Mapiau Thematig

Mae’r casgliad mapiau yn cynnwys yn bennaf mapiau a chynlluniau topograffig. Ceir ynddo hefyd nifer fawr o fapiau thematig. Mapiau yw’r rhain sy’n ceisio dangos nodwedd arbennig o’r tirwedd neu sy’n arosod gwybodaeth ddaearyddol dros y tirwedd.

Mapiau daearegol

Mae’r Llyfrgell yn dal enghreifftiau o fapiau daearegol o’r Byd i gyd. Fodd bynnag ei phrif faes o arbenigedd yw Ynysoedd Prydain. Mae’r Llyfrgell yn derbyn pob cyhoeddiad gan yr Arolwg Daearegol Prydeinig ac mae ganddi hefyd gasgliad sylweddol o fapiau daeareg hanesyddol ar gyfer Prydain Fawr.

Arolygon 1af ac 2ail defnydd tir

Yn ogystal â mapiau defnydd tir cyhoeddedig o ledled y Byd, mae gan y Llyfrgell ddalenni cyhoeddedig o arolygon 1af ac 2ail defnydd tir cenedlaethol.

Mae copiau cywir o'r arolwg defnydd tir a llystyfiant yn cael eu digido ar hyn o bryd a byddant ar gael i'w gweld ar y Drych Digidol.

Mae’r Llyfrgell hefyd yn gartref i’r llawysgrifau o’r drafftiau gweithio gwreiddiol o’r 2ail<sup> </sup>arolwg defnydd tir yng Nghymru. Mae llawer o’r deunydd heb ei gyhoeddi, ac felly mae’n ffynhonnell werthfawr o wybodaeth am y newidiadau a ddigwyddodd i dirlun gwledig Cymru. Mapiau yr Arolwg Ordnans (OS) yw’r mapiau sylfaen sydd wedi eu lliwio i ddangos defnydd y tir.

Arolwg cynefinoedd Cymru

Yn ddiweddar mae Cyngor Cefn Gwlad Cymru wedi rhoi’r mapiau gwreiddiol o Arolwg cynefinoedd Cymru yn rhodd i’r Llyfrgell. Unwaith eto mae mapiau sylfaen OS wedi cael eu lliwio, y tro hwn i ddangos cynefinoedd. Mae’r wybodaeth hon bellach wedi cael ei digido gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru. Er mwyn sicrhau bod y mapiau gwreiddiol yn cael eu cadw ar gyfer y dyfodol, cawsant eu trosglwyddo i’r Llyfrgell lle gellid eu storio mewn ffordd briodol a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer eu hastudio yn y dyfodol.

Mapiau’r ddeddf gyllid

Caniataodd y Ddeddf Gyllid 1909-10 i’r llywodraeth drethu’r cynnydd mewn gwerth eiddo pan gai ei werthu. Fel rhan o’r broses werthuso lluniwyd cyfres o fapiau. Roedd y mapiau hyn wedi eu selio ar fapiau OS gyda’r wybodaeth a ddefnyddiwyd gan y gwerthuswyr wedi ei hychwanegu mewn llawysgrif.

Mae’r Llyfrgell yn cadw’r mapiau ar gyfer Ceredigion ac mae ganddi hefyd rai dalenni ar gyfer siroedd eraill. Am wybodaeth bellach ynghylch y Ddeddf Gyllid ymwelwch â Gwefan yr Archifdy Gwladol a darllenwch y canllawiau ymchwil: ‘Valuation Office Records: The Finance (1909-1910) Act'.

Yswiriant tân/cynlluniau canolfannau siopa Goad

Cynlluniau manwl o ganol trefi yw cynlluniau Goad. Cawsant eu cynhyrchu yn y  dechrau at bwrpas yswiriant tân, ac maent yn parhau i gael eu cynhyrchu heddiw ar fformat electronig fel y gellir eu hargraffu yn ôl yr angen. Maent yn ddefnyddiol oherwydd eu bod yn fanwl iawn (fel arfer 1:1,000) ac yn darparu gwybodaeth am sut mae pob adeilad yn cael ei ddefnyddio ac yn aml enw’r busnes sy’n ei ddefnyddio; mae hwn yn adnodd gwerthfawr ar gyfer gwaith ymchwil hanesyddol.

Y mae’r enghreifftiau cynharaf sydd gennym yn dyddio o’r 19eg<sup> </sup>ganrif ac maent yn cynnwys canol dinasoedd Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd. Mae’r rhan helaethaf o’r casgliad yn dyddio o’r 1970au i’r 1990au ac yn ymdrin nid yn unig â phob prif ddinas a thref ym Mhrydain ac Iwerddon, ond hefyd nifer yng Ngorllewin Ewrop.

Yn fwy diweddar peidiodd y cwmni â chyhoeddi copïau printiedig ac felly peidiodd y Llyfrgell â’u derbyn o dan adnau cyfreithiol. Mae’r Llyfrgell yn parhau i brynu copïau argraffu yn ôl y galw o’r cynlluniau hynny o Gymru.

Mapiau tramor

Mae’r Llyfrgell wedi ceisio sicrhau mapiau thematig ar gyfer gwledydd tramor, gan gynnwys mapiau daearegol, mapiau at ddefnydd tir a mapiau pridd ar gyfer gwledydd unigol. Mae yma hefyd rai mapiau rhyngwladol (wedi eu cynhyrchu yn aml dan nawdd  UNESCO neu asiantaethau rhyngwladol eraill) sy’n ymdrin, neu sy’n ceisio ymdrin â’r Byd i gyd.

Mae nifer o atlasau cenedlaethol hefyd yn cynnwys yn bennaf mapiau thematig, megis daeareg, priddoedd, hinsawdd, poblogaeth ayb. Gall y rhain fod yn ffynhonnell werthfawr o wybodaeth ar gyfer y rheini sy’n astudio’r amgylchedd, datblygiad neu ddaearyddiaeth rhanbarthol.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?