BLOG - Monthly Archives: Hydref 2017

Postiwyd - 31-10-2017

#CaruMapiau / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Rhys Jones

Mapio newid a newid mapiau– Cofnod blog gan yr Athro Rhys Jones Prifysgol Aberystwyth fel rhan o ymgyrch #CaruMapiau


Mae’n fy anesmwytho i weld mapiau sy’n cyflwyno lle neu ranbarth cyfarwydd mewn ffordd anghyfarwydd, a does dim yn fy mhoeni fwy na map o fy ngwlad fy hun sydd, rywsut, yn edrych yn wahanol i’r un yr wyf wedi arfer ei weld. Un gyfres o fapiau fel hyn yw’r un sy’n ymddangos ym monograff Edward Hull (1882) ar hanes ffisegol Ynysoedd Prydain. Mae’r mapiau’n dangos y graddau y mae Ynysoedd Prydain wedi newid o ganlyniad i oes yr iâ yn ystod y cyfnod Chwarteraidd neu, mewn geiriau eraill, yn ystod yr 1.8 miliwn o flynyddoedd diwethaf. Gallwch weld o’r mapiau yma fod siâp Ynysoedd Prydain wedi datblygu dros amser o ganlyniad i newid yn lefel y môr yn sgil cynnydd a chiliad y llenni iâ. Bydd darllenwyr y blog yma’n  ymwybodol erbyn hyn, fod fy nghysylltiad ag Anghydffurfiaeth o oed cynnar iawn wedi golygu bod bob blog yn seiliedig ar dri phen. Fydd darllenwyr ddim yn synnu fod yr un patrwm yn parhau yma.

 

Yn gyntaf, mae edrych ar fapiau Hull  a’r newid yng nghyfuchlinau Ynysoedd Prydain yn ein hatgoffa o’r rôl bwysig y mae mapiau o’n gwlad ein hunain yn ei chwarae i’n hatgoffa o bwy ydym a’r lle yr ydym yn gysylltiedig ag ef. Yn ôl yn y 1980au, dangosodd Michael Billig fod cenedlaetholdeb yn hunaniaeth grŵp endemig ym mhob gwlad a bod cyfres o symbolau cyffredin yn helpu i atgoffa unigolion eu bod yn aelodau o genedl benodol. Mae mapiau o’n gwlad ein hun yn cyflawni’r swyddogaeth hon. Er enghraifft,  dydi mapiau tywydd byth yn cael eu labelu ag enw’r wlad lle mae’r tywydd yn cael ei ddisgrifio; ein tywydd ‘ni’ yw hwn, gan ei fod yn gysylltiedig â’n gwlad ‘ni’, sy’n helpu i gadarnhau ein hymlyniad â’n cenedl ‘ni’. A dyna pam fod mapiau fel rhai Hull yn fy anesmwytho. Mae’r cyfarwydd yn anghyfarwydd ynddynt. Maent yn dangos bod y sicrwydd daearyddol yr ydym mor gyfarwydd ag ef yn bopeth ond hynny. Os yw sefydlogrwydd cymeriad ffisegol ein gwlad mor dwyllodrus, beth ddywed hynny am ein cenedl a’n hunaniaeth?

 

Yn ail, mae mapiau Hull yn ein helpu i werthfawrogi bod ein morlin wedi bod yn gyfnewidiol erioed. Wrth gwrs, nid proses hanesyddol yn unig yw natur gyfnewidiol ein morlin ond mae’n bryder gwirioneddol mewn nifer o gymunedau ar hyd yr arfordir heddiw. Nepell o ble rwy’n teipio, yn y Borth a’r Friog, ceisiwyd adeiladu ac atgyfnerthu amddiffynfeydd morol fel ffordd o estyn oes yr aneddiadau yma. Tra bod dyfodol yr aneddiadau yma’n debygol o fod yn ansicr, mae rhywfaint o obaith y gall y problemau ein helpu i sylweddoli realiti effaith newid hinsawdd ar ein bywydau. Yn rhy aml rydym yn meddwl am newid hinsawdd fel rhywbeth haniaethol, neu ar y gorau, yn ei ystyried fel rhywbeth sy’n effeithio ar bobl ac amgylcheddau mewn mannau eraill (mae’r cymunedau ar ynys Vanuatu yn y Môr Tawel a’r  arth wen yn yr Arctig yn enghreifftiau amlwg). Efallai bod angen mwy o bwyntiau cyfeirio lleol – ac felly, rhai sydd efallai’n fwy real na hyn – os ydym am newid ein ffordd o fyw er mwyn lleihau effaith tymor hir newid hinsawdd. Gallai’r frwydr barhaus yn erbyn y môr, y llanw a’r tonnau mewn llefydd fel y Borth a’r Friog, ein helpu i sicrhau’r symbyliad y mae angen mawr amdano i sicrhau newid i ni yng Nghymru.

 

Yn drydydd, mae mapiau Hull hefyd yn gwneud pwynt llawer ehangach ynglŷn â gallu mapiau i gynrychioli newid. Mae’r mapiau yr ydym wedi tyfu i fyny â nhw mewn atlasau neu ar waliau’n gyfrwng sefydlog unigryw o ddosbarthiad ffenomena ond yn aml maent yn cael trafferth i gynrychioli’r newid mewn dosbarthiadau dros gyfnod o amser. Mae cyfres o fapiau, fel y rhai a ddarlunnir ym monograff Hull, yn gallu mynd peth o’r ffordd i ddangos natur y newidiadau dros amser ac mae’r defnydd creadigol o goroplethau a saethau, i ryw raddau, yn gallu cynrychioli newid dynamig. Ond dim ond hyd at ryw bwynt. Mae’n bosibl mai mapiau digidol sy’n rhoi’r ateb gorau yma fel ffordd o ddangos newidiadau yn y gorffennol, yn ogystal â chymeriad datblygiadau’r presennol a phosibiliadau’r dyfodol. Enghraifft dda o hyn yw’r map sy’n seiliedig ar y we, a luniwyd i fodelu effaith gwahanol lefelau’r cynnydd yn lefel y môr mewn cymunedau ar hyd yr arfordir yn yr Iseldiroedd a’r Deyrnas Unedig (http://geology.com/sea-level-rise/netherlands.shtml). Rwy’n hoff iawn o’r map papur, a hyd yn oed nawr, a minnau’n ganol oed, rwy’n mwynhau arferiad a ddatblygais yn ystod fy ieuenctid; sef troi tudalennau atlas. Ac eto, efallai mai arferiad sy’n perthyn i’r gorffennol yw hwn. Efallai bod angen i ni newid ein mapiau i allu mapio newid yn effeithiol.

 

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Rhagor o gofnodion #CaruMapiau

Postiwyd - 26-10-2017

Collections

Dathlu Diwrnod Etifeddiaeth Glyweledol y Byd UNESCO

Mae Diwrnod Etifeddiaeth Glyweledol y Byd (DEGB) UNESCO, yn cael ei ddathlu bob blwyddyn ar y 27ain o Hydref gan archifau sgrin a sain dros y byd i gyd. Ei nod yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd deunydd clyweledol. Bob blwyddyn mae yna thema i DEGB, ac eleni y thema yw ‘Darganfod, Cofio a Rhannu’. Mae’r Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn gasgliad enfawr o ddeunydd clyweledol, a fe hoffai aelodau staff yr Archif rannu eitemau a ddarganfuwyd ganddynt o’r casgliad, a pham y dylen nhw i gyd gael eu cofio.

Wilhelmina Barnden
Mae dwy o’m hoff ffilmiau yn cynnwys dau gymeriad cofiadwy. Mae un ohonyn nhw’n ddyn sy’n weithiwr caled ac yn caru ei swydd, a’r llall yn swil ac yn byw bywyd unig a llwm.
Y ffilm gyntaf yw ‘Kidwelly Castle’. Mae’n sicr taw Will Gower, Saer Maen yng Nghastell Cydweli, yw seren y ffilm. Mae Will yn siarad yn angerddol iawn am y gwaith mae o’n ei wneud, ac yn dweud wrthym am hanes Gwenllian, arwres lleol sy’n arwain byddin yn erbyn y Normaniaid.
Yr ail ffilm ydy ‘The Airy Tomb’, sy’n bortead hyfryd o’r gerdd gan R. S. Thomas. Mae’r adroddwr yn adrodd hanes gwlyb Twm, enaid trist sy’n byw ac yn marw ar ei ben ei hun yn ei dŷ ar ochr y mynydd. Daw’r geiriau a’r delweddau at ei gilydd i roi portread atmosfferig iawn i ni o fywyd na chafodd ei fyw yn llawn.

Angharad Griffiths
Ers i mi ddod i weithio i’r archif dros bum mlynedd yn ôl, rydw i wedi dod o hyd i lawer o ffilmiau a chlipiau teledu gwych fel rhan o’m gwaith. Ond yr un sydd wastad ar fy meddwl yw ‘Baby Marred 1955-59’. Mae’r ffilm yn anhygoel – mae’n gofnod o faban yn tyfu’n blentyn bach, gyda’i chwaer gariadus a chwareus, Annes, wrth ei hochr. Ond i mi, y ffaith mai hon yw un o’r ffilmiau cyntaf a wnes i ei digido ar ôl dod yn ôl o gyfnod mamolaeth a wnaeth wneud i mi ddeall pa mor bwysig a chymaint o effaith  gall y ffilmiau hyn eu cael ar bobl. Dydw i ddim yn nabod y plant yn bersonol, ond mae’r ffilm gartref fach hon yn cyfleu’r profiad cyffredin o fod yn rhiant – y llawenydd o weld cerrig milltir yn cael eu cyrraedd – a gweld y berthynas rhwng brodyr a chwiorydd yn blodeuo. Sylweddolais na fyddai’r ffilm hon wedi golygu cymaint i mi cyn i mi ddod yn fam, felly gwnaeth hi fy nhario y gall ffilmiau eraill, na allaf gysylltu â nhw ar hyn o bryd, olygu y byd i rywun arall. Efallai y byddant yn eu hatgoffa o’u plentyndod, o swydd y roedden nhw’n arfer ei charu, neu atgofion melys o ffrindiau a theuluoedd yn y gorffennol. Yn fyr, roedd y ffilm hon yn fy atgoffa pa mor bwysig yw’r gwaith rydym ni yn ei wneud, a pham ei bod mor bwysig i ddiogelu a rhannu’r deunydd yn ein gofal.

Emma Towner
Mae’r ffilm ‘Send out your Homing Pigeons Dai’ yn dathlu barddoniaeth a cholomennod. Fel darllenydd brwd, ac un sy’n ysgrifennu barddoniaeth, fe wnes i syrthio mewn cariad gyda’r ffilm yma’n gyflym iawn ar ôl gwylio’r ychydig funudau cyntaf. Mae’n un o fy hoff ffilmiau sydd gennym yn ein casgliad oherwydd trwy ddefnyddio delweddau, mae cerddi Idris Davies yn dod yn fyw. Ynghyd â’r farddoniaeth, mae William Robinson yn rhannu hanes ei golomennod gyda ni, a thrwy wneud hynny mae’n cyffwrdd â’n calonnau gyda’i angerdd wrth ofalu am yr adar. Mae’n dweud, “Os oes gennych hobi, mae rhaid i chi ei charu!” Ac mae’n amlwg iawn fod William wrth ei fodd yn gofalu am ei golomennod.

Mark Davies
Un o’m hoff teitlau o’r casgliad ar hyn o bryd yw’r ‘First Through Train from Euston to Rhyl, 1908’.
Y ffilm meistr 35mm yn bodoli ar stoc nitrad ac fe welir dirywiad sylweddol yn y llun – patrymau organig, emwlsiwn yn pilio, difrod dŵr ag ati. Ond mewn ffordd ma hyn yn ychwanegu at naws hudolus y ffilm. Beth sy’n diddori fi fwyaf yw gwynebau chwilfrydig y Rhyl a dillad swanc yr oes.
Wrth ddigido llynedd, daethom ar draws ychwaneg o fanylion i’r delweddau oedd wedi ei printio’n agos i ymyl y ffrâm ac yn ardal y trydylliadau.
Drwy chwarae gyda geomedreg camera y sganer – ymddangosodd manylion llawn yr arwydd, sy’n eistedd ar ffrynt yr injân a chadarnhau lleoliad y ffilm i ni. Mwynhewch!

AGSSC

Twitter ~ @AGSSC

Facebook ~ Archif Sgrin a Sain Cymru | Screen and Sound Archive of Wales

Postiwyd - 25-10-2017

#CaruCelf / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Meri Huws

Dros y bedair wythnos nesaf, Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg sy’n dewis ei hoff weithiau celf o’n casgliad helaeth fel rhan o ymgyrch #CaruCelf

Mae wedi dewis Cardiganshire Landscape gan John Elwyn fel ei dewis cyntaf.

“Mae lluniau yn cyfleu gymaint: atgofion, delweddau, pobl, lliwiau , siap adeiladau a chant o mil a bethau eraill. Ond mae lluniau John Elwyn , yn arbennig y rhai o dirweddau de orllewin Cymru, yn cyfleu fy mhlentyndod. Mae’r haul mas, y porfa yn wyrdd a’r adeiladau ffarm yn disgleirio yn wyn yn y gwres. Mae gwynt y gwair sydd wedi cael ei dorri yn gymysg a ‘ diesel ‘ y tractor ac os ydw i’n lwcus byddai yn cael eistedd ar ben y ‘bales ‘ wrth ein bod yn mynd nol i’r sied wair. Mae’r gwyliau haf yn para am byth a  ‘sneb i weld yn poeni fy mod yn yr haul o ddechrau’r dydd tan bod yr haul yn mynd i lawr ( er mae’n siŵr eu bod i gyd yn gwybod yn iawn ble’r oedd y ferch fach !).

Mae lluniau John Elwyn yn perthyn i’r cyfnod o ddiniweidrwydd plentyndod – dim glaw a dim poen! Mae gweld y ” Cardiganshire Landscape’ yn hala ias lawr fy nghefn.”

Rhagor o gofnodion #CaruCelf

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Postiwyd - 20-10-2017

Collections

Yr Archif Ddarlledu Cenedlaethol . . . dywedwch beth hoffech chi!

Mae’r mis diwethaf wedi bod yn gyfnod prysur eto i’r prosiect Archif Ddarlledu wrth i ni baratoi ar gyfer ein hymgynghoriad cyhoeddus.  Mae’r ymgynghoriad bellach wedi cychwyn ac rydym yn awyddus iawn i glywed eich barn!

 

Mae rhaglen o ddigwyddiadau yn cael eu cynllunio ar gyfer y tri mis nesaf ac rydyn ni’n chwilio am unigolion neu grwpiau sy’n awyddus i gymryd rhan neu gyfrannu.  Bydd manylion am y digwyddiadau yn cael eu rhannu ar ein tudalen Trydar: @ADdGen_LlGC a Facebook felly gwyliwch allan am y newyddion diweddaraf.  Mae’r cam cyntaf wedi mynd yn fyw heddiw – sef agor ein holiadur barn.

 

Ein ffocws ni wrth ddatblygu’r prosiect yw chi, y defnyddiwr.  Rydyn ni eisiau clywed am sut yr hoffech chi ddefnyddio’r archif ddarlledu neu’r hybiau gwylio ddigidol a bydden ni wrth ein boddau clywed y math o ddigwyddiadau neu weithgareddau hoffech chi eu mynychu.  Felly pam ddim treulio pum munud o’ch amser prin yn cwblhau’r holiadur yma fel ein bod ni’n cynllunio prosiect sy’n ateb eich gofynion chi.   Ac yna os ydach chi wedi mwynhau, pam ddim perswadio ffrindiau a theulu i gymryd rhan hefyd?

 

 

 

Postiwyd - 19-10-2017

Collections / Sgrin a Sain

Dathlu Ffilmiau Cartref

Ar 21ain o Hydref bydd y byd yn dathlu Diwrnod Ffimiau Cartref, a ble well i ddechrau darganfod cyfoeth ffilmiau fel hyn nag yn ein casgliad ni yma yn Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru, sy’n dyddio o’r 1920au ymlaen.  Cofnodion personol oedd ffilmiau cartref, ond bellach mae technoleg fodern yn galluogi pawb i’w mwynhau. Yn ddiweddar ‘rydyn ni wedi digido dros saith gant o’r ffilmiau sydd yn ein gofal, ac mae llawer ohonynt i’w gweld am ddim ar y BFI Player yma. Mae bron fel edrych i mewn drwy ffenest rhywun, ond mai lens camera yw’r ffenest.

Ymhlith ein hoff ffilmiau cartref yn y casgliad hwn mae Baby Marred 1955-1959 – ffilm hyfryd yn dangos y babi ar ei phrifiant yng nghwmni ei chwaer gariadus Annes; Branksome, Heathwood Road, Cardiff – ffilm liw ogoneddus o fywyd yng Nghaerdydd yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a Tiger Bay and The Rainbow Club – II, sy’n rhoi cipolwg ar hanes cymuned enwocaf Caerdydd, mewn lliw godidog.

Mae’r casgliad yn amrywio o ffilmiau cartref sy’n portreadu pethau personol iawn, i ffilmiau sy’n dathlu’r gymuned ehangach. Mae’n syndod meddwl am y gofal, yr ymdrech a’r gost ag aeth i’w creu, ond yn bwysicaf oll maent yn lluniau sydd yn real ac uniongyrchol iawn, yn aml heb eu golygu.

Mae’r ffilmiau hyn yn rhoi cyfle i ni chwilota, adlewyrchu a (gobeithio) cael ein hysbrydoli. Er bod y dull a’r cyfrwng wedi newid yn syfrdanol dros y blynyddoedd, nid oes pen draw ar ein hawydd i ddal ein bywydau ar gamera a rhannu’r delweddau. Trodd ffilmiau cartref ddoe, a recordiwyd ar Super 8, eu taflunio ar wal y parlwr a’u storio yn yr atig, bellach yn ffilmiau ffôn, sy’n cael eu ‘taflunio’ drwy’r cyfryngau cymdeithasol a’u storio yn y cwmwl. Un dydd efallai bydd gennym ni adran bwrpasol ar gyfer diogelu delweddau Snapchat, Instagram, Trydar a Facebook sydd o ddiddordeb i Gymru a’i diwylliant!

Dros yr haf fe gyfrannodd yr Archif i raglen hyfryd o’r enw ‘Wales’s Home Movies,’ a ddarlledwyd ar BBC Cymru ddydd Sul diwethaf (15fed Hydref). Dangoswyd enghreifftiau lu o ffilmiau teuluol a chymunedol, a chyfweliadau  gyda phobl oedd ynddynt, oll yn rhannu eu hatgofion o’r ffilmio a’r digwyddiadau gafodd eu hanfarwoli. Os na welsoch chi’r rhaglen, neu os hoffech ei gwylio eto, mae ar gael ar iPlayer y BBC yma tan 14eg Tachwedd. Am flas pellach o’n casgliad gallwch ein dilyn ar Facebook, Twitter ac Instagram (bron) yn ddyddiol, ac mae wastad croeso i chi ymweld â ni yn y Llyfrgell Genedlaethol i weld sut ‘rydym yn gofalu am y ffilmiau gwerthfawr hyn, a’u diogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

AGSSC

Postiwyd - 16-10-2017

Arddangosfeydd / Casgliadau / Collections / Newyddion a Digwyddiadau

Trichanmlwyddiant geni William Williams Pantycelyn

Mae trichanmlwyddiant geni William Williams Pantycelyn wedi rhoi cyfle i mi gyfuno dwy agwedd o fy mywyd yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef fy ngwaith gyda llyfrau prin a fy aelodaeth o Gôr y Gen.  Ddydd Mercher 6ed o Fedi traddodwyd darlith yn y Drwm gan yr Athro E. Wyn James o Brifysgol Caerdydd gyda’r teitl Williams Pantycelyn trwy Lygad ei Lythyrau.  I gyd-fynd â’r ddarlith, darparais arddangosfa yn Ystafell Summers, ar y cyd gyda Rhys M. Jones, Llyfrgellydd Llawysgrifau Cynorthwyol, o ohebiaeth William Williams ac argraffiadau gwreiddiol o’i weithiau.  Roeddem ni’n falch i groesawu aelodau o Gymdeithas Hanes Llanymddyfri, ardal geni William Williams, i’r Llyfrgell y diwrnod hwnnw.

Nos Sul 1af o Hydref perfformiodd Côr y Gen, sef côr o aelodau o staff y Llyfrgell, mewn cymanfa ganu yng nghapel Bethel, Aberystwyth.  Roedd ein rhaglen yn cynnwys trefniadau o ddau emyn gan William Williams, sef O Nefol Addfwyn Oen ac O Llefara Addfwyn Iesu.

Ddeuddydd yn ddiweddarach daeth aelodau o Fudiad Efengylaidd Cymru ar ymweliad i’r Llyfrgell.  Rhoddais sgwrs iddynt ar William Williams a dangos rhai o’r llyfrau a oedd wedi’u cynnwys yn yr arddangosfa.

Darparodd Rhys Jones a finnau arddangosfa eto ddydd Sadwrn 14eg o Hydref, pan gynhaliwyd cynhadledd undydd yn y Llyfrgell gan Adran Diwylliant 18-19 Ganrif Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru i ddathlu trichanmlwyddiant geni Williams Pantycelyn.  Y siaradwyr oedd yr Athro E. Wyn James, Dr. Eryn White, Gwynn Matthews, yr Athro Densil Morgan a’r Athro Ceri Davies.

 


Bydd y dathliadau yn parhau ddydd Mercher 18fed o Hydref gyda seremoni yn adeilad y Cynulliad ym Mae Caerdydd.  Bydd anerchiadau gan Elin Jones, Carwyn Jones, E. Wyn James ac Ifor Davies, a bydd Côr y Gen yn canu trefniadau o dri o emynau Pantycelyn i orffen.

Mae’r Llyfrgell hefyd wedi digido holl weithiau cyhoeddiedig William Williams Pantycelyn sydd yn ei chasgliadau, fel eu bod ar gael i bawb ar y We am y tro cyntaf. Mae dros 90 o weithiau i gyd, yn cynnwys dros 4,000 o dudalennau. Byddant yn help i godi ymwybyddiaeth o gyfraniad y llenor a’r emynydd i fywyd Cymru ac yn fyd eang, ac yn adnodd gwych i unrhyw un sydd am astudio ei waith.

Trwy gydol cyfnod y dathliadau mae eitemau printiedig a llawysgrif o waith William Williams hefyd i’w gweld mewn cas arddangos yn Ystafell Peniarth ar lawr gwaelod y Llyfrgell.  Gyda’r gweithgareddau amrywiol hyn rydym wedi ceisio talu teyrnged haeddiannol i’r Pêr Ganiedydd.

 

Timothy Cutts

Llyfrgellydd Llyfrau Prin

Postiwyd - 13-10-2017

#CaruCelf / Arddangosfeydd / Blog Kyffin / Collections

Kyffin Williams 100: Tu ôl i’r Ffrâm

“It is ironic that I am the most loved & most honoured Welsh artist of all time & yet I am hated by the art world.” – Kyffin Williams (dyddiadur) 16 Hydref 1993.

Pleser o’r mwyaf i ni yw datgelu cynlluniau i gynnal arddangosfa eang a fydd yn cael ei lansio ym mis Chwefror 2018 i goffáu canmlwyddiant geni un o artistiaid mwyaf nodedig a diffiniol Cymru’r ugeinfed ganrif – Syr Kyffin Williams.

Cychwynnodd y berthynas rhwng y Llyfrgell a’r artist gyntaf oll yn 1949 ar ddechrau gyrfa Kyffin a ninnau’n prynu un o’i baentiadau am y tro cyntaf. O’r adeg yma ymlaen cafodd y berthynas hon ei meithrin trwy bryniannau, rhoddion ac arddangosfeydd cyson tan ei farwolaeth ym mis Medi 2006 pan dderbyniodd y Llyfrgell ran helaeth o’i ystâd yn gymynrodd. Y casgliad presennol yn y Llyfrgell, ynghyd â’r gymynrodd, yw’r casgliad helaethaf a’r mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael o ddeunydd sy’n perthyn i Kyffin Williams.

Felly, beth mae’r Llyfrgell wedi bod yn gwneud â’r rhodd hael hon hyd yn hyn? Mae trefnu a chyflwyno arddangosfa gynhwysfawr o’i waith yn gynnyrch sawl blwyddyn o ddidoli, catalogio, diogelu ac astudio. Mae’r gwaith hwn yn dal i fynd rhagddo a llawer eto i’w gyflawni. Rydym wedi bod wrthi’n gwneud ei gasgliadau’n hygyrch i’r cyhoedd ar-lein, trwy arddangosfeydd a’n rhaglen benthyciadau, yn enwedig gyda’n partner Oriel Kyffin / Oriel Ynys Môn. Yn wir, mae ein perthynas ag Oriel Kyffin yn etifeddiaeth wych o gymynrodd Kyffin, lle bellach mae cwtsh wedi disodli ysgwyd llaw yn y cyfarfodydd! Bydd y Llyfrgell ac Oriel Kyffin yn dod at ei gilydd i rannu casgliadau yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant ynghyd â chydweithio ar raglen gyfoethog o weithgareddau estyn allan.

Mae arddull eiconig a thestun gweithiau Kyffin yn atyniadol gan eu bod wedi dod yn gyfystyr â’r weledigaeth o Gymru a Chymreictod, agwedd hanfodol ar ein dealltwriaeth o bwy ydyn ni. Ond pwy oedd e?

“I am the greatest living expert on myself” – Kyffin Williams (dyddiadur), 29 Ionawr 1993

Sut rydyn ni am bortreadu artist mor eiconig y mae cynifer o bobol wedi ysgrifennu amdano a’i drafod? Roeddem yn teimlo mai’r ffordd orau o wneud hyn oedd dwyn ysbrydoliaeth o eiriau’r artist ei hun – o’i ddyddiaduron a’i lythyron ei hun – er mwyn dehongli ei greadigaethau. Byddwn yn edrych ‘tu ôl i’r ffrâm’ i ddysgu am ei dechneg, am yr hyn â’i ysbrydolodd a sut wnaeth ei bersonoliaeth, cymhlethdod ei gymeriad a’i iechyd ddylanwadu ar ei fywyd a’i waith.

Mae ein cefnogaeth i’r artist hwn ar hyd y blynyddoedd wedi cyrraedd ei benllanw yn yr arddangosfa hon ynghyd â llu o ddigwyddiadau a gweithgareddau estyn allan a gynhelir yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant. Mae’n arbennig o berthnasol – wrth i ni dynnu at derfyn blwyddyn y chwedlau – ein bod yn lansio achlysur dathlu’r unigolyn unigryw a chwedlonol hwn.

 

Uned Arddangosfeydd

Postiwyd - 12-10-2017

#CaruMapiau / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruMapiau – Rhys Jones

I’r Dwfn – Cofnod blog gan yr Athro Rhys Jones Prifysgol Aberystwyth fel rhan o ymgyrch #CaruMapiau

Mae mapiau daearegol bob amser wedi fy nghyffroi. Mae rhywbeth diddorol am allu daearegwyr i adnabod ffurfiau creigiau o dan y ddaear – synclinau, anticlinau, diffygion ac ati – ar sail yr hyn y maent yn ei wybod am ddaeareg wyneb y ddaear ac ychydig o resymeg. Mae’r map cynnar hwn o ddaeareg maes glo De Cymru yn enghraifft berffaith o gelf daearegwr. Mae’n dangos lleoliad y gwahanol ffurfiau creigiau a oedd yn hollbwysig i ddatblygiad diwydiant yn Ne Cymru; y mannau lle byddai un yn dod o hyd i’r mwyn haearn a’r gwythiennau glo a oedd yn cynnal llawer o economi a chymdeithas De Cymru am bron i ddau gan mlynedd.

Mae tair thema ddiddorol yn codi yng nghyd-destun y map hwn. Yn gyntaf oll, mae’n ein hatgoffa o’r cysylltiad arwyddocaol sydd wedi bodoli rhwng disgyblaeth Daeareg a Chymru fel gwlad. Mae datblygiad y ddisgyblaeth wedi’i gysylltu’n agos â Chymru, fel y gwelir trwy ddefnyddio termau megis ‘Cambrian’ a’r ‘Silurian’ i enwi cyfnodau amser daearegol. Ni ddylai’r ffaith bod daearegwr Saesneg o’r enw Adam Sedgwick wedi enwi cyfnod y Cambrian ac aristocrat o’r Alban o’r enw Syr Roderick Murchison wedi enwi’r cyfnod Silwraidd dynnu oddi ar y ffaith bod enwau sy’n meddu ar gysylltiadau cryf â Chymru, bellach yn cael eu defnyddio fel ffyrdd o ddisgrifio cyfnodau o amser daearegol ledled y byd. Mae Cymru, yn yr ystyr hwn, wedi cael presenoldeb byd-eang o ddechreuadau Daeareg fel disgyblaeth.

Yn ail, mae’r map yn arbennig o ddiddorol imi am resymau personol. Fe ges i fy ngeni yng Nghaerfyrddin a fy magu yn Llanelli, ac ers yn ifanc iawn rwyf wedi bod yn ymwybodol- efallai yn ddamweiniol – o effaith daeareg ar natur economi, cymdeithas a diwylliant lle neu ardal. Mae Sir Gaerfyrddin, yn hyn o beth, yn sir sydd wedi ei ffurfio’n glir gan ei ddaeareg, gyda’r cymunedau hynny yn nwyrain y sir yn hollol wahanol i’r rhai yn y gorllewin a’r gogledd. Mae Dyffryn Gwendraeth yn arbennig o ddiddorol, yn hyn o beth, gan ei fod yn brawf o gymdeithas ddiwylliannol a diwylliant yn cydfodoli- ynghlwm â’r gwythiennau o daflith sydd i’w gweld yno – a chymdeithas a diwylliant mwy amaethyddol. Mae wedi dod yn amhoblogaidd i ddisgrifio’ch hun fel amgylcheddwr penderfyniaethol – neu, mewn geiriau eraill, rhywun sy’n credu bod gwahanol agweddau ar yr amgylchedd yn cyflyru’r hyn y mae’n bosibl i bobl ei wneud a’i gyflawni – ond mae y cyswllt amlwg rhwng daeareg  maesydd glo De Cymru a chymeriad newidiol cymdeithas a diwylliant mewn mannau fel Sir Gaerfyrddin,yn rhoi rhywfaint o amser i feddwl yn hyn o beth.

Yn drydydd, ac yn olaf, mae’r map yn gweithredu fel rhyw fath o symbol o ddinistrio’r amgylchedd a achoswyd gan y chwyldro diwydiannol mewn mannau fel De Cymru. Yr ydym i gyd yn rhy gyfarwydd ag effaith diwydiant trwm ar wahanol agweddau o natur yn y rhanbarth; boed yn afonydd, llynnoedd a phriddoedd a gafodd eu llygru neu ysgyfaint y glowyr a gafodd eu difetha. Mae’n rhoi gobaith i ni, yn hyn o beth, pan fydd un yn clywed am afonydd yn Ne Cymru sydd wedi cael eu hail-lenwi â eogiaid a brithyllod. Yn fras, tybed a yw’r profiad negyddol hwn o ddiwydiannu hefyd wedi llygru meddylfryd- hyd yn oed ar lefel isel – i ymgais gwleidyddion a gwneuthurwyr polisi leoli Cymru fel arweinydd byd-eang mewn perthynas â datblygu cynaliadwy a diogelu’r amgylchedd yn fwy eang. Mae datblygiadau megis creu un corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru yn arwydd o ymgais ar ran Cymru i amddiffyn yr amgylchedd mewn ffordd fwy holistig nag sy’n bodoli yn y rhan fwyaf o wledydd eraill. Yn ogystal, mae pasio deddf diweddar Lles y Dyfodol, sydd â’r nod o roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd popeth y mae cyrff cyhoeddus yn ei wneud yng Nghymru, yn tystio i ymrwymiad cyffredinol Cymru i brif ffrydio datblygiad a lles cynaliadwy fel egwyddorion allweddol o sut y dylem gael ein llywodraethu. Os mai dyna’r achos, yna gallai’r costau amgylcheddol sy’n gysylltiedig â diwydiannu – y rheini a gynrychiolir mewn rhai ffyrdd drwy’r map hwn o faes glo De Cymru – fod wedi gosod y sylfaen ar gyfer dyfodol mwy cynaliadwy sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd, i Gymru fel gwlad.

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

Rhagor o gofnodion #CaruMapiau

Postiwyd - 11-10-2017

#CaruCelf / Casgliadau / Newyddion a Digwyddiadau

#CaruCelf – Huw Rees

Y mis hwn, y cyflwynydd, gohebydd ar dylunydd ffasiwn Huw Rees sy’n sôn am ei gariad tuag at gelf fel rhan o ymgyrch #CaruCelf

Mae wedi dewis ‘Bellringer of Caernarvon in costume of trade’, [187-] gan John Cambrian Rowland fel ei ail ddewis.

Rhagor o gofnodion #CaruCelf

I ddysgu mwy am waith a chasgliadau’r Llyfrgell beth am danysgrifio yn y golofn ar y dde.

← Older Posts

Categorïau

Archif

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog