn niddymiad y tai crefydd. Gartref, roedd yn un o ‘Wŷr y Dadeni Dysg’. Diogelodd y llawysgrif Gymraeg gynharaf a erys, Llyfr Du Caerfyrddin, yn ei lyfrgell bersonol, ac ef hefyd a gyhoeddodd y llyfr printiedig Cymraeg cyntaf, Yny lhyvyr hwn, yn Llundain yn 1546.

 

 

Dr. Maredudd ap Huw

Fel tywysydd, byddwch yn ychwanegu gwerth at brofiad ymwelwyr i’r arddangosfa ‘Llenor a lleidr?’ trwy ddarparu gwybodaeth ac ymateb i ymholiadau sylfaenol. Darperir hyfforddiant a gwybodaeth gan Dr. Maredudd ap Huw, Llyfrgellydd Llawysgrifau y Llyfrgell, darperir cefnogaeth drefniadol gan Gwyneth Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr. Felly, ar gychwyn blwyddyn newydd, beth am addunedi i roi tua dwy awr yr wythnos o’ch amser sbâr i gefnogi un o drysorau’r genedl – rhowch gynnig ar wirfoddoli!

Gwyneth Davies, Cydlynydd Gwirfoddolwyr.

Postiwyd - 15-01-2015

ArAgor / Casgliadau / Digido / Gwasanaethau Darllenwyr / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Wicipediwr i breswylio yn y Llyfrgell Genedlaethol

Wikipedia logo

Ceisiwch chwilio am unrhyw bwnc ar y We heb ganfod Wikipedia ymhlith eich prif ganlyniadau! Mae’r gwyddoniadur ar-lein wedi dod yn bell ers iddo ymddangos gyntaf ar 15 Ionawr 2001, gyda channoedd o filiynau o bobl nawr yn ei ddefnyddio bob mis. Cafodd fersiwn yn yr iaith Gymraeg hefyd ei lansio ym mis Gorffennaf 2013 ac mae bellach yn cynnwys dros 60,000 o erthyglau. A’r hyn sydd fwyaf rhyfeddol am Wikipedia yw eich bod nid yn unig yn gallu darllen ei gynnwys, ond hefyd ei olygu ac ychwanegu ato eich hun.

Gyda chynulleidfa mor eang ac fel adnodd sy’n cael ei greu a’i ddatblygu gan ei ddefnyddwyr, mae Wikipedia yn cynnig cyfle gwych i gyflwyno Cymru, ei diwylliant a’i hanes i’w phobl ac i’r byd.

Heddiw, mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dathlu penblwydd Wikipedia yn bedair-ar-ddeg trwy gyhoeddi bod Wicipediwr Preswyl wedi ei benodi mewn partneriaeth â Wikimedia UK. Bydd y swydd yn para blwyddyn ac yn ceisio sefydlu perthynas gynaladwy rhwng y Llyfrgell a Wikipedia.

Bydd y Wicipediwr yn edrych ar ddulliau newydd o ymgysylltu â defnyddwyr ac yn cynnal gweithgareddau fel ‘golygathonau’ er mwyn cynorthwyo staff a defnyddwyr y Llyfrgell i gyfrannu at Wikipedia.

Bydd hefyd yn cydweithio yn agos â staff y Llyfrgell i adnabod deunydd o gasgliadau’r Llyfrgell a fyddai’n addas i’w gyfrannu at y fersiynau Cymraeg a Saesneg o Wikipedia er mwyn codi ymwybyddiaeth o Gymru a’i phobl.

Mae Jason Evans wedi ei benodi i’r swydd a bydd yn dechrau ar ei waith ar 19 Ionawr.

 

Jason Evans

Jason Evans, Wicipediwr Preswyl yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

 

Postiwyd - 14-01-2015

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Blwyddyn Prys a Rhŷs

Mae perygl cymysgu dau o’n prif gymeriadau yma yn y Llyfrgell eleni, felly dyma gyfarwyddiadau syml i’ch helpu i wahaniaethu rhyngddynt …

Thomas Cromwell - meistr Siôn Prys

Thomas Cromwell – meistr Siôn Prys

Syr Siôn Prys oedd y brodor o Aberhonddu a aned tua 1501/2. Wedi ei hyfforddi yn y gyfraith, aeth ymlaen i wasanaethu Thomas Cromwell, meistr Wolf Hall. Fel gwas sifil, bu’n gyfrifol am ysgariad Harri VIII oddi wrth ei wraig gyntaf, ac am sicrhau llenwi coffrau’r Brenin adeg diddymiad y mynachlogydd. Diogelodd Lyfr Du Caerfyrddin, a bu’n gyfrifol am gyhoeddi’r llyfr Cymraeg cyntaf, Yny lhyvyr hwn (1546).

Sur John Rhŷs

Syr John Rhŷs

Syr John Rhŷs oedd y brodor o Bonterwyd, Ceredigion a aned yn 1840. Wedi hyfforddiant fel athro ysgol, a graddio yn y Clasuron, fe’i dyrchafwyd i Gadair Geltaidd Prifysgol Rhydychen yn 1877. Ef oedd ‘tad’ astudiaethau Celtaidd yr ugeinfed ganrif, a thrwy ei gyhoeddiadau a’i wersi, dylanwadodd ar genhedlaeth o ddisgyblion a arloesodd yn y maes. Mae ei archif gyfoethog yma yn y Llyfrgell.

Byddwn yn dathlu cyfraniad Siôn Prys yn ein harddangosfa yn y Llyfrgell, ‘Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf’, gyda digwyddiadau cysylltiol, rhwng 31 Ionawr a 27 Mehefin 2015.

Arddangosfa_ExhibitionNodir canmlwyddiant marw John Rhŷs eleni gyda dwy gynhadledd a drefnir gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth y Llyfrgell: y gyntaf ar 21 Chwefror yn yr Hen Goleg, a’r ail yma yn y Drwm ar 5 Rhagfyr 2015.

A dyna ni’n glir: does dim esgus bellach tros gymysgu Syr Siôn Prys a Syr John Rhŷs yn 2015!

Maredudd ap Huw

Postiwyd - 06-01-2015

Arddangosfeydd / Casgliadau / Heb ei gategoreiddio / Newyddion a Digwyddiadau

Gwlad o Fryniau, llond gwlad o awdlau

T. Gwynn JonesYm mis Chwefror 2014 prynodd y Llyfrgell Genedlaethol lawysgrif (NLW MS 24054A erbyn hyn) sy’n cynnwys drafft yn llaw T. Gwynn Jones (1871-1949) o’i awdl ‘Gwlad y Bryniau’, awdl a enillodd iddo gadair Eisteddfod Genedlaethol 1909 yn yr Albert Hall yn Llundain.

T. Gwynn Jones 2Mae’r llawysgrif yn un cyfansawdd, yn yr ystyr fod ynddi ddalennau’n dod o fwy nag un ffynhonnell.

Mae gan y Llyfrgell gopi arall o’r awdl yn llaw T. Gwynn Jones, sef llyfr poced bychan yng nghasgliad papurau’r bardd ei hunan (cyfeirnod D320). Mae hon yn union yr un maint ag NLW MS 24054A, ond gyda nifer sylweddol o ddalennau wedi eu rhwygo allan ohoni.

O gymharu’r ddwy gyfrol ochr-yn-ochr gwelir fod dalennau llinellog D320 yn cyd-fynd â’r rheini yn NLW MS 24054A. Ym mhob achos bron mae nifer y dail a gollwyd o D320 yn cyfateb yn union i’r dalennau llinellog yn NLW MS 24054A. Wrth ddarllen y ddwy gyfrol yn ofalus, ar y cyd â’r testun cyhoeddedig, mae’n bosib gweld bod yna ddrafft arall cyflawn o’r awdl yma, y drafft cyntaf un.

Picture 837Yn ôl bob tebyg cyfansoddodd Gwynn Jones yr awdl yn wreiddiol yn llyfr poced D320. Yn ystod y gwaith o adolygu’r drafft yma tynnodd y darnau yr oedd o’n ei ystyried yn ddigon da (a thaclus) i’w cadw allan o’r gyfrol. Ail ysgrifennodd y gweddill ar ddalennau newydd a chyfuno’r oll i greu drafft mwy gorffenedig, sef llawysgrif newydd NLW MS 24054A.

Mae cael y llawysgrif yma (a’r gyfrol gyfatebol D320) yn ein casgliadau felly yn ein galluogi i astudio nid un, ond dau ddrafft o’r awdl am y tro cyntaf.
Rhys M. Jones

Bydd llawysgrif Gwlad y Bryniau i’w gweld yn arddangosfa nesa’r Llyfrgell, ‘Beth sy’n newydd?’, rhwng 24 Ionawr a 9 Mai 2015.

Postiwyd - 05-12-2014

Casgliadau

Mr. Turner

Melin Aberdulais

Melin Aberdulais

 

Gan bod y ffilm Mr Turner yn dangos yn y sinema ar hyn o bryd, dyma gyfle i atgoffa ein hunain bod yma ddau lun gan J M W Turner yng nghasgliad y Llyfrgell.

Tra bod y ffilm yn canolbwyntio ar hanes a gwaith diweddarach Turner, mae ein dau lun yn enghreifftiau gwych o’i waith cynnar. Bu Turner yn teitho o gwmpas Cymru yn ystod diwedd 18fed Ganrif, roedd yn rhyfeddu at dirlun a hanes ein gwlad.

 

 

 

Castell Dolbadarn

Castell Dolbadarn

Am ragor o fanylion am Turner a’i waith sydd yn y Llyfrgell dilynwch y linc canlynol:

https://www.llgc.org.uk/cy/casgliadau/oriel-ddigidol/pictures/turnerandwales/

 

 

 

 

 

Lona Mason

 

 

Postiwyd - 26-11-2014

Casgliadau / Digido

Pwy oedd cyn-berchnogion y llyfr yma?

Plât llyfr Syr Owen Edwards [arlunydd: J. Kelt Edwards]

Plât llyfr Syr Owen Edwards [arlunydd: J. Kelt Edwards]

Ceir, fel arfer, nifer o arwyddion amlwg i olrhain hanes a tharddiad llyfr, yn cynnwys stampiau llyfrgell a rhifau silff gyfredol a hanesyddol, cofnodion mewn cofrestrau derbyn, platiau llyfr, rhwymiadau arbennig, cyflwyniadau perchnogaeth a nodiadau yn y llyfr.

 

Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn creu cofnodion catalog ar-lein i gasgliad o lyfrau pwysig Cymraeg a Chymreig cynnar oedd o’r blaen wedi eu catalogio ar gardiau yn unig. Wrth gatalogio’r rhain, tynnwyd fy sylw at rai o gyn-berchnogion y llyfrau arbennig yma, yn cynnwys yr hanesydd ac achydd, George Owen o Henllys (1552-1613), y naturiaethwr a’r teithiwr, Thomas Pennant (1726-1798), ac yn ddiweddarach y llenor Syr Owen Morgan Edwards (1858-1920).

 

Un o’r elfennau diddorol wrth weithio efo llyfrau cynnar yw sut y gallwn ddysgu fwy am eu cyn-berchnogion trwy astudio eu ‘stamp’ ar y llyfrau. Yn llyfr John Davies (1567-1644) Antiquae linguae Britannicae (1621), gwelwn fod y bardd ac ysgolhaig, Lewis Morris (‘Llewelyn Ddu o Fôn’ 1701-1765) a’i frawd Richard Morris, (1703-1779), sylfaenydd y Cymmrodorion, yn amlygu eu perchnogaeth o’r llyfr drwy ysgrifennu’r cyflwyniadau canlynol, yn bosib yn anghytuno mewn ysbryd hwyliog am bwy sydd berchen y llyfr:

 

Cyflwyniadau perchnogaeth mewn llawysgrifen o flaenddalen 'Antiquae Linguae Britannicae ...' (1621)

Cyflwyniadau perchnogaeth mewn llawysgrifen o flaenddalen ‘Antiquae Linguae Britannicae …’ (1621)

‘Llyfr Rhisiart Morys o Fôn, a brynodd Ynghaerludd.

Rhagfyr y 30: 1726 Ei bris 7s/6 …

 ‘Ond yn awr eiddofi Lewys Morys o Gaergybi. 1739’…

 ‘Ac yn awr eiddofi drachefn, ni rois ond ei fenthyg i mrawd L.M.

Llundain, Twr Gwyn 1765

Rhist. Morys’

 

Ceir sawl cofnod perchnogaeth bellach yn gysylltiedig â’r llyfr yma yn cynnwys …

 

‘… [Richard Morris] Who gave it to John Price of Jesus College Oxford’

… sef John Price (1734-1813), a benodwyd yn ddiweddarach yn Llyfrgellydd Llyfrgell Bodley, Rhydychen. Roedd yn gyfaill mawr i’r Morisiaid, sy’n esbonio ei fenthyciad o’r llyfr.

‘ Which book is now, 1769, in the possession of Mr. Tho. Ellis Curate of Holyhead’

… sef Thomas Ellis (1711/12-1792), clerigwr, Cymrawd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen ac awdur ‘Byr Grynhoad o’r Grefydd Gristnogol’ (1746).

‘Bought at the sale of the late Rees … of Gelligron near Pontardawe Glamorg. The above named gentleman was a son of Doctor Rees of the Encyclopaedia

D. Jeffreys (Rector of Newbrough) 1850’

… prynwyd y llyfr o aelod o’r teulu Rees, Gelli-gron, Pontardawe, gan David Jeffreys, Rheithor Plwyf Newborough, Esgobaeth Bangor (1850).

 

Yn ôl cofnodion derbyn y Llyfrgell, prynwyd y llyfr yma gan y Llyfrgell o Swyddfa’r ‘Genedl’ yng Nghaernarfon yn 1911. Roedd Y Genedl Gymreig yn bapur radical, dylanwadol a brynwyd gan aelodau o’r Senedd, gan gynnwys David Lloyd George, yn 1892.

 

Mae’r wybodaeth yma yn cwblhau perchnogaeth y llyfr o’r ddeunawfed ganrif hyd heddiw. Mae’n ddigon i’n difrifoli i feddwl bod y Cymry a nodwyd uchod wedi bodio drwy ddalennau’r llyfr bach, ond pwysig, yma.

 

Jayne Hughes.

← Cofnodion hynach Cofnodion mwy newydd →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog