Blog - Digido

Postiwyd - 14-01-2015

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Blwyddyn Prys a Rhŷs

Mae perygl cymysgu dau o’n prif gymeriadau yma yn y Llyfrgell eleni, felly dyma gyfarwyddiadau syml i’ch helpu i wahaniaethu rhyngddynt …

Thomas Cromwell - meistr Siôn Prys

Thomas Cromwell – meistr Siôn Prys

Syr Siôn Prys oedd y brodor o Aberhonddu a aned tua 1501/2. Wedi ei hyfforddi yn y gyfraith, aeth ymlaen i wasanaethu Thomas Cromwell, meistr Wolf Hall. Fel gwas sifil, bu’n gyfrifol am ysgariad Harri VIII oddi wrth ei wraig gyntaf, ac am sicrhau llenwi coffrau’r Brenin adeg diddymiad y mynachlogydd. Diogelodd Lyfr Du Caerfyrddin, a bu’n gyfrifol am gyhoeddi’r llyfr Cymraeg cyntaf, Yny lhyvyr hwn (1546).

Sur John Rhŷs

Syr John Rhŷs

Syr John Rhŷs oedd y brodor o Bonterwyd, Ceredigion a aned yn 1840. Wedi hyfforddiant fel athro ysgol, a graddio yn y Clasuron, fe’i dyrchafwyd i Gadair Geltaidd Prifysgol Rhydychen yn 1877. Ef oedd ‘tad’ astudiaethau Celtaidd yr ugeinfed ganrif, a thrwy ei gyhoeddiadau a’i wersi, dylanwadodd ar genhedlaeth o ddisgyblion a arloesodd yn y maes. Mae ei archif gyfoethog yma yn y Llyfrgell.

Byddwn yn dathlu cyfraniad Siôn Prys yn ein harddangosfa yn y Llyfrgell, ‘Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf’, gyda digwyddiadau cysylltiol, rhwng 31 Ionawr a 27 Mehefin 2015.

Arddangosfa_ExhibitionNodir canmlwyddiant marw John Rhŷs eleni gyda dwy gynhadledd a drefnir gan Adran y Gymraeg, Prifysgol Aberystwyth, gyda chefnogaeth y Llyfrgell: y gyntaf ar 21 Chwefror yn yr Hen Goleg, a’r ail yma yn y Drwm ar 5 Rhagfyr 2015.

A dyna ni’n glir: does dim esgus bellach tros gymysgu Syr Siôn Prys a Syr John Rhŷs yn 2015!

Maredudd ap Huw

Postiwyd - 06-01-2015

Arddangosfeydd / Casgliadau / Heb ei gategoreiddio / Newyddion a Digwyddiadau

Gwlad o Fryniau, llond gwlad o awdlau

T. Gwynn JonesYm mis Chwefror 2014 prynodd y Llyfrgell Genedlaethol lawysgrif (NLW MS 24054A erbyn hyn) sy’n cynnwys drafft yn llaw T. Gwynn Jones (1871-1949) o’i awdl ‘Gwlad y Bryniau’, awdl a enillodd iddo gadair Eisteddfod Genedlaethol 1909 yn yr Albert Hall yn Llundain.

T. Gwynn Jones 2Mae’r llawysgrif yn un cyfansawdd, yn yr ystyr fod ynddi ddalennau’n dod o fwy nag un ffynhonnell.

Mae gan y Llyfrgell gopi arall o’r awdl yn llaw T. Gwynn Jones, sef llyfr poced bychan yng nghasgliad papurau’r bardd ei hunan (cyfeirnod D320). Mae hon yn union yr un maint ag NLW MS 24054A, ond gyda nifer sylweddol o ddalennau wedi eu rhwygo allan ohoni.

O gymharu’r ddwy gyfrol ochr-yn-ochr gwelir fod dalennau llinellog D320 yn cyd-fynd â’r rheini yn NLW MS 24054A. Ym mhob achos bron mae nifer y dail a gollwyd o D320 yn cyfateb yn union i’r dalennau llinellog yn NLW MS 24054A. Wrth ddarllen y ddwy gyfrol yn ofalus, ar y cyd â’r testun cyhoeddedig, mae’n bosib gweld bod yna ddrafft arall cyflawn o’r awdl yma, y drafft cyntaf un.

Picture 837Yn ôl bob tebyg cyfansoddodd Gwynn Jones yr awdl yn wreiddiol yn llyfr poced D320. Yn ystod y gwaith o adolygu’r drafft yma tynnodd y darnau yr oedd o’n ei ystyried yn ddigon da (a thaclus) i’w cadw allan o’r gyfrol. Ail ysgrifennodd y gweddill ar ddalennau newydd a chyfuno’r oll i greu drafft mwy gorffenedig, sef llawysgrif newydd NLW MS 24054A.

Mae cael y llawysgrif yma (a’r gyfrol gyfatebol D320) yn ein casgliadau felly yn ein galluogi i astudio nid un, ond dau ddrafft o’r awdl am y tro cyntaf.
Rhys M. Jones

Bydd llawysgrif Gwlad y Bryniau i’w gweld yn arddangosfa nesa’r Llyfrgell, ‘Beth sy’n newydd?’, rhwng 24 Ionawr a 9 Mai 2015.

Postiwyd - 05-12-2014

Casgliadau

Mr. Turner

Melin Aberdulais

Melin Aberdulais

 

Gan bod y ffilm Mr Turner yn dangos yn y sinema ar hyn o bryd, dyma gyfle i atgoffa ein hunain bod yma ddau lun gan J M W Turner yng nghasgliad y Llyfrgell.

Tra bod y ffilm yn canolbwyntio ar hanes a gwaith diweddarach Turner, mae ein dau lun yn enghreifftiau gwych o’i waith cynnar. Bu Turner yn teitho o gwmpas Cymru yn ystod diwedd 18fed Ganrif, roedd yn rhyfeddu at dirlun a hanes ein gwlad.

 

 

 

Castell Dolbadarn

Castell Dolbadarn

Am ragor o fanylion am Turner a’i waith sydd yn y Llyfrgell dilynwch y linc canlynol:

https://www.llgc.org.uk/cy/casgliadau/oriel-ddigidol/pictures/turnerandwales/

 

 

 

 

 

Lona Mason

 

 

Postiwyd - 26-11-2014

Casgliadau / Digido

Pwy oedd cyn-berchnogion y llyfr yma?

Plât llyfr Syr Owen Edwards [arlunydd: J. Kelt Edwards]

Plât llyfr Syr Owen Edwards [arlunydd: J. Kelt Edwards]

Ceir, fel arfer, nifer o arwyddion amlwg i olrhain hanes a tharddiad llyfr, yn cynnwys stampiau llyfrgell a rhifau silff gyfredol a hanesyddol, cofnodion mewn cofrestrau derbyn, platiau llyfr, rhwymiadau arbennig, cyflwyniadau perchnogaeth a nodiadau yn y llyfr.

 

Dros y misoedd diwethaf, rwyf wedi bod yn creu cofnodion catalog ar-lein i gasgliad o lyfrau pwysig Cymraeg a Chymreig cynnar oedd o’r blaen wedi eu catalogio ar gardiau yn unig. Wrth gatalogio’r rhain, tynnwyd fy sylw at rai o gyn-berchnogion y llyfrau arbennig yma, yn cynnwys yr hanesydd ac achydd, George Owen o Henllys (1552-1613), y naturiaethwr a’r teithiwr, Thomas Pennant (1726-1798), ac yn ddiweddarach y llenor Syr Owen Morgan Edwards (1858-1920).

 

Un o’r elfennau diddorol wrth weithio efo llyfrau cynnar yw sut y gallwn ddysgu fwy am eu cyn-berchnogion trwy astudio eu ‘stamp’ ar y llyfrau. Yn llyfr John Davies (1567-1644) Antiquae linguae Britannicae (1621), gwelwn fod y bardd ac ysgolhaig, Lewis Morris (‘Llewelyn Ddu o Fôn’ 1701-1765) a’i frawd Richard Morris, (1703-1779), sylfaenydd y Cymmrodorion, yn amlygu eu perchnogaeth o’r llyfr drwy ysgrifennu’r cyflwyniadau canlynol, yn bosib yn anghytuno mewn ysbryd hwyliog am bwy sydd berchen y llyfr:

 

Cyflwyniadau perchnogaeth mewn llawysgrifen o flaenddalen 'Antiquae Linguae Britannicae ...' (1621)

Cyflwyniadau perchnogaeth mewn llawysgrifen o flaenddalen ‘Antiquae Linguae Britannicae …’ (1621)

‘Llyfr Rhisiart Morys o Fôn, a brynodd Ynghaerludd.

Rhagfyr y 30: 1726 Ei bris 7s/6 …

 ‘Ond yn awr eiddofi Lewys Morys o Gaergybi. 1739’…

 ‘Ac yn awr eiddofi drachefn, ni rois ond ei fenthyg i mrawd L.M.

Llundain, Twr Gwyn 1765

Rhist. Morys’

 

Ceir sawl cofnod perchnogaeth bellach yn gysylltiedig â’r llyfr yma yn cynnwys …

 

‘… [Richard Morris] Who gave it to John Price of Jesus College Oxford’

… sef John Price (1734-1813), a benodwyd yn ddiweddarach yn Llyfrgellydd Llyfrgell Bodley, Rhydychen. Roedd yn gyfaill mawr i’r Morisiaid, sy’n esbonio ei fenthyciad o’r llyfr.

‘ Which book is now, 1769, in the possession of Mr. Tho. Ellis Curate of Holyhead’

… sef Thomas Ellis (1711/12-1792), clerigwr, Cymrawd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen ac awdur ‘Byr Grynhoad o’r Grefydd Gristnogol’ (1746).

‘Bought at the sale of the late Rees … of Gelligron near Pontardawe Glamorg. The above named gentleman was a son of Doctor Rees of the Encyclopaedia

D. Jeffreys (Rector of Newbrough) 1850’

… prynwyd y llyfr o aelod o’r teulu Rees, Gelli-gron, Pontardawe, gan David Jeffreys, Rheithor Plwyf Newborough, Esgobaeth Bangor (1850).

 

Yn ôl cofnodion derbyn y Llyfrgell, prynwyd y llyfr yma gan y Llyfrgell o Swyddfa’r ‘Genedl’ yng Nghaernarfon yn 1911. Roedd Y Genedl Gymreig yn bapur radical, dylanwadol a brynwyd gan aelodau o’r Senedd, gan gynnwys David Lloyd George, yn 1892.

 

Mae’r wybodaeth yma yn cwblhau perchnogaeth y llyfr o’r ddeunawfed ganrif hyd heddiw. Mae’n ddigon i’n difrifoli i feddwl bod y Cymry a nodwyd uchod wedi bodio drwy ddalennau’r llyfr bach, ond pwysig, yma.

 

Jayne Hughes.

Postiwyd - 20-11-2014

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Powdwr gwallt a chlociau a threthi amhoblogaidd eraill

Arddangosfa Trethi yng Nghymru , 20 – 28 Tachwedd 2014
Codwyd trethi dros y blynyddoedd ar diroedd ac aelwydydd, ond hefyd ar adloniant, ffenestri, clociau, a phowdwr gwallt. Roedd nifer o’r trethi yn amhoblogaidd fel y dangosodd yr ymgyrch yn erbyn treth y pen yn y 1990au. Diddymwyd y dreth ar glociau yn 1797 am fod gwneuthurwyr clociau ym mynd allan o fusnes, a diddymwyd y dreth ar friciau yn 1850 am ei fod yn rhwystr i’r chwyldro diwydiannol. Roedd y dreth ar wydr (1746-1845) a ffenestri (1748-1851) yn cael ei weld gan rai fel treth ar awyr iach a golau ddydd.

Datganiad treth Iarll Powis

Datganiad treth Iarll Powis, 1800 (LlGC/NLW, Powis Castle 17664.

Stampdoll oedd y dreth ar bowdr gwallt (1795-1869) , hynny yw doedd y powdwr ei hun ddim wedi’i drethu, ond rhaid oedd i’r defnyddwyr fynd i’r swyddfa stampiau bob blwyddyn i brynu tystysgrif wedi’i stampio er mwyn medru defnyddio powdwr gwallt. Roedd y powdwr yn help i osgoi cael llai pen a gwelwn yn y ddogfen yma fod yr Iarll Powis yn 1800 yn cael trwydded ar gyfer ef ei hun – a phawb oedd yn dod yn agos ato, sef “Housekeeper, butler, valet, cook, porter, footman, under butler and coachman”.

 
Eitem arall yn yr arddangosfa yw’r cerdyn post yn erbyn treth y pen yn cyfeirio’n ôl at ymosodiadau Rebeca ar dolltai’r cwmnïau tyrpeg, 1839-1843. “Mae Beca’n dweud rhowch ben ar dreth y pen”. Bwriadwyd i dreth y pen (‘Community Charge’, 1990-1993) fod yn gyfnewid ar gyfer y trethi teuluol, ond cafodd ei gyfnewid ei hun gan y system dreth cyngor cyfredol.

Mae Beca’n dweud rhowch ben ar dreth y pen (LlGC/NLW, Bert Pearce WA 5/4)

Mae Beca’n dweud rhowch ben ar dreth y pen (LlGC/NLW, Bert Pearce WA 5/4)

Bydd Bil Cymru sy’n mynd drwy’r Senedd ar hyn o bryd yn cynnig deddfwriaeth drethi I Gymru am y tro cyntaf yn y cyfnod modern. Mae’r arddangosfa yn gyflwyniad difyr i hanes trethi yng Nghymru, ac yn annog pobl i fynegi eu barn ar ddatblygu cyfundrefn drethi Cymru. Dewch i weld ystod o ddogfennau yn adrodd stori trethi yng Nghymru yn Y Llyfrgell Genedlaethol, 20—28 Tachwedd, gydag arddangosfa gysylltiol ym Mhrifysgol Bangor ac Archifau Morgannwg, Caerdydd.

Nia Mai Daniel

Postiwyd - 05-11-2014

Casgliadau

TRO TRWY’R TYMHORAU

Mae ‘trysorau’ Llyfrgell Genedlaethol Cymru bellach yn ddiarhebol a’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u gwneud yn hysbys i’r cyhoedd. Ond ychydig a ŵyr efallai am un o’i thrysorau cudd.

Lona Mason awgrymodd ‘n’ôl yn 2012 y dyliwn fod yn bresennol pan fyddai’n cyfarfod mintai fechan o berthnasau a chyfeillion yr arlunydd Mary Rennell (1901-1981), neu Mary Constance Vivian Rodd, y Foneddiges Rennell, i roi ei henw a’i theitl llawn iddi. Pwrpas eu hymweliad oedd cael golwg ar gampwaith y Foneddiges Rennell, sef cyfres o ddeuddeg panel sy’n dangos yr olygfa o Fryn Stonewall, sir Faesyfed trwy gydol deuddeg mis a phedwar tymor y flwyddyn.  Rywfaint yn annisgwyl, er mai tirwedd gwyllt dwyrain Cymru a bortreadir yma mae iddo naws ‘dwyreiniol’ mewn ystyr arall oherwydd dewisodd Mary Rennell inc Tseinïaidd ar bapur reis yn gyfrwng i ddarlunio’r ehangder Cymreig o’i hamgylch.

 

Mary Rennell 'Round the year from Stonewall Hill'

Mary Rennell ‘Round the year from Stonewall Hill’ (1968-69).

Bwriadwyd i’r paneli gael eu harddangos ochr yn ochr mewn cylch neu hanner cylch er mwyn pwysleisio parhad di-dor yr olygfa o un panel i’r llall a hefyd i gyfleu symudiad a newidiadau graddol y tymhorau gyda throad y rhod. Fe ddangosir manylion y tirwedd yn ogystal â’i orwelion pell – coed gosgeiddig, blodau gwyllt lleol, defaid a cheffylau’n pori, giât agored, ac ambell ffermdy’n llochesu yng nghôl y bryniau – a cheir amgrymiadau cynnil o drawsnewidiadau tymhorol, er enghraifft trwy ychwanegu mymryn o liw i’r caeau a’r awyr.

A pham mai trysor ‘cudd’ yw hwn? Am fod y paneli, ar hyn o bryd, yn aros yn amyneddgar yn un o storfeydd y Llyfrgell nes y cânt weld golau dydd unwaith eto. Gwn y byddai’r criw eiddgar ddaeth yma ddwy flynedd yn ôl i weld gwaith hynod eu perthynas talentog ar ben eu digon o weld ffrwyth ei llafur yn ei briod le o’r diwedd – yn rhan o arddangosfa efallai?

Bethan Ifan

Postiwyd - 30-10-2014

Arddangosfeydd / Casgliadau

Arwr y Troad Allan : hen ewythr Dylan Thomas

Adeg etholiad 1868, penderfynodd rhai o ffermwyr Sir Aberteifi beidio â phleidleisio yn ôl dymuniad eu tirfeddianwyr Torïaidd. Roedd fy hen hen dad-cu, Benjamin Jones, a drigai ar stad Llanfair yn un o’r ffermwyr hynny. Nid oedd pleidlais gudd yn bosib a daeth ymwelydd heibio i’r ffarm gyda notis i Benjamin i adael ei gartref.

 

Cyrhaeddodd notis i Dafydd Jones o stad gyfagos Alltyrodyn hefyd, er ei fod ef a’i wraig wedi colli pedwar o’u plant. Penderfynodd y teulu mai eu hunig obaith oedd ymfudo i’r Amerig ond canlyniad trychinebus y daith oedd i Dafydd golli gweddill ei deulu.

 

Un a oedd yn gyfarwydd â thrasiedi’r teulu hwn, ac a fu’n bresennol yn y cwrdd a gynhaliwyd i ffarwelio â’r teulu cyn iddynt ymfudo, oedd gweinidog Undodaidd ifanc o’r enw William Thomas (Gwilym Marles), sef hen ewythr y bardd Dylan Thomas.

 

Ers ymsefydlu’n ysgolfeistr ac yn weinidog yng Nghapeli Llwynrhydowen a Bwlchyfadfa, ymdaflodd yn angerddol i’r gwaith o ddiwygio anghyfiawnderau’r oes, er gwaetha’r dial oedd yn sicr iawn o ddilyn. Trafodai’r gorthrwm gwleidyddol mewn pulpud ac ar lwyfan, a heriodd wendidau’r system addysg. Ymgyrchodd dros Fwrdd Ysgol yn Etholiad Bwrdd Ysgol 1871 a brwydrodd yn galed yn erbyn yr ofergoel a ddanfonodd Sarah Jacob i’w bedd yn 12 oed. Gwaethygodd ei iechyd yn ddirfawr.

"Gwilym Marles a'r Troad Allan, Capel Llwynrhydowen, 1876" Hawlfraint: Jacqueline Chadwick. Cedwir pob hawl.

“Gwilym Marles a’r Troad Allan, Capel Llwynrhydowen, 1876″
Hawlfraint: Jacqueline Chadwick. Cedwir pob hawl.

 

Un nos Sadwrn yn 1876, cyrhaeddodd llythyr oddi wrth gynrychiolydd sgweier Alltyrodyn yn gwahardd Gwilym Marles a’i gynulleidfa o Gapel Llwynrhydowen. Cwbl ofer fu’r ymgais i’w ddistewi a thrannoeth cafwyd anerchiad trydanol ganddo o flaen torf fawr y tu allan i gât cloëdig Capel Llwynrhydowen. Yn y fynwent, y tu hwnt i’r cloeon, gorweddai anwyliaid y gynulleidfa ond gwrthododd y gynulleidfa honno gynnig y sgweier i godi’r gwaharddiad pe bodlonent ar gael gweinidog arall. Wythnos ar ôl y “Troad Allan”, roedd eu gweinidog yn annerch y wasg.

 

Yn sydyn ac annisgwyl, cafodd Gwilym Marles wahoddiad i fynd i gwrdd â’r sgweier, John Davies Lloyd, yn y plas. Gorweddai rifolfer ar y bwrdd o’i flaen. Cyfaddefodd ei fod eisoes wedi lladd dyn yn Califfornia ac y byddai’n lladd eto pe bai raid. Fe’i blinid gan ofnau di-sail a dychmygai fod Gwilym Marles wedi bod yn ei fygwth â thân tragwyddol uffern o’i bulpud bob dydd Sul. Atebodd y gweinidog nad oedd Undodiaid yn credu yn y fath beth i unrhyw un.

 

Dywedodd Gwilym Marles fod pobl yn dweud wrtho’n aml mai achos ei helbulon i gyd oedd ei fod yn siarad yn rhy blaen ac yn ymosod yn rhy ddiarbed ar orthrwm a thrais. Ei ateb oedd: “Pechaf hyd y diwedd”. Casglwyd arian i godi capel newydd (y “Capel Coffa”), a phan osodwyd y garreg sylfaen ym Mehefin 1878, dywedodd Gwilym Marles, “Gall y gwrthwynebwr fynd a’r ganhwyllbren, fe a’i pia, ond ni chaiff neb symud y gannwyll. Cannwyll Duw ydyw”.

 

Bu farw’r sgweier ifanc ac ysgrifennodd Gwilym Marles am deimlad o dristwch anhraethol yn dilyn ei farwolaeth. Prysurodd chwaer y sgweier, Mrs Massey, i ddychwelyd hen gapel Llwynrhydowen i’r gynulleidfa. Ar ddiwrnod yr ailagoriad, ar Orffennaf 24, 1879, tynnwyd coets Mr. a Mrs. Massey yr holl ffordd o orsaf Llandysul i hen gapel Llwynrhydowen gan gannoedd o bobl gerfydd rhaffau, ac ymhlith y dyrfa honno oedd fy nhadcu. (Ni flinai adrodd y stori hon wrth fy nhad!). Aeth Gwilym Marles heibio’n araf mewn cerbyd, yn rhy sâl i aros, ond yn methu cadw draw.

 

Bedd Gwilym Marles (1834-1879), Capel Coffa, Llwynrhydowen Hawlfraint: Heini Davies

Bedd Gwilym Marles (1834-1879), Capel Coffa, Llwynrhydowen
Hawlfraint: Heini Davies

Ni welodd agor y capel newydd hardd y mis Hydref dilynnol, a bu farw ym mis Rhagfyr, ond yno, o flaen y capel newydd, y’i rhoddwyd i orffwys gan ei gyd-Undodiaid.

 

Un o ddywediadau taer Gwilym Marles oedd “Darllenwch!”. Gellir cael mwy o fanylion hanesyddol am y stori uchod mewn llyfrau gan awduron fel D. Jacob Davies, Nansi Martin, M. Wynn Thomas a Kate Crockett. Beth am ddod atom i ddarllen a gweld arddangosfa Dylan Thomas ar yr un pryd? Bydd yr arddangosfa yn para tan 20 Rhagfyr 2014.

 

Heini Davies

 

 

Postiwyd - 20-10-2014

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Trwsio Yny lhyvyr hwnn

Yny lhyvyr hwnn cYn ddyddiol yn Uned Gadwraeth y Llyfrgell, cawn gyfle i ddod wyneb yn wyneb â rhai o greiriau diwylliannol pwysicaf ein gwlad. Mae cael trin a diogelu eitemau o’r fath yn dipyn o fraint, ond wrth reswm, mae i’r gwaith elfen gref o gyfrifoldeb. Er yr ystyriwn fod pob eitem a ddaw atom yn werthfawr, o dro i dro daw ambell wrthrych sydd hyd yn oed yn fwy gwerthfawr neu eiconaidd na’r rhelyw. Roedd y gwaith a wnaethom ar Lawysgrif Boston yn enghraifft o hyn. Cyn dechrau ymyrryd â gwrthrychau o’r fath mae’n rhaid trafod, ymchwilio, ac ystyried yn ofalus iawn pa gamau i’w cymryd.

Dyma oedd yn rhaid i ni ei wneud yn ddiweddar pan gawsom y cyfrifoldeb o ddadrwymo, trin ac ailrwymo Yny lhyvyr hwnn (1546), y gyfrol brintiedig Gymraeg gyntaf (yn ôl pob tebyg) i’w chyhoeddi. Dyma’r unig gopi o’r gyfrol y gwyddom amdani – mwy fyth o bwysau ar ysgwyddau un o’n cadwraethwyr mwyaf profiadol a chymwys, John Jenkins (ARA Cert.), a gafodd y gwaith o adnewyddu’r gyfrol.

Yny lhyvyr hwnn aCafodd y gyfrol ei hailrwymo mewn cloriau newydd rhywbryd yn ystod yr ugeinfed ganrif, ac ymddengys nad yw’r cloriau gwreiddiol neu flaenorol wedi goroesi. Er hyn, roedd y tudalennau yn parhau mewn cyflwr bregus iawn, gyda nifer ohonynt wedi hollti yn agos at blygiad y meingefn. Roedd y rhwymiad modern tynn yn rhannol gyfrifol am y difrod hwn. Felly, roedd yn rhaid dadrwymo a thrwsio’r tudalennau cyn galluogi’r broses o sganio ar gyfer y we ac ar gyfer creu copi ffacsimili manwl o’r gyfrol ar gyfer dibenion arddangos, ffilmio ac addysgu.

Yny lhyvyr hwnn dNid oes lle yma i sôn yn fanwl am yr holl broses gadwraethol, ond defnyddiodd John dechnegau a deunyddiau cydnabyddedig y maes cadwraethol er mwyn cyflawni’r gwaith. Aeth ati wedyn i ddefnyddio’i sgiliau traddodiadol prin i ailrwymo’r gyfrol mewn arddull oedd yn gydnaws ag arddull rhwymiadau’r unfed ganrif ar bymtheg.

Mae’r gyfrol bellach yn agor yn llawer haws, ac nid oes straen ar y tudalennau. Bydd y gyfrol yn cael ei chartrefu mewn blwch arbennig dan amodau amgylcheddol sefydlog yn un o gelloedd y Llyfrgell. Bydd hyn yn gymorth i gadw Yny lhyvyr hwnn yn ddiogel am ganrifoedd eto i ddod.

 

Bydd Yny lhyvyr hwnn – ar ei newydd wedd – i’w weld yn ein harddangosfa nesaf – Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf – fydd yn agor yn Oriel Hengwrt ym mis Chwefror.

Iwan Bryn James

Postiwyd - 10-10-2014

Casgliadau / Digido

Geoff Charles

Mae’n deg dweud mai Geoff Charles oedd un o ffotograffwyr Cymreig amlycaf ei gyfnod. Mae ei waith fel ffoto-newyddiadurwr wedi galluogi iddo gymryd lluniau o ddigwyddiadau dros y wlad gan gynnwys digwyddiadau blynyddol megis eisteddfodau, ffeiriau a sioeau amaethyddol yn ogystal â digwyddiadau hanesyddol fel y protestiadau yn erbyn boddi Capel Celyn. Rydym yn ffodus bod casgliad negyddion Geoff Charles wedi ymgartrefu yma yn y Llyfrgell Genedlaethol erbyn hyn. Gyda’r casgliad bellach wedi ei ddigido, un o’r ffyrdd mwyaf effeithiol o godi ymwybyddiaeth ohono a chodi ei broffil yw rhannu’r lluniau yma ar-lein gan ddefnyddio Flickr oherwydd ei botensial i estyn allan i bobl ledled y byd.

Un o’m dyletswyddau i yma yn y Llyfrgell yw uwchlwytho pum delwedd o gasgliad Geoff Charles yn wythnosol ynghyd â chofnodi disgrifiad o’r delweddau ac ychwanegu tagiau perthnasol. Oherwydd maint y casgliad, mae’n hawdd mynd ar goll wrth bori trwy’r amryw drysorau sydd wedi eu dal mewn dull llun. Er mwyn hwyluso’r gwaith (a sicrhau bod y gwaith wedi ei gwblhau ar amser!) rwy’n ceisio clymu’r lluniau a ddewiswyd gyda themâu penodol sy’n gysylltiedig ag amser o’r flwyddyn neu ddigwyddiadau. Er enghraifft, gyda’r Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Sir Gâr yn Llanelli ddechrau Awst eleni, teimlais y byddai lluniau o’r Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli ynghyd ag Eisteddfodau Cenedlaethol dros Gymru yn clymu mewn yn dda. Yr yr un modd gyda’r Nadolig yn prysur agosáu, peidiwch â synnu os gwelwch chi dudalen Flickr y Llyfrgell yn bla o luniau Nadoligaidd wrth i ni agosau at yr Ŵyl.

Teimlaf drwy ganolbwyntio ar ddigwyddiadau tymhorol ei bod hi’n bosib cymharu sut mae ymddygiad a thraddodiadau cymdeithas wedi newid dros y degawdau diwethaf i gymharu â heddiw. Er bod rhai agweddau wedi newid yn ddramatig, gyda thrafnidiaeth a ffasiwn yn enghreifftiau amlwg, mae’n braf gweld bod rhai traddodiadau yn dal i barhau heddiw gyda chanu calennig yn enghraifft hyfryd o draddodiad sydd dal yn fyw.

Ni fyddai’r strategaeth yma o ddewis delweddau yn bosib oni bai bod digonedd o luniau i gyd-fynd gyda phob digwyddiad, ac rwy’n ffodus bod casgliad bron di-ddiwedd Geoff Charles yn galluogi i mi wneud hyn. Serch hynny, pan nad oes digwyddiad neu achlysur penodol ambell i wythnos , mae cyfle i mi uwchlwytho lluniau diddorol neu ddoniol y deuthum ar eu traws yn y gorffennol wrth chwilio am luniau penodol. Teimlaf fod hyn yn ffordd hwylus i rannu lluniau gwahanol na fyddent yn cael eu rhannu fel arall. Gallaf feddwl am rai enghreifftiau megis ‘Gêm Bêl-droed digri er budd Cronfa Apêl Eglwys Plwyf St Martins’ a “Dawnswyr Bale” o Sentinel, yr Amwythig’.

Gyda ni bellach wedi camu mewn i fis Hydref, gallwch ddisgwyl gweld lluniau yn ymwneud ag achlysuron megis y cynhaeaf a diolchgarwch a digwyddiadau hydrefol eraill. Gellir gweld cyfrif Flickr y Llyfrgell drwy ddilyn y linc isod.

https://www.flickr.com/photos/llgc/

Deiniol Glyn

Postiwyd - 22-09-2014

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Hen gyngor ar ffermio a garddio

Grawnwin MediA hithau’n fis Medi, ar ôl tywydd neilltuol dda, sut siâp sydd ar eich gerddi a’ch caeau? A yw’r llysiau’n barod i’w codi, y ffrwythau’n aeddfed i’w casglu, a’r blodau’n dechrau heneiddio a gwywo?

Yn ôl calendr Llyfr Oriau De Grey, dylech oll fod wedi casglu eich grawnwin erbyn hyn, ac yn troi eich golygon tuag at eu gwasgu. Yr hyn a ddarlunnir yn y llawysgrif ar gyfer Medi yw gŵr troednoeth yn ‘troedio’r’ ffrwyth mewn casgen fawr, yn barod i arllwys y sudd (a’r crwyn) i gasgen i eplesu. Wrth gwrs, yn Fflandrys y lluniwyd y gyfrol, a hynny ar gyfer marchnad Seisnig, ddeheuol. Go brin y byddai golygfa fel hyn yn gyffredin iawn yn ucheldiroedd Cymru ganol y bymthegfed ganrif …

Calendr MediGanrif yn ddiweddarach, yn y llyfr Cymraeg cyntaf i’w argraffu, Yny lhyvyr hwnn (1546), amlinellodd yr amryddawn Siôn Prys ddyletswyddau garddwriaethol ac amaethyddol y Cymro ar gyfer mis Medi, a hynny fel rhan o’i galendr yntau. Roedd Siôn Prys yn cymryd yn ganiataol y byddai’r Cymry eisoes wedi medi rhyg, gwenith a cheirch yn ystod Awst, gan storio’r cnydau yn eu hysguboriau. Byddai pob amaethwr gwerth ei halen hefyd wedi aredig y tir yn barod ar gyfer y cnydau nesaf i’w hau, sef gwenith a rhyg.

Ond beth am dasgau mis Medi? Dyma gynghorion Siôn Prys:

‘Yn y mis hwn meda dy haidd, pys a ffa, ac yng nghylch canol y mis, heua wenith a rhyg mewn tir cryf. Dwg dail ar fedr [i baratoi ar gyfer] gwenith a rhyg. Canys un fennaid [llond cert] yr amser hwn a dâl dair cyn y mis hwn.’

Medi - manylynCyn brysio i’r ardd i lafurio, cofiwch ymweld â siop y Llyfrgell i brynu Calendr 2015 i’w roi i’ch cyfeillion y Nadolig hwn. Mae ynddo luniau ysblennydd o Lyfr Oriau De Grey, yn darlunio gweithgareddau’r maes ar gyfer pob mis o’r flwyddyn.

Bydd campwaith Siôn Prys, Yny lhyvyr hwnn, i’w weld yn ein harddangosfa nesaf – Llenor a lleidr? Syr Siôn Prys a’r llyfrau Cymraeg cyntaf – fydd yn agor yn Oriel Hengwrt ym mis Chwefror (sef mis tocio coed, gyda llaw!).

Maredudd ap Huw

← Cofnodion hynach Cofnodion mwy newydd →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog