Blog

Postiwyd - 01-09-2015 Dim sylwadau

Collections / Exhibitions / News and Events

Darlithiau gwyddoniaeth yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru

I gyd-fynd ag arddangosfa wyddoniaeth Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Dirgel Ffyrdd Natur: Robert Hooke a gwyddoniaeth gynnar cynhelir nifer o ddigwyddiadau nodedig yn y Llyfrgell yn ystod yr wythnosau nesaf.

 

Traddodwyd darlith gan Dr Gareth Griffith ar Robert Hooke a Micrographia ar Orffennaf yr 8fed. Y digwyddiad nesaf yn y gyfres bydd Dr Paul Evans yn darlithio ar Thomas Pennant ar yr 2il o Fedi. Roedd Pennant yn un o naturiaethwyr enwocaf ei ddydd. Cymro oedd, o Sir Fflint, a chasglodd weithiau celf a oedd yn bennaf yn ymwneud â gwyddoniaeth. Gwelir nifer o’i weithiau yn y Llyfrgell a gwelir un o gyfrolau ei gyfres, A History of Quadrupeds yn yr arddangosfa. Teithiau o gwmpas Prydain yn gwneud nodiadau manwl o’r bywyd gwyllt y gwelai ynghyd a’i was Moses Griffiths, oedd yn un o arlunwyr gwyddonol gorau ei ddydd.

 

Ar Fedi 11 bydd y Llyfrgell yn croesawu un o wyddonwyr mwyaf dylanwadol Prydain, sef y Seryddwr Brenhinol, yr Arglwydd Rees o Lwydlo. Bu’n Llywydd y Gymdeithas Frenhinol o 2005 tan 2012, ac ymysg nifer fawr o wobrau ac anrhydeddau penodwyd ef i’r Order of Merit yn 2007, enillodd Wobr Templeton yn 2011 a Gwobr Isaac Newton yn 2012. Mae’r Order of Merit yn anrhydedd a gyfyngwyd i bedwar ar hugain o Brydeinwyr sydd wedi cyfrannu yn arbennig i hyrwyddo’r gwyddorau, llenyddiaeth ac ati.

 

Mae’r arddangosfa yn ymwneud â Robert Hooke a’i lyfr Micrographia a gyhoeddwyd gan y Gymdeithas Frenhinol a hefyd yn cynnwys eitemau gan wyddonwyr eraill oedd yn aelodau cynnar o’r Gymdeithas fel Isaac Newton, Robert Boyle a’r Cymry Edward Lhuyd a William Jones. Felly mae ymweliad Yr Arglwydd Rees fel cyn Lywydd y Gymdeithas yn addas iawn. Un o amcanion y Gymdeithas adeg ei sefydlu oedd poblogeiddio gwyddoniaeth, rhywbeth sy’n agos i galon yr Arglwydd Rees.

 

Testun y ddarlith bydd Life and the cosmos: four centuries of expanding horizons. Bydd y ddarlith yn ceisio ateb cwestiynau fel sut daeth sêr, planedau a bywyd i fodolaeth, pam fod y bydysawd yr hyn yw e, beth – neu pwy – osododd y deddfau mae’n dilyn, a oes bydysawdau eraill yn bodoli?

 

Ceir hefyd darlith wyddonol arall ar y 7fed o Hydref â’r teitl Copenhagen a Chymru gan Yr Athro Gareth Ffowc Roberts a’r Dr Rowland Wynne. Bydd y ddarlith yn ymwneud a rôl a dylanwad y ffisegydd enwog Niels Bohr drwy ei waith arloesol yn llunio damcaniaeth y cwantwm – pwnc astrus yn athronyddol ac yn wyddonol ac sy’n gwbl sylfaenol i doreth o ddyfeisiadau cyfoes. Ysbrydolodd nifer o wyddonwyr o Gymru, ac yn y ddarlith rhoddir braslun o’u cyfraniad gwyddonol a natur eu cysylltiad â Bohr.

 

Dywedodd Avril Jones, Cyfarwyddwraig Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus: “Dengys y digwyddiadau fod y Llyfrgell yn cymryd o ddifri ei rôl o addysgu gan ymgodymu a phynciau sy’n hanfodol er mwyn i Gymru dyfu’n ddiwylliannol ac yn economaidd.”

Postiwyd - 24-08-2015 Dim sylwadau

Casgliadau / Heb ei gategoreiddio / Research

Beth sy’n newydd yn yr archifau?

Architect’s plan of Machynlleth Garden Village, 1927 (Welsh Town-Planning and Housing Trust Records E7/1)

Cynllun pensaer ar gyfer Pentref Garddwrol Machynlleth, 1927 (Welsh Town-Planning and Housing Trust Records E7/1)

Bob wythnos mae na gasgliadau newydd yn cyrraedd y Llyfrgell; trysorau sydd ar gael ar gyfer pawb i’w darllen yn yr ystafelloedd darllen. Yn ystod y misoedd diwethaf mae nifer o gasgliadau newydd wedi cael eu catalogio gan rai o’n harchifyddion sef David Moore, Stephen Benham, Ann F Evans, a Rob Phillips.

Maent yn amrywio o bapurau gwleidyddol yr Arglwydd Temple Morris i gasgliad enfawr (bron 500 bocs) o bapurau cyfreithwyr Roberts & Evans, Aberystwyth, a chasgliadau amrywiol eraill megis Cofnodion ymddiriedolaeth tai a chynllunio torfol Cymru, Cofnodion yr Atlas Cymraeg, a Chofnodion Cymdeithas Bob Owen.
Ceir papurau llenyddol hefyd gan Jan Morris, O. M Edwards, Sam Adams, John Legonna, Chris Bendon, Douglas Houston, Emyr Edwards a T. Wilson Evans.

Dyma’r casgliadau newydd sydd ar gael ar gyfer ymchwil:

Roberts & Evans, Aberystwyth (Solicitors) Records. Papurau’r cyfreithwyr o Aberystwyth Roberts & Evans, a Hughes & Roberts gan gynnwys papurau’r clientiaid, a phapurau teuluol.

Papurau T. Wilson Evans (1928-2013) nofelydd o Sir y Fflint

Dramâu Emyr Edwards

Dramau Emyr Edwards. Sgriptiau a gwaith cyhoeddedig Emyr Edwards, a deunydd yn ymwneud a pherfformiadau Theatr Genedlaethol Ieuenctid yr Urdd, 1973-88.

Lord Temple-Morris Papers. Papurau gwleidyddol yr Arglwydd Temple Morris gan gynnwys deunydd yn ymwneud ag Iran, Iwerddon, a’i ymadawiad a’r Blaid Geidwadol.

Cofnodion yr Atlas Cymraeg

A ceir ychwanegiadau i’r casgliadau hyn:

Welsh Town-Planning and Housing Trust Records (ychwanegiad)

Papurau Chris Bendon Papers (ychwanegiad) Bardd ac awdur ganed 1950.

Cofnodion Cymdeithas Bob Owen. (ychwanegiad) Cymdeithas i lyfrgarwyr a chasglwyr llyfrau yng Nghymru

Cofrestr ymweliadau ag ysgolion, 1909-1910 (Papurau O.M. Edwards BC3/1)

Cofrestr ymweliadau ag ysgolion, 1909-1910 (Papurau O.M. Edwards BC3/1)

Llyfrau nodiadau Douglas Houston Notebooks. (ychwanegiad) Bardd ac awdur ganed 1947.

Jan Morris Papers. (ychwanegiad) Llythyrau a phapurau yn ymwneud a’i theithiau a’i gwaith llenyddol.

John Legonna Papers. (ychwanegiad) Papurau llenyddol a gwleidyddol John Legonna (1918-1978) yn cynnwys gohebiaeth gyda Per Denez, Alan Heusaff, a Harri Webb.

O.M. Edwards Papers. (ychwanegiad) Gohebiaeth, dyddiaduron a phapurau.

Sam Adams Papers (ychwanegiad) Awdur a golygydd.

Dyma’r lle i ddod ar gyfer ymchwilio i gasgliadau unigryw. Ceir disgrifiadau manwl o’r archifau yma trwy chwilio’r catalog ar dudalen flaen ein gwefan, a bydd ffordd newydd o chwilio am archifau arlein ar gael yn yr Hydref. Ceir gwybodaeth am y casgliadau hefyd ar wefan genedlaethol Archifau Cymru Archives Wales .

Nia Mai Daniel

Pennaeth Isadran Archifau a Llawysgrifau

Postiwyd - 19-08-2015 Dim sylwadau

ArAgor / Casgliadau / Digido / Digitisation

Rhannu Miloedd o ddelweddau Tirlun Cymru efo Wicipedia

Sawl blwyddyn yn ôl digidodd y Llyfrgell Genedlaethol Cymru tua phum mil o beintiadau, brasluniau, engrafiadau a phrintiau o dirlun Cymru yn dyddio yn bennaf o 1750-1850.

Mae llawer o’r rhain yn gynrychioliadau topograffig manwl sydd o werth mawr i haneswyr, cadwraethwyr ac archeolegwyr, tra bod eraill yn weithiau artistig rhamantaidd sy’n cyfleu harddwch y tirlun ac agweddau o fywyd Cymreig yn y cyfnod cyn dyfodiad y camera.

Fel Wicipediwr Preswyl, roedd gwneud y casgliad hwn ar gael i Wicipedwyr yn un o fy mlaenoriaethau cyntaf, ac erbyn hyn mae’r casgliad cyfan yn cael ei ryddhau i’r parth cyhoeddus a’i lwytho i Wikimedia Commons.

Mae rhai o’r delweddau gwych o gestyll, strydoedd mawr, eglwysi, adfeilion, a mwy, eisoes wedi cael eu hychwanegu at erthyglau Wicipedia.

Bydd digwyddiadau yn cael eu cynnal cyn bo hir i wneud mwy o ddefnydd o’r delweddau hyn ar Wicipedia er mwyn cyfoethogi hanes Cymru ar y gwyddoniadur mwyaf yn y byd.

Porwch trwy’r delweddau yma ac os oes gennych ddiddordeb ein cynorthwyo trwy ychwanegu’r delweddau hyn i Wikipedia, buasem yn falch o glywed gennych.

Aberystwyth Harbour, c.1850

Harbwr Aberystwyth, tua1850

A_plan_&_view_of_a_chain_bridge_-_erecting_over_the_menai_at_Bangor_Ferry_1820

Cynllun o’r bont gyntaf i gysylltu Ynys Môn efo gweddill y Wlad. 1820.

Tagiau: , ,

Postiwyd - 10-08-2015 Dim sylwadau

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Tymor yr Hydref 2015

Credwch neu beidio, mae’n amser i ni edrych ymlaen at dymor yr Hydref!  Mae Uned Hyrwyddo’r Llyfrgell ar fin cyhoeddi Rhaglen y Drwm, Hydref 2015 sy’n llawn gwybodaeth am arddangosfeydd, darlithoedd a chyflwyniadau, a gwybodaeth i ymwelwyr.

Dyma ragflas o’r hyn sydd i ddod ym mis Medi:

 

Arctic Zoology

Arctic Zoology

Dydd Mercher 2 Medi, 1.15pm
Thomas Pennant: the leading British zoologist after Ray and before Darwin – Dr Paul Evans
Bydd y ddarlith hon yn bwrw golwg ar gyfraniad Thomas Pennant at y twf ym mhoblogrwydd astudiaeth natur yn ail hanner y ddeunawfed ganrif, drwy gyfrwng ei gyfrolau amrywiol ar adareg a sŵoleg. Ceir sôn hefyd am y rhwydwaith anferth o ohebwyr gwyddonol a ddatblygodd er budd ei waith ymchwil ac i gasglu deunydd ar gyfer ei amryfal gyhoeddiadau gwyddonol.
Mynediad am ddim drwy docyn.

 

 

 

Yr Arglwydd Rees

Yr Arglwydd Rees

Dydd Gwener 11 Medi, 7.30pm
Life and the cosmos: four centuries of expanding horizons – Yr Arglwydd Rees o Lwydlo, Seryddwr Brenhinol
Roedd gwyddonwyr yr ail ganrif ar bymtheg yn gwybod rhywfaint am eangderau Cysawd yr Haul, gan gynnwys y lleuad a’r sêr. Gwyddom bellach fod yr Haul yn un o blith biliynau o sêr yn ein Galaeth, pob un gyda phlanedau’n cylchdroi o’i hamgylch, ac mae’r Alaeth honno yn un o’r biliynau o alaethau y gellir eu gweld drwy delesgopau mawr. Rydym yn deall fod hyn wedi dod yn sgil ‘dechreuad’ dwys 13.8 biliwn o flynyddoedd yn ôl. Ond erys tarddiad y bywyd hwn yn ddirgelwch llwyr.
Mynediad drwy docyn £8.00 (Bar ar gael)

 

 

Kirmen Uribe

Kirmen Uribe

Dydd Llun 14 Medi, 7.00pm
Transatlantic journeys: big cities and inhabited islands
Fel rhan o gynhadledd ‘Diwylliannau “Lleiafrifol” a Theithio’ ymunwch â Ned Thomas wrth iddo holi’r awdur Kirmen Uribe o Wlad y Basg am ei waith.
Mynediad am ddim drwy docyn

 

 

 

 

Waldo Williams

Waldo Williams

Dydd Gwener 25 Medi, 7.30pm
O Gracie Fields i ‘Mewn Dau Gae’ – Yr Athro Jason Walford Davies
Yn y ddarlith hon bydd Yr Athro Jason Walford Davies yn cynnig cyflwyniad i ohebiaeth anghyhoeddedig dra dadlennol rhwng Waldo Williams a Megan Humphreys – cyfres o lythyrau sy’n taflu goleuni newydd ac annisgwyl ar hynt a helynt y bardd yn y 1930au a’r 1960au. Dyma ohebiaeth sydd bob amser yn gyrhaeddgar a bywiog, yn aml yn hynod ddoniol, ac ar brydiau’n ddwysbigol ac yn boenus o onest.
Mynediad drwy docyn £5.00    .  Cynhelir y digwyddiad hwn gan Gymdeithas Waldo Williams.

 

 

Fe sylwch fod rhai darlithoedd yn ystod tymor yr Hydref yn dilyn trywydd ‘wyddonol’.  Trefnwyd y rhain i gyd-fynd â’r arddangosfa ‘Dirgel Ffyrdd Natur’ sydd i’w gweld yn Oriel Hengwrt tan 9 Ionawr 2016.

Mae cyfoeth o wybodaeth i’w weld yn arddangosfeydd tymor yr Hydref sy’n cynnwys arddangosfa drawiadol o waith Philip Jones Griffiths: Ffocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch.  Ceir rhagor o wybodaeth amdanynt yma.

Os hoffech dderbyn copi o raglen y Drwm, ymunwch â’n rhestr bostio rhad ac am ddim er mwyn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf.  Anfonwch eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost atom, naill ai trwy anfon at post@llgc.org.uk neu trwy ffonio’r swyddfa docynnau ar 01970 632 548 gan nodi yr hoffech i’ch enw gael ei ychwanegu i’r rhestr bostio.

Cofiwch hefyd gadw golwg ar wefan y Llyfrgell er mwyn archebu eich tocynnau ymlaen llaw.

Gan obeithio y gwelwn ni chi yn ystod y tymor sydd i ddod.

Rhiain Williams

Postiwyd - 31-07-2015 Dim sylwadau

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Galwch i’n gweld ym Mathrafal

Gweithgareddau’r wythnos ar stondin Llyfrgell Genedlaethol Cymru (601-605) yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a’r Gororau 2015.

Rydym ym edrych ymlaen yn fawr at fynd i Fathrafal! Bydd gennym stondin yno sy’n rhoi gofod penodedig i waith celf y mae disgyblion yng nghanolbarth Cymru wedi gweithio arno yn seiliedig ar Fathrafal – cartref hynafol Tywysogion Powys. Mae’r prosiect a gafodd ei gynnal gan Wasanaeth Addysg y Llyfrgell wedi ei noddi gan Sefydliad ScottishPower Foundation ac wedi cydweithio gyda 270 o ddisgyblion o ysgolion yr ardal gyda’r artisitiaid Hilary a Graham Roberts hefyd yn cynnal gweithdai celf yn yr ysgolion. Bydd ffrwyth llafur y disgyblion i’w weld ar ffurf wyth o faneri fydd yn cael eu harddangos ar stondin y Llyfrgell.

Rhoddir sylw hefyd i brosiect Cynefin ac arddangosfeydd ‘Gwladfa’ a ‘Philip Jones Griffiths: Ffocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch’ ar ein stondin.
Rydym hefyd wedi trefnu’r canlynol, felly os byddwch yn ymweld â’r Eisteddfod, cofiwch alw i’n gweld…

Dydd Llun 3 Awst

12:00pm Gig: Gwenan Gibbard
2.30pm Patagonia 150 – ‘ Yma i Aros’ Eirionedd Baskerville yn sgwrsio am ei llyfr

Steddfod 3 Awst Gwenan Gibbard

Gwenan Gibbard

Dydd Mawrth 4 Awst

12.00pm Gig: Ynyr Llwyd
2.30pm “Enwau ein Cynefin” – Dr Rhian Parry, Caeau Cymru, S4C yn sgwrsio

Ynyr Llwyd

Ynyr Llwyd

Dydd Mercher 5 Awst

12.00pm Gig: Gildas

Gildas-Steddfod-Meifod-5-Awst-2

Gildas

Dydd Iau 6 Awst

12.00pm Gig: Sorela

Sorela

Sorela

2.30pm Beryl Vaughan, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Meifod yn sgwrsio

Beryl Vaughan

Beryl Vaughan

 

 

 

 

 

 

3.30pm Ar gof a chadw: pwysigrwydd cofroddion personol i ofal dementia – Arwel Ellis Owen yn sgwrsio

Dydd Gwener 7 Awst
12.00pm Gig: Côr y Gen
2.30pm Llys Glyndŵr – David Vickers, Gwasg Gregynog yn sgwrsio am lyfr diweddara’r wasg

David Vickers

David Vickers

 

 

 

 

 

 

Dydd Sadwrn 8 Awst
2.30pm Y danbaid fendigaid Ann. Sian Meinir yn sgwrsio gyda Lis Hughes Jones, cyfarwyddwr y sioe.

Y danbaid fendigaid Ann

Y danbaid fendigaid Ann

Welwn ni chi yno!

Rhiain Williams

Postiwyd - 27-07-2015 Dim sylwadau

Heb ei gategoreiddio

Esgusodwch fi! A hoffech chi ychydig o Ddata LlGC?

Mae casgalidau digidol Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi tyfu’n gyflym dros y blynyddoedd diwethaf ac mae defnyddwyr bellach yn gyfarwydd â chwilio ein Catalog Ar-lein ac adnoddau digidol fel Papurau Newydd Cymru Ar-lein. Ond yn fuan bydd ffordd arall o gael mynediad at rai o’n casgliadau.

Menter newydd gan Ymchwil LlGC yw Data LlGC sy’n cynnig ffordd newydd o gael mynediad at rai o’n casgliadau. Bydd Data LlGC yn canolbwyntio ar ddarparu mynediad rhaglennol i’r amrywiaeth o ddata sy’n cael ei gadw gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. O ganlyniad i’r gwaith hwn bydd defnyddwyr yn gallu lawrlwytho casgliadau. Bydd hyn yn eu galluogi i ddefnyddio meddalwedd eu hunain i brosesu’r data neu i chwilio’r data yn rhaglennol (e.e. trwy gyfrwng Data Cyswllt Agored neu API (Application Programming Interface).

Y set data cyntaf i’w rhyddhau yw casgliad o Ffeiliau Excel sy’n cynnwys adysgrifiadau o Archif Cofnodion Llongau Aberystwyth. Mae’r set data yma’n ffrwyth gwaith adysgrifio gan wirfoddolwyr Rhaglen Gwirfoddoli LlGC.

IMG_20150727_165034

Gwirfoddolwyr LlGC yn adysgrifio cofnodion llongau o’r 19eg ganrif

Beth allwch chi ei wneud nesaf?

  • I ddarganfod mwy am y casgliad penodol hwn cliciwch yma (cofnod blog Saesneg yn unig).
  • I weld enghraifft o’r dogfennau sydd wedi eu hadysgrifio cliciwch yma.
  • I lawrlwytho’r set data ewch i’r Data LlGC.
  • Os hoffech chi ddarganfod mwy am Data LlGC neu os oes gennych awgrymiadau ar gyfer datblygu’r gwasanaeth hwn, cysylltwch â gwefan@llgc.org.uk

 

Dr Owain Roberts

Pennaeth Ymchwil (Dros Dro)

 

Postiwyd - Dim sylwadau

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Patagonia 150

Mae dathliadau’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia yn digwydd ar hyd a lled Cymru eleni ac mae wedi bod yn bleser mynychu llawer ohonynt. Mi fuasai’n dda fod wedi gallu mynd i fwynhau rhai o’r digwyddiadau yn y Wladfa, ond rhaid bodloni ar dderbyn adroddiadau amdanynt.

 

Eirionedd yn Barichole

Eirionedd yn Barichole

Dydw i ddim yn cofio pryd glywais i gyntaf am fenter fawr 1865, ond pan oedd ffrind a minnau’n trafod ceisio am swyddi dysgu tua diwedd ein cyfnod yn y coleg, dywedodd un ohonom – fy ffrind rwy’n amau – ‘Beth am fynd i ddysgu Cymraeg yn y Wladfa?’ Blwyddyn y canmlwyddiant oedd hynny, ond swyddi yng Nghymru gafodd y ddwy ohonom. Bu’n rhaid aros tan 1996 cyn i mi fynd gyntaf i’r Wladfa a darganfod fod gen i berthnasau yno! Mae hyn wedi rhoi dimensiwn pellach i’m diddordeb yn y Wladfa a’i phobl.

 

 

 

Amser cinio yn ffermdy fach y teulu gyda’r teulu – ar y dde, gyferbyn ag Eirionedd, mae ei chyfneither, Eileen a'i gŵr Dewi Mefin Jones, Yumi gwraig eu mab Martin a Martin ar y pen.

Amser cinio yn ffermdy fach y teulu gyda’r teulu – ar y dde, gyferbyn
ag Eirionedd, mae ei chyfneither, Eileen a’i gŵr Dewi Mefin Jones, Yumi gwraig eu mab Martin a Martin ar y pen.

Aeth John Morgan James, nai fy hen hen daid, o fferm Aberpeithnant yn ardal Pumlumon i’r Wladfa yn 1886 ar fwrdd y Vesta i weithio ar adeiladu’r rheilffordd o Borth Madryn i Ddyffryn Camwy. Priododd ferch o’r enw Ann Owen a chael tri mab ond bu farw Ann ac ymbriododd John â Margaret Evans, gwraig weddw â phump o blant. Ganed pedwar plentyn i John a Margaret, a rhwng eu disgynyddion hwy a disgynyddion John ac Ann, rydw i wedi cael modd i fyw yn Nyffryn Camwy ac yn yr Andes. Y tro diwethaf i mi fod yno cymerodd Nelda fi i weld cartref John Morgan James, ei thaid, yn Tres Casas, ac ar ymweliad ag Ysgol yr Hendre yn Nhrelew, cyn adeiladu’r ysgol newydd, bûm yn rhannu gwers gyda Shirley James, un arall o’r perthnasau.

 

 

 

Cinio yn Gwalia Fach, y Gaiman, gyda Luned Roberts de Gonzaléz a’i diweddar chwaer, Tegai Roberts.

Cinio yn Gwalia Fach, y Gaiman, gyda Luned Roberts de Gonzaléz
a’i diweddar chwaer, Tegai Roberts.

 

 

Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at f’ymweliad nesaf, pryd bynnag y bydd hynny.

 

 

 

 

 

 

 

Eirionedd Baskerville

 

Mae llyfr newydd Eirionedd Baskerville, PATAGONIA 150: Yma i aros. Here to Stay. Aquí para quedarse, ar gael i’w brynu nawr.

 

 

 

 

Postiwyd - 13-07-2015 Dim sylwadau

Casgliadau

Dathliadau’r Haf yn Hendygwyn-ar-Daf

Peniarth 28 Hywel Dda

Eleni mae Cymdeithas Genedlaethol Hywel Dda (www.hywel-dda.co.uk) yn dathlu 30 mlynedd ers agor y Gofeb – Yr Ardd a’r Ganolfan Wybodaeth ym Mehefin 1985. Cafwyd dathliadau yn Hendygwyn-ar-Daf i nodi’r achlysur gyda Dr Manon Antoniazzi, Cyfarwyddwr Twristiaeth, Treftadaeth a Chwaraeon, Croeso Cymru yn agor yr achlysur, a chyfraniadau gan blant Ysgol Llys Hywel ac Ysgol Gyfun Dyffryn Taf.

plac cyfraith hywel

Cyfraith Y Gwragedd

Cynlluniwyd y Gofeb gan yr artist Peter Lord ac mae’n cynnwys Gardd a Chanolfan Gwybodaeth. Mae’r ardd yn cynnwys chwe gardd fechan, gyda phob un ohonynt yn cynrychioli rhan arbennig o’r Gyfraith. (Cymdeithas, Cenedl a Braint, Trosedd a Cham, Gwragedd, Contract, Eiddo, Y Brenin a’r Llys).

 

 

gardd hywel dda

Cloc haul Peter Lord yng ngardd Cyfraith Hywel

Rhan ganolog o’r ganolfan yw arddangosfa o luniau o un o brif drysorau’r Llyfrgell Genedlaethol – Llawysgrif Peniarth 28 sydd wedi cael eu digido ac ar gael i’w gweld ar ein gwefan. Fersiwn Lladin o Gyfraith Hywel Dda yw, ac yn dyddio’n ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg. Hynodrwydd y llawysgrif hon yw’r lluniau unigryw sydd ynddi e.e. o’r Distain, Yr hebogydd, Ynad Llys, Y Gof a’r Rhingyll.

 

Boston ken Haydn

Llawysgrif Boston gyda Ken Rees a Haydn Lewis

Hefyd i’w gweld yn y Ganolfan mae copi o lawysgrif Boston, a brynwyd gan y Llyfrgell Genedlaethol yn 2012 gyda chymorth arian Cronfa Treftadaeth y Loteri. Dyddia’r llawysgrif Gymraeg fechan hon o ail hanner y 14eg ganrif, ac mae’n cynnwys Dull Dyfed o gyfraith frodorol Cymru.

Mae gan y Llyfrgell hefyd gopi o destun Cymraeg o Gyfreithiau Hywel Dda (Cyfeirnod: Llsgr. NLW 20143A) sy’n dyddio o ganol y 14eg ganrif.

Pwyllgor Hywel dda

Yn y llun gwelir nifer o’r rhai a fu’n flaenllaw wrth greu’r Ganolfan yn 1985: Haydn Lewis, Ken Rees, Ysgrifennydd Cymdeithas Genedlaethol Hywel Dda, yr artist Peter Lord, a’r haneswyr Cyril Jones a Malcolm Jones a fu’n gyfrifol am ysgrifennu’r paneli dehongli yn yr arddangosfa. Ymunwch yn y dathliadau trwy ymweld â’r ardd yn Hendygwyn-ar-Daf yr Haf yma.

 

Nia Mai Daniel, Pennaeth Isadran Archifau a Llawysgrifau

Postiwyd - 08-07-2015 Dim sylwadau

Arddangosfeydd

Philip Jones Griffiths

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru newydd agor arddangosfa i ddathlu bywyd a gwaith y Cymro, Philip Jones Griffiths, un o ffotograffwyr dogfen pwysicaf y cyfnod diweddar. Mae’n adnabyddus ar draws y byd am ei ffotograffau treiddgar a phwerus ac am ddefnyddio’i gamera i bledio achos y gorthrymedig.  Yn fuan ar ôl ei farwolaeth yn 2008, dywedodd y newyddiadurwr John Pilger:

“I never met a foreigner who cared as wisely for the Vietnamese, or about ordinary people everywhere under the heel of great power, as Philip Jones Griffiths. He was the greatest photographer and one of the finest journalists of my lifetime, and a humanitarian to match…. His photographs of ordinary people, from his beloved Wales to Vietnam and the shadows of Cambodia, make you realise who the true heroes are. He was one of them”.

Trefnwyd arddangosfa ‘Philip Jones Griffiths: Ffocws Cymreig ar Ryfel a Heddwch’ ar y cyd rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Sefydliad Philips Jones Griffiths. Am y tro cyntaf bydd llawer o’i gamerâu, ei ddogfennau, ei bapurau a’i arteffactau personol yn cael eu harddangos ochr yn ochr â’i ffotograffau.
Bydd yr arddangosfa ar agor o 27 Mehefin tan 12 Rhagfyr 2015.

 

21.10.2015
Sgwrs Oriel
Ymunwch â’r curadur, William Troughton, with iddo eich tywys o amgylch yr arddangosfa ffotograffig hynod hon.  Mynediad am ddim trwy docyn.

07.11.2015
Lens 2015: Philip Jones Griffiths
Gŵyl ffotograffiaeth na ddylai neb sydd â diddordeb mewn ffotograffiaeth ei methu, a fydd yn canolbwyntio eleni ar Philip Jones Griffiths a’i waith.

 

Cliciwch yma am restr llawn o’r arddangosfeydd presenol

Postiwyd - 02-07-2015 Dim sylwadau

Heb ei gategoreiddio

Beth sy’n newydd? 6 pheth newydd ar wefan Papurau Newydd Cymru Arlein

Mae gwefan newydd Papurau Newydd Cymru Arlein bellach yn fyw, ond beth sy’n wahanol amdani? Dyma 6 pheth sydd wedi eu hychwanegu i’r wefan:

 

1.  Mwy o dudalennau

Mae’r wefan newydd yn cynnwys 400,000 o dudalennau ychwanegol o bapurau newydd sydd wedi eu digido, rhai yn deitlau newydd ac eraill yn ychwanegiadau at deitlau oedd eisoes ar y wefan. Os hoffech wybod pa deitlau a chynnwys newydd sydd ar y wefan, ewch i dudalen wybodaeth y prosiect.

 

y_goleuad_pnca

 

2.  Dyluniad sy’n ymateb i’ch dyfais

Mae’r wefan bellach yn addasu i faint y sgrin rydych yn ei defnyddio. Bydd hyn yn hwyluso’r profiad o ddefnyddio’r adnodd ar dabled neu ffôn symudol.

 

3.  Pori yn ôl delwedd

Mae nawr yn bosibl i chi bori delweddau sydd yn y papurau newydd trwy bori yn ôl cartwnau, graffiau, darluniadau, mapiau a ffotograffau. Mae’n ffordd wych o ddod o hyd i gynnwys sy’n drawiadol yn weledol ac rydym yn disgwyl y bydd yn nodwedd boblogaidd o’r wefan newydd.

 

cartwnau_cy_pnca

 

4.  Chwiliad uwch

Mae’r chwiliad uwch yn eich galluogi i osod cyfyngiadau ar eich chwiliad o’r dechrau, ac yn galluogi chwilio ‘boolean’. Am ragor o wybodaeth ar sut i gynnal chwiliad boolean, ewch i’r dudalen Cymorth ar y wefan newydd.

 

5.  Dyfynnu ar Wikipedia

Nawr gallwch gysylltu erthyglau yn y papurau gydag un o wefannau mwyaf poblogaidd y byd trwy ddefnyddio’r botwm ‘Dyfynnu ar Wikipedia’. Bydd hwn yn rhoi côd i chi ei roi mewn tudalen Wikipedia er mwyn cyfeirio at yr erthygl fel ffynhonnell.

 

wikicy_pnca

 

6. Gwahanu cynnwys yn ôl iaith (Cymraeg/Saesneg)

Mae nawr yn bosibl cyfyngu chwiliadau yn ôl iaith am y tro cyntaf, a fydd yn hwyluso defnydd o’r adnodd i ddefnyddwyr nad ydynt yn deall Cymraeg. Noder bod y gwahaniaeth hwn wedi ei osod ar sail iaith teitl y cyhoeddiad yn hytrach nag ar lefel erthygl, ac felly mae’n bosibl y bydd rhai erthyglau Cymraeg yn mynd trwy’r rhwyd wrth geisio cyfyngu i ddeunydd Saesneg.

 

Beth ydych chi’n ei feddwl? Rydym yn parhau i edrych ar ffyrdd o wella’r adnodd Papurau Newydd Cymraeg Arlein a buasem yn gwerthfawrogi eich sylwadau neu awgrymiadau. Rhowch wybod i ni beth rydych yn ei feddwl o’r wefan gan ddefnyddio’r ddolen ‘Cysylltu â ni‘ ar waelod y dudalen.

 

← Older Posts

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog