Blog - Newyddion a Digwyddiadau

Postiwyd - 22-12-2015

Casgliadau / Digido / Digitisation / Newyddion a Digwyddiadau

Darlunio’r Nadolig gan mlynedd yn ôl

A hithau yn agosáu at dymor y Nadolig, mae nifer wedi bod yn brysur yn ysgrifennu eu cardiau Nadolig er mwyn eu postio cyn y dyddiadau postio olaf.

Mae’r ddelwedd a bortreadir ar gardiau Nadolig heddiw yn amrywio – mae rhai yn darlunio Stori’r Geni gyda’r baban Iesu yn gorwedd mewn preseb; y doethion yn teithio o’r Dwyrain; y dyrfa o’r llu nefol; neu’r bugeiliaid yn gwarchod eu praidd liw nos, gydag eraill yn cynnwys symbolau Cristnogol megis y seren neu golomen wen.  Mae rhai cardiau yn darlunio traddodiadau Nadolig gyda gwrthrychau fel coeden wedi’i haddurno, celyn, canhwyllau, neu ffigyrau megis Siôn Corn neu ddynion eira.  Mae eraill yn darlunio golygfa aeafol gyda thrwch o eira ar lawr, neu’n portreadu anifeiliaid sy’n gorfod ymgodymu gyda’r fath hinsawdd.  Ceir weithiau ambell i olygfa o Nadolig Fictoraidd er mwyn ein hatgoffa ni o Nadolig ‘perffaith’ yr oes o’r blaen, neu dro arall ceir darlun digrif i bortreadu hwyl yr Ŵyl.

Gwelwyd delweddau tebyg ar gardiau Nadolig oedd yn bodoli ryw ganrif yn ôl.  Fodd bynnag, o chwilota drwy archif ddigidol Rhyfel Byd Cyntaf a’r profiad Cymreig | The Welsh experience of the First World War a geir trwy ymweld â cymru1914.org, gellir dod ar draws cardiau a gynhyrchwyd yn arbennig ar gyfer y milwyr i’w hanfon adref yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Mawr.  Byddai catrodau a bataliynau yn cynhyrchu cardiau arbennig gan adlewyrchu yn aml eu gorchestion milwrol mewn brwydrau yn ystod y flwyddyn a fu, neu eu dyheadau am y dyfodol.  Trwy glicio ar y canlynol, gellir gweld esiampl o garden 1916; 1917; 1918; a charden Nadolig gyda thestun Cymraeg ar y blaen gan y 38th (Welsh) Division.

Gwelais un garden yng nghanol yr archif ddigidol fodd bynnag, na fyddai modd i chi wybod iddi gael ei hanfon yn ystod y Rhyfel Mawr.  Mae’n ddyluniad clasurol gyda defnydd arbennig o liw aur, gwyrdd a coch wrth ddarlunio celyn.

Daw’r garden o blith casgliad llawysgrifau’r Parchedig William David Roberts, fu’n rheithor ym mhlwyf Llanfair, ger Harlech rhwng 1913-1926.  Fodd bynnag, nid dyluniad y garden sydd o ddiddordeb pennaf, ond yr hyn sydd wedi’i ysgrifennu y tu mewn iddi.  Mae’r cyfarchiad yn darllen “TO Mr Roberts.  FROM The Belgians – Llanfair”.  Yn ôl y marc post, postiwyd y garden ar 22 Rhagfyr 1915.

Wrth ddarllen trwy weddill y llawysgrif y mae’r garden hon yn perthyn iddi, gellir gosod y garden yn ei chyd-destun hanesyddol.  Mae’r papurau yno yn tystio i bwyllgor gael ei ffurfio i gynorthwyo ffoaduriaid Belgaidd yn Llanfair ym mis Hydref 1914, gyda W. D. Roberts yn ysgrifennydd ar y pwyllgor.  Gyda’r modd i gynnig llety i chwech mewn tŷ wedi’i ddodrefnu, cyrhaeddodd y Belgiaid ganol Rhagfyr y flwyddyn honno gan ymgartrefu ym Mrondirion tan Mai 1916.

Mae’n amlwg i drigolion Llanfair wneud eu gorau i ddarparu ar gyfer y rheiny oedd wedi ffoi o’u gwlad oherwydd goresgyniad byddin yr Almaen ar Wlad Belg ar 4 Awst 1914.  Amcangyfrifwyd i dros 250,000 gael lloches ym Mhrydain yn ystod blynyddoedd y Rhyfel Mawr.  Gwelwyd posteri recriwtio fel yr un yma yn dwyn perswâd ar fechgyn y wlad i ymrestru oherwydd yr hyn a ddigwyddodd yr haf hwnnw.

Wrth i ni heddiw arddangos y cardiau Nadolig a dderbyniwn oddi wrth ein teulu a’n ffrindiau, cofiwn am y ffoaduriaid hynny a ddaeth ganrif yn ôl i’r wlad hon i geisio lloches rhag erchyllterau dyn.  Nid peth newydd yw gorfod ffoi fodd bynnag.  Heddiw, yn yr unfed ganrif ar hugain, ceir dros 20 miliwn o ffoaduriaid o gwmpas y byd, ac wrth i ni ddathlu a galw i gof y Nadolig cyntaf hwnnw, cofiwn mai ffoadur fu’r baban hefyd.

 

D. Rhys Davies

Postiwyd - 14-12-2015

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Cofio canrif cawr o Bonterwyd

Ddydd Mawrth, Rhagfyr 17, bydd yn union ganrif ers marw Syr John Rhŷs, yr ysgolhaig Celtaidd o Geredigion a Rhydychen.  Roedd yn un o gefnogwyr cynnar y Llyfrgell Genedlaethol, ac yn un o aelodau cyntaf hen Lys Llywodraethwyr y sefydliad hwn.  Yn ddiweddar, yn addas ddigon, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau tros benwythnos yn y Llyfrgell i gofio amdano, ac i ail-gloriannu ei fywyd a’i waith.

Nos Wener, 4 Rhagfyr, lansiwyd y digwyddiadau coffadwriaethol trwy ddadorchuddio penddelw trawiadol newydd o Syr John, a hynny gan ein Llyfrgellydd Linda Tomos a’n Curadur Celf, Lona Mason.  Gwaith y cerflunydd R.L. Gapper yw’r penddelw, wnaed yn wreiddiol ganddo yn 1953, yn unswydd o bosibl ar gyfer Ysgol Syr John Rhŷs ym Mhonterwyd.  Mae’n ychwanegiad gwerthfawr at gasgliad penddelwau’r Llyfrgell.

Yn dilyn y dadorchuddio, cafwyd darlith ddifyr a dadlennol gan yr Athro Angela V. John o Brifysgol Abertawe yn taflu goleuni newydd ar fywydau a gyrfaoedd Myvanwy ac Olwen Rhŷs, merched Syr John.  Er iddynt gael magwrfa freintiedig yn Rhydychen, bu’n rhaid i’r ddwy lafurio’n galed fel merched i sicrhau statws academaidd teilwng yn ystod chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif.  Roedd yn destun gweddus i ddarlith y Canmlwyddiant, o ystyried cefnogaeth John Rhŷs ei hunan i hawliau merched yn Rhydychen.

Ddydd Sadwrn, 5 Rhagfyr, cynhaliwyd cynhadledd academaidd yn y Drwm i ail-gloriannu bywyd a gwaith Syr John Rhŷs.  Cyflwynwyd papurau ar ei gyfraniad fel addysgydd ac ieithydd, ymysg pynciau eraill, a deilliai llawer o’r drafodaeth o ymchwil y cyfranwyr ymysg archif gyfoethog John Rhŷs sydd yma’n ddiogel yn y Llyfrgell.  Cafwyd cipdrem ar yr archif trwy gyfrwng arddangosfa yn Ystafell Summers, a braf oedd gweld cynrychiolaeth gref o Goleg Iesu Rhydychen yn gwerthfawrogi cynnyrch yr hen Brifathro.  Lansiwyd adnodd digidol newydd, cyfran fechan o ohebiaeth John Rhŷs, ond cam i’r cyfeiriad iawn (!), i gyd-fynd â’r gynhadledd.

Ar nodyn personol, cefais gyfle ddydd Llun, wedi’r penwythnos, i bererindota i gyfeiriad Nant-y-moch, ac ymweld â man geni John Rhŷs yn Aberceiro-fach, Ponterwyd.  Seiliau’r bwthyn yn unig sy’n aros, gyda phlac yn nodi mai yno, yn yr unigeddau, y ganed un o ysgolheigion Celtaidd mwyaf ei oes.  Mae’n braf meddwl nad yw’n angof yn 2015, ganrif wedi ei farw.

Maredudd ap Huw

Postiwyd - 30-11-2015

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau / Research

Pwy sy’n dŵad dros y bryn …

John Rhys dan orchudd

Efallai mai edrych ymlaen at ymweliad Siôn Corn â’r Llyfrgell nos Iau y bydd llawer ohonoch, ond mae ymwelydd arbennig iawn eisoes wedi cyrraedd yr adeilad, a hynny’n hwyr nos Wener, yn y tywyllwch, yn ddistaw, ddistaw bach. Ar hyn o bryd, mae’n guddiedig dan gwrlid, a does neb yn cael ei weld.

I’w weld am y tro cyntaf, bydd yn rhaid i chi godi tocyn a dod i’r Drwm nos Wener yma erbyn 7.30. Ar ddechrau darlith yr Athro Angela V. John ar Myvanwy ac Olwen Rhŷs, bydd y cwrlid yn cael ei dynnu ar y llwyfan, a bydd penddelw newydd sbon o’u tad, yr ysgolhaig Celtaidd Syr John Rhŷs, yn cael ei ddadorchuddio a’i dderbyn i gasgliad y Llyfrgell.

 

Ei farf yn llaes, a’i wallt yn wyn …
Mae Syr John, yn walltog a barfog, eisoes i’w weld y tu allan i Stafell y Cyngor yn y Llyfrgell, ar ffurf penddelw marmor o waith W. Goscombe John. Gwnaed y penddelw arall yn ddiweddar o efydd, a hynny ar sail cerflun gwreiddiol o waith Robert Lambert Gapper. Mae’r Llyfrgell yn hynod falch o allu ei gomisiynu ar achlysur canmlwyddiant marw John Rhŷs, un o’n cefnogwyr cynharaf.

John Rhys Goscombe

John Rhŷs gan W. Goscombe John

A rhywbeth yn ei sach …
Fydd Syr John Rhŷs ddim yn dod i’r Llyfrgell yn waglaw. I nodi canmlwyddiant ei farw yn Rhagfyr 1915, rydym yn cynnal darlith a chynhadledd i ddathlu ac ail-gloriannu bywyd a gwaith Rhŷs. Bydd croeso i chi ymuno â ni’r penwythnos nesaf yn y Drwm, trwy docyn, ar gyfer darlith a chynhadledd y Canmlwyddiant, gan fanteisio hefyd ar gyfle i ymweld ag arddangosfa yn Ystafell Summers i ryfeddu at gynnyrch gweithgarwch mawr y cawr o Bonterwyd.

Cwestiwn ac ateb
I gloi, petai rhywun yn gofyn mewn cwis y Nadolig yma: “Pwy sgwennodd eiriau’r gân, ‘Pwy sy’n dŵad dros y bryn’?” Na, nid Siôn Corn yw’r ateb cywir, ond J. Glyn Davies (‘Fflat Huw Puw’). Ac oes, mae gohebiaeth rhyngddo ef a John Rhŷs yma yn y Llyfrgell hefyd. Onid oes saith ryfeddod (a mwy!) ymysg ein casgliadau?

Maredudd ap Huw

Postiwyd - 27-11-2015

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Y Llyfrgell Genedlaethol yn cydweithio i gynnal yr arddangosfa wyddoniaeth gyntaf yn ei hanes.

Wrth gynnal arddangosfa Dirgel Ffyrdd Natur: Robert Hooke a Gwyddoniaeth gynnar, yr arddangosfa wyddonol gyntaf yn ei hanes, cydweithiodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda nifer o unigolion a chyrff eraill. Mae’r arddangosfa yn cynnwys eitemau gwerthfawr sydd wedi denu cynulleidfa newydd i’r Llyfrgell. Trefnwyd cyfres o ddarlithoedd i gyd-fynd gyda’r arddangosfa.
flee Hengwrt2
Canolbwynt yr arddangosfa yw’r llyfr Micrographia gan Robert Hooke a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Frenhinol 350 o flynyddoedd yn ôl, yn 1665. Dyfeisiodd Hooke y microsgop cyfansawdd, fel y gwelir esiampl ohono yn yr arddangosfa ac fe’i defnyddiodd yn ei arbrofion yng nghyfarfodydd y Gymdeithas Frenhinol. Drwy ei ficrosgop edrychodd Hooke ar bryfed, planhigion a phlu adar. Dangoswyd y rhain yn Micrographia gyda manylder mawr. Defnyddiodd Hooke y llyfr i awgrymu ffordd newydd i wneud gwyddoniaeth, drwy arsylwi a chofnodi’r canlyniadau. Daeth hyn yn ganllaw i’r dull gwyddonol o weithio. Mae’r llyfr yn cynnwys nifer o ddarluniau trawiadol plât-copr, er enghraifft y chwannen sydd yn agor i bedair gwaith maint y llyfr.

Yn ganolog i’r arddangosfa mae’r microsgop a’r telesgop a fenthycwyd o Amgueddfa Hanes Gwyddoniaeth yn Rhydychen. Ni welir esiamplau cynnar eraill o’r microsgop a’r telesgop yng Nghymru, ac roedd y Llyfrgell yn ddiolchgar i’r Amgueddfa am eu benthyg er mwyn adrodd stori gyflawn o wyddoniaeth gynnar. Gosododd Lucy Blaxland, Pennaeth Casgliadau yn yr Amgueddfa Hanes Wyddoniaeth yn Rhydychen, y ddau declyn yn Oriel Hengwrt gyda gweddill yr eitemau a ddaeth o gasgliadau’r Llyfrgell. Roedd y rhain yn deillio o gyfnod Robert Hooke ac Isaac Newton o sefydlu’r Gymdeithas Frenhinol ac ynghyd â Micrographia ac eitemau megis y Principia gan Isaac Newton, gwelir cyfraniadau gan y Cymry Robert Recorde, William Jones, Thomas Pennant ac Edward Lhuyd.

Delwedd enwog arall yn Micrographia yw astudiaeth Hooke o gorc o dan ficrosgop a thrwy hyn ef oedd y cyntaf, er yn ddiarwybod i ddechrau, i ddarganfod strwythur celloedd planhigion.

Bydd Yr Athro Deri Tomos o Brifysgol Bangor yn traddodi ar y pwnc hwn yn un o’r ddwy ddarlith sydd ar ôl yn y gyfres. Ei destun fydd Agor drws bywyd: Beth yn union ddarganfu Robert Hooke wrth ganfod y gell?. Cynhelir y ddarlith ar yr ail o Ragfyr a threfnir cyfieithiad ar y pryd i’r Saesneg.
Ar 6 Ionawr,  bydd yr Athro Sarah Hutton o Brifysgol Efrog yn darlithio yn Saesneg ar Stranger than fiction: Robert Hooke, Margaret Cavendish and satire on seventeenth-century science.

microscope2

Postiwyd - 23-11-2015

Casgliadau / Digido / Digitisation / Heb ei gategoreiddio / Newyddion a Digwyddiadau

Y Vaux Passional

I ddathlu wythnos #CaruDigidol mae’r Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi rhyddhau lluniau digidol o ansawdd uchel o un o’i lawysgrifau canoloesol pwysicaf a harddwch, Y Vaux Passional, i’r parth cyhoeddus drwy Wikimedia Commons. Mae llawer o’r delweddau hyn yn darlunio hanes y Dioddefaint Crist ac maent hefyd yn cynnwys, efallai’r portread cynharaf o Dywysog Harri, sef y brenin Harri VIII yn ddiweddarach.

 

Tagiau: , , ,

Postiwyd - 13-11-2015

Casgliadau / Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Cofio dros heddwch

Dydd Mercher, ar ddiwrnod Cadoediad 2015, teithiais lawr yr M4 gyda fy nghydweithiwr, Paul McCann, i Gaerdydd. Cyrhaeddom y Senedd cyn 11:00yb a chawsom gyfle i weld arddangosfa ddirdynnol a grymus Cofio Dros Heddwch, cyn i ni ddringo’r grisiau i’r balconi i goffáu diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a chofio’r unigolion dewr a gollodd eu bywydau.

 

Cymru dros heddwch 1

 

Wedi’r ddwy funud o dawelwch, cawsom ein cofleidio gan aelodau tîm Cymru Dros Heddwch, sef Craig Owen, Jane Harries, Noam Devey, Ffion Fielding, Hanna Huws a Fi Gilligan – project gan Ganolfan Materion Rhygwladol Cymru. Y tîm yma fu’n bennaf gyfrifol am greu’r arddangosfa a bu Llyfrgell Genedlaethol Cymru’n gweithio’n agos â hwy er mwyn creu prif ffocws y digwyddiad.

 

Roedd Canolfan Materion Rhygwladol Cymru am ddigido Llyfr y Cofio Cymreig 1914-1918, fel rhan o’i gweithgareddau i gofnodi canmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf. Cedwir y llyfr yn y deml heddwch yng Nghaerdydd, ond trwy ei ddigido a’i arddangos ar y we, bydd gan bawb ar draws y byd fynediad at y wybodaeth. Er i’r llyfr ei hun gael ei arddangos, canolbwynt yr arddangosfa oedd y rhyngwyneb – epil sgiliau metadata, digido, datblygu, codio a dylunio arbennig aelodau staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Roedd modd gweld y llyfr yn ei gyfanrwydd a’i ddarllen fel llyfr ar y we drwy syllwr mawr clir yn llanw’r sgrin.

 

Dyma Craig Owen, pennaeth project Cymru Dros Heddwch, wrthi’n rhoi cyflwyniad ar drawsgrifio i aelodau’r cynulliad a’r cyhoedd

Dyma Craig Owen, pennaeth project Cymru Dros Heddwch, wrthi’n rhoi cyflwyniad ar drawsgrifio i aelodau’r cynulliad a’r cyhoedd

 

Rhyngwyneb Llyfr Y Cofio. Wrth i wirfoddolwyr drawsgrifio’r wybodaeth sydd ar y sgrin, mae modd gwneud y data yn y llyfr yn gwbl chwiliadwy

Rhyngwyneb Llyfr Y Cofio. Wrth i wirfoddolwyr drawsgrifio’r wybodaeth sydd ar y sgrin, mae modd gwneud y data yn y llyfr yn gwbl chwiliadwy

 

Yn wir, roedd yn ddiwrnod arbennig iawn, gyda Aelodau’r Cynulliad yn ogystal a nifer go lew o’r cyhoedd yn derbyn cyflwyniadau grŵp a sesiynnau un-wrth-un. Daeth sawl AC megus Rhun ap Iorwerth, David Melding, Dâm Rosemary Butler, i enwi ambell un, draw yn eu tro i wrando ar Craig Owen a’i dîm yn esbonio sut oedd trawsgrifio’r wybodaeth yn y llyfr.

 

Craig Owen a Ffion Fielding o dîm Cymru Dros Heddwch a Paul McCann a Guto Morgan o’r Llyfrgell Genedlaethol

Craig Owen a Ffion Fielding o dîm Cymru Dros Heddwch a Paul McCann a Guto Morgan o’r Llyfrgell Genedlaethol

 

Cymru dros heddwch 5

Dorothy Trace a Richard Davidson yn llwyddo i chwilio perthynas yn Y Llyfr trwy ddefnyddio’r rhyngwyneb

 

Bydd y rhyngwyneb yn declun arbennig ar gyfer pob math o waith ymchwil, megus hanes teulu, doethuriaethau, prosiectau ysgol a chymunedol ayyb, ond yn bennaf oll, mae’n ein hatgoffa am y nifer arswydus o ddynion ifainc a fu farw’n ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, a’r ffaith na fyddwn fyth yn eu hanghofio. Rhaid i ni gofio dros heddwch.

 

Am fwy o hanes Llyfr Y Cofio, ewch i: https://www.llgc.org.uk/blog/?p=8523&lang=cy

 

 

Guto Morgan

Mynediad Digidol

Postiwyd - 03-11-2015

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Darlith Flynyddol yr Archif Wleidyddol Gymreig 2015

Traddodir darlilth yr Archif Wleidyddol Gymreig yn flynyddol ar nos Wener cyntaf mis Tachwedd. Pwrpas y ddarlith yw codi proffil archifau gwleidyddol yn y Llyfrgell Genedlaethol fel rhan o’r Archif Wleidyddol Gymreig; rhaglen o fewn y Llyfrgell Genedlaethol i gasglu a hyrwyddo deunydd archifol sy’n adlewyrchu bywyd gwleidyddol Cymru.

Mae’r teitl yn rhoi’r argraff mai gwleidyddion yn unig sy’n rhoi’r ddarlith ac er bod nifer o wleidyddion disglair gan gynnwys Yr Arglwydd Cledwyn o Benrhos, Yr Arglwydd Crughywel, Elystan Morgan a Cynog Dafis wedi traddodi’r ddarlith, mae darlithwyr dros y 28 mlynedd nesaf wedi cynnwys haneswyr fel John Davies ac Angela John a newyddiadurwyr fel Menna Richards. Cyhoeddwyd y darlithoedd cynnar fel llyfrynnau ond mae’r darlithoedd oddi ar 2003 ar gael i’w darllen ar y wê.

Y darlithydd eleni fydd Golygydd y BBC ar y Dwyrain Canol, Jeremy Bowen. Cymro balch yw Jeremy Bowen, yn wreiddiol o Gaerdydd er ei fod yn fwy tebygol erbyn hyn i fod yn Tehran na Threganna! Ers ymuno â’r BBC yn 1984 mae wedi bod yn ffigwr amlwg ar raglenni newyddion yn adrodd o lefydd gan gynnwys El Salvador, Rwanda, Somalia, Bosnia, Kosovo, Lebanon, Israel ac Iran. Yn ddiweddar mae wedi bod yn adrodd ar y rhyfel yn Syria, ac mae hyn wedi gwneud trefniadau’r ddarlith ychydig yn fwy heriol nag arfer. Nid yn aml mae archifydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn trafod manylion digwyddiad yn Aberystwyth gyda rhywun yng nghanol rhyfel!

Nid yw Aberystwyth yn ddiethr i Jeremy Bowen. Daeth yn Gymrawd Brifysgol Aberystwyth y llynedd ac mae’n amlwg bod Aberystwyth yn hoff ohono – roedd tocynnau i’r ddarlith i gyd wedi mynd o fewn ychydig wythnosau ac roedd yn rhaid trefnu darlledu’r ddarlith i Ystafell y Cyngor fel bod rhagor o bobl yn medru bod yn rhan o’r digwyddiad.

Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn i glywed y ddarlith, ac i’r rhai sydd heb gael tocyn eto, bydd y ddarlith i’w darllen ar wefan yr Archif Wleidyddol Gymreig.

 

Rob Phillips

← Older Posts Newer Posts →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog