Gweithiau Celf mewn Ffrâm

Sut i sicrhau copïau o eitemau yng Nghasgliad Gweithiau Celf mewn Ffrâm

Gellir prynu printiau ffotograffig, sleidiau a thryloywon fformat mwy o safon broffesiynol o eitemau yng Nghasgliad Gweithiau Celf mewn Ffrâm ar gyfer defnydd preifat. Fel arfer copïau ffotograffig digidol fyddant, ond ar gais penodol cwsmer gellir sicrhau printiau wedi'u prosesu'n gemegol.

Cyn y gellir cyhoeddi unrhyw lun o'r casgliad mewn unrhyw gyfrwng mae'n rhaid sicrhau caniatâd y Llyfrgell Genedlaethol fel deiliaid yr hawliau atgynhyrchu.

Am fwy o wybodaeth ymwelwch â thudalennau'r Llyfrgell ar Atgynhyrchu Deunydd.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?