BLOG - Monthly Archives: Medi 2017

Postiwyd - 29-09-2017

Heb ei gategoreiddio

Prosiect newydd i olrhain hanes llythrennedd yn Ewrop

Sut mae testun ysgrifenedig wedi siapio ein byd dros y canrifoedd? Dyma’r thema fydd yn cael ei thrin a’i thrafod gan brosiect newydd Europeana ‘The Rise of Literacy’, gyda Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) ymhlith y partneriaid fydd yn cydweithio i’w gyflawni. Gyda chymorth ariannol gan y Comisiwn Ewropeaidd, bydd ‘The Rise of Literacy’ yn adrodd hanes esgyniad llythrennedd trwy lygad traws-Ewropeaidd.

Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn i ym mhrif swyddfa Sefydliad Europeana yn Koninklijke Bibliotheek, sef llyfrgell genedlaethol yr Iseldiroedd yn yr Hâg, i ddechrau ar y prosiect newydd. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o 13 partner o wledydd ar draws Ewrop fydd yn gweithio gyda’i gilydd i ddigido, rhannu a churadu deunydd digidol sy’n berthnasol i’r thema ar lwyfan Europeana Collections.

Europeana yw llwyfan diwylliant digidol Ewrop, a’r flwyddyn nesaf bydd yn dathlu ei phen-blwydd yn ddeg oed. Ers ei lawnsio yn 2008, mae nifer y gwrthrychau sydd ar gael ar y llwyfan wedi cynyddu ddengwaith o 4.5 miliwn i 50 miliwn. Mae LlGC wedi gweithio gydag Europeana ar brosiectau eraill dros y blynyddoedd, gan roi mynediad trwy’r llwyfan i rai o’n casgliadau digidol mwyaf adnabyddus, gan gynnwys casgliadau ffotograffig Geoff Charles a John Thomas a chasgliad tirluniau Cymru. Rydym hefyd wedi cyfrannu i brosiectau EuropeanaTravel, EuropeanaCloud a Europeana280.

Daeth y cyfarfod yn yr Hâg â phartneriaid y prosiect ynghyd am y tro cyntaf, ac yn eu plith roedd sefydliadau diwylliannol o’r Alban, Latfia, yr Eidal, Slofenia, Groeg, Portiwgal, yr Almaen, yr Iseldiroedd, Ffrainc a Serbia, yn ogystal â thîm Europeana. Hyd yn oed yn y cyfnod cynnar hwn, gallwn weld sawl trywydd y gellid ei ddilyn a’r straeon a allai ddod i’r amlwg trwy’r prosiect.

Nod y prosiect hwn yw creu, datblygu a hyrwyddo cynnwys golygyddol perthnasol i thema esgyniad llythrennedd yn Ewrop.

Fel partner yn y prosiect, bydd LlGC yn rhannu cannoedd o wrthrychau perthnasol, yn amrywio o lawysgrifau canoloesol i weithiau argraffiedig cynnar a phapurau newydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fel y gellid eu darganfod a’u harddangos ochr yn ochr â deunyddiau tebyg o rannau eraill o Ewrop.

Bydd y gwrthrychau digidol hyn yn cael eu defnyddio i ddehongli’r thema, gan arwain at greu casgliadau, arddangosfeydd, orielau a chofnodion blog, a thrwy hynny yn cael eu gweld yng nghyd-destun ehangach diwylliant Ewrop a’u cyflwyno i gynulleidfaoedd newydd.

Y cam nesaf fydd cynllunio, dethol a churadu casgliadau digidol a fydd ar gael i’r cyhoedd o wanwyn 2018 ymlaen.

Am ragor o wybodaeth ynghylch prosiect ‘The Rise of Literacy’ a’r cyfarfod cychwynnol yn yr Hâg, darllenwch y cofnod blog hwn gan Nicole McNeilly, Golygydd Casgliadau i Sefydliad Europeana.

Dr Dafydd Tudur

Pennaeth Isadran Mynediad Digidol

Postiwyd - 22-09-2017

Heb ei gategoreiddio / Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Edrych nôl ar Refferendwm ’97 drwy ddefnyddio adnoddau electronig y Llyfrgell

Yr wythnos hon, mae ugain mlynedd ers refferendwm Cymru, a arweiniodd at ddatganoli a chreu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru. Penderfynais ymchwilio yn nhanysgrifiadau ar-lein amrywiol y Llyfrgell am yr achlysur hanesyddol hwn (*Er mwyn cael mynediad i’r adnoddau hyn o’r tu allan i adeilad y Llyfrgell bydd rhaid defnyddio eich tocyn darllen. Os nad oes gennych docyn darllen gallwch gofrestru ar-lein yn hawdd iawn yma).

.
Er bod cefnogaeth i ddatganoli yn isel pan gynhaliwyd y refferendwm gyntaf yn 1979, dros y degawd a hanner nesaf arweiniodd y tirwedd gwleidyddol ac economaidd at alwadau am ail refferendwm. O ganlyniad, addawodd y blaid Lafur ail refferendwm yn eu maniffesto yn 1992, ac ar ôl eu buddugoliaeth yn etholiad cyffredinol 1997, dechreuodd y gwaith paratoi.

.

Drwy’r Ddeddf Refferenda (Yr Alban a Chymru) gofynnwyd i bleidleiswyr os oeddent o blaid datganoli ar gyfer yr Alban a Chymru. Dadansoddodd lawer o sylwebwyr beth fyddai datganoli yn ei olygu i ddyfodol y Deyrnas Unedig, fel y gwelir yn yr erthygl hon o The World Today:

 

Cynhaliwyd y refferendwm ar y 18fed o Fedi 1997, ac yn wahanol i’r refferendwm yn 1979, roedd y canlyniad yn hynod o agos. Mewn gwirionedd, gan fod y pleidleisiau mor agos, roedd y canlyniad yn dibynnu ar y cyhoeddiad o Sir Gaerfyrddin. Wrth i’r canlyniad gyrraedd, bu dathliadau gwyllt ymysg yr ymgyrch ‘Ie’ wrth i ddatganoli gael ei sicrhau o 6,721 o bleidleisiau.

.

Gellir darllen enghreifftiau o adroddiadau’r Guardian am y dyddiau ar ôl refferenda Cymru yma ac yma.

 

O ganlyniad i’r fuddugoliaeth gul hon, pasiwyd Deddf Llywodraeth Cymru 1998 gan y llywodraeth Lafur i greu Cynulliad Cenedlaethol i Gymru:

 

Roedd pryder bod y nifer isel o bleidleisiwr yn golygu bod y cyhoedd yn teimlo’n ddifater tuag at y syniad o gynulliad cenedlaethol, ond yn ôl yr astudiaeth hon gan Roger Scully, Richard Wyn Jones a Dafydd Trystan, nid oedd hyn yn wir:

 

Fodd bynnag, er bod y canlyniad mor agos, roedd Richard Wyn Jones a Bethan Lewis yn awyddus i nodi bod y canlyniad yn gamp sylweddol i’r rheiny yn yr ymgyrch ‘Ie’:

 

Yn dilyn newid mor fawr i dirwedd gwleidyddol y wlad, ac yn dilyn refferendwm pellach yn 2006 a 2011, mae’n naturiol bod sylwebwyr ac ysgolheigion wedi ceisio trafod a gwerthuso effaith datganoli ar wahanol agweddau o fywyd Cymru:

 

Evaluating Devolution in Wales by Adrian Kay

Serving the Nation: Devolution and the Civil Service in Wales by Alistair Cole

New Labour, Education and Wales: the devolution decade by David Reynolds

Devolution and the shifting political economic geographies of the United Kingdom

 

Paul Jackson

Llyfrgellydd Adnau Cyfreithiol, Electronig a Derbyn

 

 

 

 

Postiwyd -

Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Lansio Rhaglen Archif Gerddorol Gymreig

Lansiwyd Rhaglen Archif Gerddorol Gymreig mewn seremoni arbennig ddydd Gwener, 22 Medi, yng nghwmni’r arbenigwraig ar gerddoriaeth gwerin Phyllis Kinney.

 

Roedd Phyllis Kinney ynghyd â’i merch Eluned yn bresennol yn y lansiad Dydd Gwener ac fe wnes i Maredudd ap Huw roi cyflwyniad i’r Bwrdd am y casgliadau cerddorol sydd yma a’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Canodd aelodau o Gôr y Gen (staff Llyfrgell Genedlaethol Cymru) ddetholiad o ganeuon gwerin yn ystod y lansiad.

Mae’r Llyfrgell yn ymfalchïo yn arbennig  fod archif Meredydd Evans  a Phyllis Kinney, sy’n cynnwys gwaith ymchwil oes i gerddoriaeth draddodiadol, wedi dod i’r Llyfrgell ac yn ddiolchgar i’r teulu am eu haelioni yn rhoi’r casgliad i ofal y Llyfrgell. Blaenoriaeth y Rhaglen hon fydd  rhoi mynediad at yr adnodd newydd yma i bawb sydd am ddarganfod mwy am ganu gwerin, a chreu mynediad ato ar-lein mewn ffurf ddigidol. Mae archif Merêd a Phyllis yn adlewyrchu eu gwybodaeth eang am ganu traddodiadol ac yn arwain at astudiaethau pellach i gasgliadau eraill y Llyfrgell megis casgliadau J Lloyd Williams (un o sylfaenwyr Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru) a Maria Jane Williams, yr arloesydd cofnodi caneuon gwerin.

Yn ystod y dathliad dangosir fideo o Cerys Matthews yn rhoi cefnogaeth frwd i’r Archif Gerddorol Gymreig yn ystod ei hymweliad diweddar â’r Llyfrgell:

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru nid yn unig yn gartref diogel i gerddoriaeth ysgrifenedig gynharaf a erys o Gymru, ond hefyd yn gasglwr cyfansoddiadau a pherfformiadau diweddaraf gan ein cerddorion cyfoes. Mae’n adnodd sydd yn tyfu’n gyson; ychwanegir deunydd yn rheolaidd at ein casgliadau cerddorol. Mae’r Llyfrgell yn cynnwys gweithiau gan gyfansoddwyr Cymreig clasurol a ddaeth i fri rhyngwladol fel Grace Williams, Daniel Jones, Alun Hoddinott a William Mathias.

Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am

  • Yr Archif Gerddorol Gymreig

https://www.llgc.org.uk/cy/casgliadau/dysgwch-fwy/archifau/yr-archif-gerddorol-gymreig/

  • a Cherddoriaeth draddodiadol Cymru.

https://www.llgc.org.uk/cy/casgliadau/dysgwch-fwy/archifau/yr-archif-gerddorol-gymreig/cerddoriaeth-draddodiadol-cymru/

 

Nia Mai Daniel,

Rheolwr Rhaglen Archif Gerddorol Gymreig

 

Datganiad i’r Wasg

https://www.llgc.org.uk/cy/gwybodaeth-i/y-wasg-ar-cyfryngau/datganiadaur-wasg/datganiadaur-wasg-2017/lansio-rhaglen-archif-gerddorol-gymreig-llyfrgell-genedlaethol-cymru/

 

Postiwyd -

Collections

Archif Ddarlledu Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yn ddiweddar mae’r Llyfrgell wedi cychwyn ar brosiect newydd, cyffrous, i ddatblygu a sefydlu Archif Ddarlledu Genedlaethol i Gymru. Rydym yn cydweithio â’r BBC i dderbyn eu holl recordiadau gwreiddiol ynghyd â chopïau wedi’u digido, fydd yn ychwanegiad hynod werthfawr i gyd-fynd â chasgliad ITV, sydd eisoes yn y Llyfrgell.

Mae’r prosiect yn un uchelgeisiol ac mae’r Llyfrgell yn awyddus i greu adnodd gwerthfawr fydd ar gael i gynulleidfa mor eang â phosib.  Mae’n fwriad gennym i ddarparu mynediad cyhoeddus i’r casgliad yn y Llyfrgell a hefyd mewn lleoliadau eraill ar ffurf Hybiau Treftadaeth Ddigidol yn Wrecsam, Caerfyrddin a Chaerdydd.  Rydym hefyd yn awyddus i ddatblygu perthynas adeiladol gyda’n defnyddwyr ac wrth i’r prosiect  ddatblygu, bydd rhaglen o weithgareddau a digwyddiadau yn cael eu cynllunio.

Erbyn hyn mae’r gwaith o gynllunio’r prosiect ar gyfer cam 2 wedi dechrau o ddifri’ ac mae’r ddeufis diwethaf wedi bod yn gyfnod cynllunio ac ymchwilio prysur a hynod o ddifyr.  Yn ystod y cyfnod yma, rydym wedi cael y cyfle i gwrdd â phobl a chreu cysylltiadau yn y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol a hefyd wedi ymweld ag amrywiol sefydliadau anhygoel a chael ein hysbrydoli gan eu cyfleusterau!

Yn Llyfrgell Manceinion, cawsom gyfle i wylio ffilmiau yn eu Mediatheque ynghyd â phori trwy eu cyflwyniadau digidol amrywiol.

 

Roedd ein hymweliad i ganolfan darganfod Llyfrgell Genedlaethol yr Alban yn Kelvin Hall, Glasgow yn hynod o ddiddorol a chawson gyflwyniad i’r Archif Delweddau Symudol ynghyd â chael cyfle i archwilio’u canolfan a’r deunydd oedd ar ddangos.  Gadawon ni Glasgow gyda nifer o syniadau difyr ar gyfer ein hybiau!

 

Gan ein bod ni’n awyddus i’r prosiect yma fod mor uchelgeisiol â phosib aethon ni i Amsterdam i ymweld â Beeld ên Geluid, sef sefydliad Sain a Llun yr Iseldiroedd ac Amgueddfa EYE, eu hamgueddfa ffilm.  Eto, cawsom ein hysbrydoli wrth weld sut mae sefydliadau mor fawr â hyn yn cyflwyno eu casgliadau a daethom ni adra efo nifer o syniadau newydd.

 

 

Rydym hefyd, wrth gwrs, yn awyddus i gynllunio prosiect sydd yn ateb eich gofynion chi! Felly ynghyd ag edrych ar beth mae sefydliadau eraill yn ei wneud rydym hefyd eisiau gwybod beth rydych chi am i ni ei wneud.  Er mwyn gwneud hyn rydym yn cynllunio cyfnod o ymgynghori cyhoeddus fydd yn cael ei gynnal o mis Hydref hyd at mis Chwefror.  Trwy ateb holiadur neu fynychu digwyddiadau bydd yn cael eu trefnu bydd modd i chi leisio barn a dysgu mwy am ein prosiect.  Bydden ni wrth ein bodd cydweithio â chynifer cael gymaint o gyfrannwyr a  o ddefnyddwyr a phosib, felly os rydych yn awyddus i dderbyn mwy o fanylion, mae groeso i chi gysylltu yn uniongyrchol a mi: nia.dafydd@llgc.org.uk neu gallwch chi gadw fyny efo datblygiadau neu digwyddiadau trwy ddilyn ni ar ein tudalen Twitter: @ADdGen_LlGC.

 

 

Nia Wyn Dafydd (Swyddog Datblygu Mynediad Prosiect Archif Ddarlledu Genedlaethol Llyfrgell Genedlaethol Cymru)

Postiwyd - 21-09-2017

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Chris Catling

 

Y mis hwn, Chris Catling Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n dewis ei hoff fapiau fel rhan o ymgyrch #CaruMapiau


OS 6-inch Rads XV N.W 1st ed.

Mae fy nhri cofnod cyntaf wedi ymwneud â’r tirluniau sy’n gysylltiedig ag Abaty Ystrad Fflur ac nid yw’r blog olaf hwn yn eithriad, er ein bod bellach wedi symud cryn bellter o’r fynachlog Sistersaidd ganoloesol. Mae cornel chwith uchaf y map hwn yn dangos gwarchodfa natur Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed yn Gilfach, sydd oddeutu 2 filltir (3.2km) i’r gogledd o Rhaeadr Gwy. Byddai mynd o Ystrad Fflur i Gilfach heddiw yn cymryd awr – mae’n 60 milltir (96km) ar y ffordd. Cymerodd y mynachod canoloesol lwybr mwy uniongyrchol, ar hyd llwybr canoloesol sy’n cysylltu Ystrad Fflur i ganolfan grefyddol wych arall, yr abaty Sistersaidd yng Nghwm-Hir, ger Llandrindod.

Edrychwch yn ofalus ar y map hwn a byddwch yn gweld y llwybr wedi’i labelu fel ‘Heol Hynafol’ ar ymyl chwith y map, ychydig uwchben glas amlwg Afon Marteg. Mae’r ‘ffordd hynafol’, yn cael ei adnabod yn lleol fel y “Monks ‘Trod”; er ei fod bellach wedi gordyfu â thywyrch, mae’r trac canoloesol a adeiladwyd yn ofalus yn goroesi yn gyfan gwbl am lawer o’i lwybr ar draws Mynyddoedd Cambria. Mae’n dilyn y bryniau crwn gymaint ag y bo modd i greu llwybr lefel lle gallai negeswyr ar gefn ceffyl deithio ‘r 23 o filltiroedd (36km) rhwng y ddau abaty mewn llai na awr os bydden nhw’n gyrru ar gyflymder uchaf ceffylau o 40-48 kmh.

Mae’r map yn dangos bod peirianwyr rheilffyrdd o’r 19eg ganrif yn dewis yr un llwybr ar gyfer Rheilffordd Canolbarth Cymru, a oedd yn weithredol ers dros 100 mlynedd rhwng 1864 a 1967. Roedd y rheilffordd yn chwarae rhan hanfodol wrth gadw cyflenwadau glo yn symud yn ystod y Rhyfel Byd, ond heddiw yn fwy adnabyddus am yr ystlumod sydd wedi dod o hyd i gartref yn y twnnel sydd wedi ei adael sy’n tanlinellu’r llwybr canoloesol. Yn union i’r gogledd-ddwyrain o’r twnnel, lle’r oedd y rheilffordd unwaith yn croesi’r Marteg ar draphont, mae cuddfan yn awr lle gallwch weld fflach laser o las y dorlan neu fflach arian yr eog sy’n codi yn hwyr yn yr haf; ac os ydych chi’n barod i aros i fyny drwy’r nos, efallai y byddwch hefyd yn gweld hela dyfrgwn. Mae’r llwybr o’r afon yn rhedeg i fyny’r bryn i Gilfach ei hun, cartref gwledig a fferm ganoloesol, y mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed wedi ei hadfer i wasanaethu fel canolfan ymwelwyr.

Mae “Monks ‘Trod” yn cael ei ailddarganfod yn araf gan gerddwyr a phererinion sy’n archwilio canolbarth Cymru: am fanylion y llwybr a’i hanes, gallwch ddarllen erthygl gan yr Athro Andrew Fleming a gyhoeddwyd yng nghylchgrawn British Archaeology (Vol 109, Tach-Rhagfyr 2009 ) neu ei bapur hirach yn olrhain y llwybr yn ‘The Making of a Medieval Road: The Monks’ Trod Routeway ‘, yn Landscapes, Cyfrol 10 (1), tudalennau 77-100.

Casgliad Mapiau’r Llyfrgell

 

Postiwyd - 20-09-2017

#CaruCelf / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Huw Edwards

Yn ystod y mis hwn, bydd y darlledwr ar newyddiadurwr Huw Edwards yn dewis ei hoff eitemau o’r Casgliad Celf Cenedlaethol fel rhan o ymgyrch #CaruCelf.

Mae wedi dewis Penddelw efydd ‘David Lloyd George’ gan y cerflunydd Michael Rizzello (1960)fel un o’i hoff gasgliadau.

 

Postiwyd - 15-09-2017

Newyddion a Digwyddiadau / Ymchwil

Wici-Iechyd

Gwella mynediad ar-lein at wybodaeth ar iechyd yn yr iaith Gymraeg

Bydd y Wicimediwr Cenedlaethol, a benodwyd yn ddiweddar gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, yn dechrau yn ei rôl newydd trwy fynd i’r afael â phwnc pwysig sy’n wynebu siaradwyr Cymraeg – rhoi mynediad am ddim at wybodaeth, o ansawdd uchel, ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd a lles yn y Gymraeg.

Wicipedia yw’r wefan Gymraeg fwyaf yn y byd gyda thros 90,000 o erthyglau. Datgelodd archwiliad diweddar o’r cynnwys mai dim ond nifer fechan o erthyglau a geir ar iechyd ar Wicipedia. Er hyn, mae hynny o erthyglau sy’n bodoli, ar gyfartaledd, yn fwy poblogaidd nag erthyglau ar unrhyw bwnc arall. Mae hyn yn awgrymu bod siaradwyr Cymraeg yn dymuno darllen gwybodaeth am eu hiechyd ar Wicipedia drwy gyfrwng y Gymraeg.

  • Mae gan Wicipedia 1,500 o erthyglau ar iechyd yn y Gymraeg o’i gymharu â 84,000 yn Saesneg.
  • Ceir 2.09% o erthyglau Cymraeg ar iechyd  ar Wicipedia o gymharu â 6.67% yn Saesneg.
  • Mae ymweliadau ag erthyglau Cymraeg sy’n ymwneud ag Iechyd yn cyfrif am 12% o’r holl ymweliadau tudalennau, mwy nag unrhyw bwnc arall.

Credir mai Wikipedia yw’r adnodd ar iechyd a ddefnyddir fwyaf yn y byd  (yn seiliedig ar 4.8 biliwn o dudalennau yn 2013) ac felly mae’n hanfodol ei fod yn cynnwys gwybodaeth ddibynadwy a chynhwysfawr ar bob agwedd o iechyd- o feddyginiaethau a gweithdrefnau llawfeddygol, i ffitrwydd , lles, a gwybodaeth hanesyddol.

Amcangyfrifir bod afiechydon yn costio biliynau i Gymru bob blwyddyn, a byddai sicrhau mynediad hawdd ac am ddim at wybodaeth am iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg (ar Wicipedia) yn helpu i drosglwyddo’r wybodaeth sydd ei angen ar y cyhoedd mewn ffurf y maent yn gyfarwydd ag o.

Bydd y prosiect, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn gweld y Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus ledled Cymru, i addysgu ac annog gweithwyr iechyd proffesiynol, myfyrwyr meddygol a’r cyhoedd yn gyffredinol i wella cynnwys iechyd ar Wicipedia.

Bydd y Wicimediwr Cenedlaethol hefyd yn ceisio llunio partneriaethau gydag elusennau a sefydliadau sydd eisoes yn cynhyrchu cynnwys ar iechyd yn y Gymraeg. Trwy gydweithio â hwy, anelir i ddarparu mynediad at y cynnwys hwn drwy Wicipedia, gan osod dolenni yn y testun i dywys y defnyddwyr yn ôl at wasanaethau ar lein y cyfranogwyr.

Y gobaith yw y bydd y prosiect 9 mis yn arwain at greu 3000 o erthyglau newydd yn ymwneud ag iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg ar Wicipedia.

Mae’r prosiect hwn yn cyd-fynd â nodau’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

(Cymru) 2015, sef helpu i ddatblygu Cymru iachach a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn un o bartneriaid allweddol y Llywodraeth wrth gyflwyno’r ddeddf hon.

Bydd y prosiect hefyd yn helpu’r Llyfrgell i ymgysylltu â chymunedau newydd a datblygu partneriaethau newydd yn y sectorau addysg ac iechyd er mwyn hyrwyddo a datblygu’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith ddigidol.

Tagiau: , , , , ,

Postiwyd - 14-09-2017

#CaruMapiau / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Chris Catling

Y mis hwn, Chris Catling Ysgrifennydd Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru sy’n dewis ei hoff fapiau fel rhan o ymgyrch #CaruMapiau

 

OS 6-inch Cards XVII S.W 1st ed.

Mae’r map Arolwg Ordnans hwn, a gyhoeddwyd yn 1891, yn parhau ar thema fy nau gofnod cyntaf, gan ddatgelu agweddau o’r dirwedd mynachaidd o amgylch Abaty Sistersaidd Ystrad Fflur. Mae’n dangos Pyllau Teifi, grŵp o lynnoedd sydd oddeutu 8km (5 milltir) i’r dwyrain-gogledd-ddwyrain o’r abaty hynafol, sef 455m (tua 1,500 troedfedd) i fyny llethrau gorllewinol Mynyddoedd Cambria. Mae’r llwybr troed o’r abaty i’r llynnoedd yn dilyn glannau Afon Teifi am lawer o’r llwybr hyd at Lyn Teifi, y mwyaf o’r llynnoedd a ffynhonnell yr afon. Mae’r Teifi yn llifo o yma i’w aber yn Aberteifi 73 milltir (117km) i ffwrdd, gan ffurfio ffin rhwng Ceredigion a Sir Gaerfyrddin am y rhan fwyaf o’i hyd, a’r ffin rhwng Ceredigion a Sir Benfro am y 3 milltir olaf (5 km).

Dyma afon fechan hyfryd gyda nifer o llednentydd, fel y mae’r map yn dangos, ymysg corsydd a bryniau’r Cambrian. Mae’r llwybr a’r afon yn dod mewn i’r map ar y gornel waelod ar y chwith, ac roedd ein mynachod Sistersaidd yn siŵr o fod yn mwynhau eu teithiau cerdded rheolaidd i fyny i byllau Teifi. Yng nghalendr yr Eglwys Gatholig, bu nifer o ddyddiau o ymprydio ac ymatal gan wahardd cig bob dydd Gwener a thros chwe wythnos y Grawys. Roedd gan bob mynachlog ei byllau pysgod artiffisial yn llawn o garpiaid; Byddai mynachod Ystrad Fflur yn edrych ymlaen at fwynhau ffrwythau ffres, brithyllod a llyswennod o’r pyllau hyn ac mae’r llynnoedd yn dal yn boblogaidd heddiw gan bysgotwyr sy’n pysgota ar gyfer brithyllod brown.

Heddiw mae’r llwybr yn cyfeirio at Fron Goch, safle un o’r gweithiau plwm a sinc mwyaf yng nghanolbarth Cymru. Dechreuodd mwyngloddio ar raddfa fawr yma ym 1834, ac yn 1900 daethpwyd â rhyw 80 o lowyr i weithio yma o ardal Bergamo yng Ngogledd yr Eidal. Yn anffodus, nid oedd y glowyr Eidalaidd a Chymreig yn gweld lygad yn lygad, ac roedd anghydweld rhyngddynt yn aml ynghylch oriau gwaith a chyfraddau tâl cyn i’r cloddfeydd gau yn derfynol ym 1910.

Mae Pyllau Teifi eu hunain yn weddillion o’r ddalen iâ a orweddai ar draws y mynyddoedd hyn yn ystod Oes yr Iâ diwethaf, gan erydu Mynyddoedd y Cambria ac yn rhoi iddyn nhw ymddangosiad nodweddiadol, sy’n eithaf gwahanol i gopaon a dyffrynnoedd Eryri. Tystiolaeth bellach o’r rhewlifiad yn yr ardal yw’r clogfeini – blociau o gerrig a gafodd eu disodli gan yr iâ a’u cario yma cyn eu gwaredu pan oedd y rhew yn toddi, tua 12,000 i 14,000 o flynyddoedd yn ôl.

Enillodd un o’r conglfeini hyn enw Carreg Samson am fod Samson, y cawr Beiblaidd a dyn cryf, i fod wedi bod yn cerdded gerllaw pan deimlodd garreg yn ei esgidiau, ac fe’i tynnodd a’i gollwng yma. Mae grŵp o wyth conglfaen ochr yn ochr ag un o’r llynnoedd llai, Llyn y Gorlan, yn ffurfio cylch garw: mae llên gwerin wedi dehongli hyn fel cylch Gorsedd cyntefig, a chredir mai dyma un o safleoedd Eisteddfod y Derwyddon.

Casgliad Mapiau LLGC

 

Postiwyd - 11-09-2017

Arddangosfeydd / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

Rhwydwaith Moderniaid Cymru (MONC)

Bydd ail gynhadledd Rhwydwaith Moderniaid Cymru (MONC) yn digwydd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ac Ysgol Gelf, Prifysgol Aberystwyth, ar 12-13 Medi 2017, gyda ‘Gair a Delwedd’ fel thema.

https://modernistnetworkcymru.files.wordpress.com/2017/06/monc-2017-programme-final-welsh.pdf

I gyd fynd â’r gynhadledd mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn arddangos llawysgrifau ac archifau yn ymwneud â rhai o awduron ac artistiaid pwysicaf Cymru o’r ugeinfed ganrif. Mae’r eitemau sydd i’w gweld fel a ganlyn:

  • drafft llawysgrif gan David Jones o ddiwedd Rhan V In Parenthesis, gyda braslun o filwr, [c. 1932-5] (David Jones Papers LP2/6),
  • diagram lliw gan David Jones yn darlunio llinach mytholeg (David Jones Papers LO3/3),
  • llythyrau oddi wrth T. S. Eliot at David Jones (David Jones Papers CT1/2)
  • detholiad o lyfrau nodiadau Ray Howard-Jones, yn dangos cerddi drafft a lluniau (Ray Howard-Jones Papers H2/3),
  • papurau’r bardd R. S. Thomas mewn perthynas â chyhoeddi The Way of It (1977), casgliad darluniedig o’i gerddi (NLW MS 23474C),
  • llythyrau oddi wrth y ffotograffydd ac arlunydd John Piper at y cyfansoddwr Alun Hoddinott (The Alun Hoddinott Archive BA1/23),
  • brasluniau gan yr arlunydd Gwen John (NLW MS 22297B),
  • nodiadau Gwen John ar gelfyddyd (NLW MS 22284B),
  • Birds in Winter’, cerdd darluniedig o waith Berta Ruck, a brynwyd yn ddiweddar gan y Llyfrgell (gweler y Berta Ruck Archive),
  • papurau’r awdur ac arlunydd Brenda Chamberlain (NLW MS 24065E),
  • map braslun gan Dylan Thomas o dref Llareggub, lleoliad Under Milk Wood: A Play for Voices (NLW MS 23949E),
  • llythyr, 16 Mehefin 1953, oddi wrth Thomas at ei gariad Americanaidd Liz Reitell (NLW MS 24091D),
  • a chopi yn llaw Thomas o’i gerdd ‘Ears in the turrets hear’ (NLW MS 23990D).

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Ystafell Summers yn y Llyfrgell Genedlaethol ar 12-13 Medi 2017.

Rhys M. Jones
Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol

← Older Posts

Categorïau

Archif

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog