Mapiau ac Atodlenni Degwm

Y mapiau degwm

Roedd cywirdeb y mapiau yn dibynnu ar fedr y tirfesurwyr lleol a gyflogwyd at y gwaith. Bu mwy na 200 o dirfesurwyr yn gweithio yng Nghymru.

Roedd y cyfarwyddiadau cyntaf ar gyfer mapio (Papurau Seneddol Prydain, Tymor 1837, Cyfrol. XLI 405) yn rhy uchelgeisiol. Lluniwyd hwn gan un o’r Comisiynwyr Cynorthwyol, yr Is-gapten R K Dawson o’r Arolwg Ordnans, a’r bwriad oedd iddo fod ar raddfa o 3 cadwyn i’r fodfedd  (1:2,376) gyda chyfres safonol o symbolau. 

Yn anffodus, ni chafodd hyn ei fabwysiadu oherwydd bod yn rhaid i’r tirfeddianwyr dalu costau’r arolwg. Roedd nifer yn anfodlon gwneud hyn, yn arbennig felly os oedd ganddynt eisoes gynlluniau ystâd a allai wneud yr un gwaith.

Roedd yn rhaid i ddeddfwriaeth diwygio gael ei phasio yn 1837 a roddai ganiatâd iddynt gyflwyno mapiau llai manwl, ac yn aml ar raddfa lai. Lluniwyd nifer o’r mapiau hyn o’r mapiau ystad oedd yn bodoli eisoes heb fawr o waith tirfesur newydd.

Galwyd y mapiau hynny oedd yn cyrraedd y safon yn gynlluniau dosbarth cyntaf a byddent yn derbyn sêl gan y Comisiynwyr Degwm. Byddai’r Comisiynwyr Degwm yn gwrthod rhoi eu sêl ar fapiau o safon isel.

Yng Nghymru dim ond 50 o’r 1,091 gafodd eu selio fel mapiau dosbarth cyntaf, yn bennaf ar gyfer ardaloedd yn Sir Fynwy neu Sir Frycheiniog. Cafodd y gweddill eu hardystio yn unig fel dogfennau yr oedd dosraniad rhent-dâl y degwm wedi’i selio arnynt.

Mae’r mapiau ail ddosbarth hyn yn amrywio mewn graddfa ac ansawdd. Mae rhai sydd ar y raddfa benodedig, sef 3 cadwyn i’r fodfedd na seliwyd mohonynt yn fapiau dosbarth cyntaf am ryw reswm; tra bo eraill yn fawr mwy na brasluniau topograffig heb fod o unrhyw werth ar gyfer gwybodaeth am ffiniau eiddo, e.e. Llangeitho, Sir Aberteifi (1:7,920) a Nantglyn, Sir Ddinbych (1:21,120). Roedd rhai mapiau yn syml iawn, yn fapiau un fodfedd yr Arolwg Ordnans wedi eu helaethu yn unig.

Yr atodlenni dosrannu

Mae’r atodlenni dosrannu degwm yn dilyn fformiwla fwy caeth ac fel arfer fe’u gosodir allan ar ffurflenni safonol sy’n cynnwys colofnau ar gyfer -

  • Enwau perchnogion a deiliaid tir
  • Rhifau’r caeau
  • Maint y caeau
  • Enw neu ddisgrifiad
  • Defnydd y tir ym mhob ardal degwm
  • Cyfanswm rhent-dâl y degwm a oedd yn daladwy
  • Enwau'r perchnogion degwm

 

Nid yw pob atodlen yn mynd i’r un manylder. Mae pob un yn rhoi manylion am berchnogion a deiliaid y tir ond mae rhai yn rhoi manylion am ddaliadau yn unig, nid am gaeau unigol. Mae ychydig dros hanner atodlenni Cymru yn rhoi manylion am rent-dâl y degwm ar bob cae. Yn yr un modd, nid yw pob map yn rhoi manylion am ddefnydd y tir nac yn cofnodi enwau’r caeau unigol.

Cyfarwyddwyd tirfesurwyr a phriswyr gan y perchnogion tir i ddosrannu yn ôl daliad yn hytrach na thrwy gaeau unigol er mwyn cadw’r costau’n isel. Mae enwau caeau a defnydd y tir wedi eu cofnodi amlaf lle mae’r dogfennau degwm wedi cael eu paratoi o arolygon tir a oedd yn bodoli’n barod. Dylai defnyddwyr fod yn ofalus wrth astudio manylion am enwau caeau a defnydd tir, oherwydd gallasent fod yn ailadrodd gwybodaeth am dirwedd hŷn a oedd eisoes wedi newid erbyn bod y map degwm yn cael ei baratoi.

Priswyr a thirfesurwyr

Penodwyd priswyr a thirfesurwyr gan berchnogion tir fel arfer wedi iddynt hysbysebu yn y wasg leol. Roedd 305 o briswyr a thirfesurwyr yn gweithio yng Nghymru. Tra bod y rhan fwyaf ohonynt yn gweithio yn lleol yn unig, roedd eraill yn gweithio dros sawl sir. Un o’r rhai mwyaf nodedig oedd cwmni H P Goode & Philpott o Hwlffordd a oedd yn gweithio yn Sir Benfro, Sir Forgannwg, Sir Gaerfyrddin a Sir Aberteifi ar gyfanswm o 126 o apwyntiadau. Mewn gwrthgyferbyniad mae 135 o briswyr a thirfesurwyr yn gysylltiedig ag un dosraniad yn unig.

Defnyddio’r mapiau

Ni ddylid defnyddio unrhyw fap ar ei ben ei hun, y mae angen ffynonellau dogfennol eraill i daflu goleuni ar gywirdeb mapiau, eu pwrpas, y ffordd y cawsant eu llunio ac i benderfynu faint o wybodaeth y cartograffydd sy’n newydd neu unigryw, a faint ohono sydd yn ailadrodd yr hyn a gafwyd eisoes. Nid yw mapiau degwm yn eithriad.

Lluniwyd nifer o fapiau degwm Cymru o hen arolygon tir. Dylai’r ymchwilydd geisio sefydlu felly sut y cafodd y mapiau eu gwneud. Faint o’r data a gasglwyd o waith maes go iawn a faint oedd yn deillio o ffynonellau eraill? Tra bo mapiau yn aml yn cynnwys rhychwant eang o wybodaeth, doedd rhai agweddau, megis hawliau tramwy, o ddim diddordeb i’r Comisiynwyr. Ar fapiau degwm, felly, mae gwybodaeth o’r fath naill ai yn absennol neu heb fod yn fanwl gywir.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?