John 'Warwick' Smith

Roedd John ‘Warwick’ Smith (1749-1831) yn arlunydd dyfrlliw enwog iawn yn ei ddydd ac fe’i hadwaenid fel lliwiwr o fri. Erbyn diwedd ei fywyd roedd rhai o’r farn fod arddull ei waith yn rhy draddodiadol ond cytuna’r mwyafrif ei fod wedi  trawsnewid y ffordd y defnyddid lliw wrth baentio dyfrlliw a bod ei waith yn esiampl o ymadawiad arlunwyr y cyfnod oddi wrth baentio ffurfiol a chlasurol. Dywed Rudolph Ackermann, yn ei lyfr dylanwadol, Repository of Arts yn 1812: ‘it may with truth be said, that with this artist the first epoch of painting in water colours originated’. Rhwng 1784 a 1806 ymwelodd yn aml â Chymru ac mae’n amlwg iddo gael ei hudo gan y wlad. Yng nghasgliad y Llyfrgell, ceir 162 llun dyfrlliw sy’n dangos ffrwyth ei waith paentio tra’r oedd ar ei deithiau yma.

John ‘Warwick’ Smith

Ganed John ‘Warwick’ Smith yn Irthington, Cumberland, ar 26 Gorffennaf, 1749. Ei athro celf cyntaf oedd yr arlunydd amatur, Capten John Bernard Gilpin o Gastell Cumberland ac ef oedd yn gyfrifol am ei argymell i fod yn athro arlunio. Tra’r oedd yn Sir Derby c.1775, daeth i adnabod George Greville sef ail Iarll Warwig, casglwr celf nodedig Castell Warwig. Noddodd Greville i John ‘Warwick’ Smith fynd i’r Eidal i baentio ac yno cyfarfu â nifer o arlunwyr talentog gan gynnwys yr arlunydd enwog Cymreig Thomas Jones (1742-1803) a fu’n ddylanwad mawr arno. Mae’r darluniadau a greodd tra’r oedd yn yr Eidal yn cael eu hystyried fel rhai o’i weithiau gorau a chredir i’r daith gael tipyn o ddylanwad ar ei arddull. Ar ôl treulio pum mlynedd yno, dychwelodd i Loegr ac ymgartrefodd yn Warwig. Tybir iddo gael y llysenw ‘Warwick’ ar ôl enw’r dref yr ymgartrefodd ynddi ac oherwydd yr holl gymorth a dderbyniodd yn ystod ei yrfa gan ail Iarll Warwig. Yn ystod y cyfnod hwn fe deithiodd yn helaeth o amgylch Prydain ac fe gyhoeddwyd nifer o’i weithiau, gan gynnwys 6 o’i ddarluniau a gafodd eu llingerfio, yn llyfr Samuel Middiman Select Views in Great Britain (1784-5).Yn 1786 fe gomisiynodd John Murray, 4ydd Dug Atholl, John ‘Warwick’ Smith i baentio 26 llun o Ynys Manaw a chânt eu hystyried heddiw fel y cofnodion darluniadol pwysicaf sy’n bodoli o’r Ynys.  Arddangosodd nifer o’i weithiau gyda’r Gymdeithas Dyfrlliw Frenhinol a bu’n llywydd, ysgrifennydd a thrysorydd i’r Gymdeithas cyn ymddeol yn 1823 yn 74 mlwydd oed. Bu’n diwtor celf am nifer o flynyddoedd cyn iddo farw yn 81 mlwydd oed. Cafodd ei gladdu yng Nghapel Saint Siôr, Heol Uxbridge.

John ‘Warwick’ Smith a Chymru

Daeth Cymru yn gyrchfan ffasiynol iawn i arlunwyr yn ystod ail ran y 18fed ganrif. O achos Rhyfeloedd Napoleon nid oedd modd i bobl deithio i Ewrop (yn enwedig ar gyfer y 'Grand Tour') ac felly dechreuodd arlunwyr ganolbwyntio ar ddarlunio Prydain. Roedd gan Gymru dirlun prydferth yn llawn cestyll, mynyddoedd a llynnoedd ac roedd yr iaith a'r chwedlau unigryw yn gwneud y wlad yn lle delfrydol i arlunwyr ddarlunio a phaentio. Yn ei waith Gwenllian mae Peter Lord yn dadlau: '...Wales was perceived by English intellectuals as a strange and ancient place with the customs, dress and language of the people belonging to another age, these qualities were considered attractive'. O ganlyniad i weithiau fel Observations on the River Wye and several parts of South Wales, etc. (1782) William Gilpin (1724-1804), tirluniau  Richard Wilson (1712/13-1782), Tours in Wales Thomas Pennant (1726-1798), llin-engrafiadau John Boydell (1720-1804) a darluniau acwatint Paul Sandby (bed.1731 - m.1809) fe ddaeth y wlad yn boblogaidd iawn ymysg arlunwyr.

Digidwyd 162 o luniau dyfrlliw trawiadol o Gymru a grëwyd gan John ‘Warwick’ Smith rhwng 1784 a 1806. Ceir cofnod gweledol ganddo o bob rhan o Gymru. Ceir lluniau o Gastell Dinefwr, Castell Penfro, Castell Caernarfon a Chastell Panarlâg, i enwi ond rhai. Gwelir lluniau o Gymru cyn y chwyldro diwydiannol fel General distant view of Aberystwith & the bay of Cardigan o tua 1790 sy’n dangos Aberystwyth fel tref fechan ac anghysbell cyn dyfodiad y rheilffordd a drawsnewidiodd y dref yn yr 1860au.

Lluniau eraill sy’n dal y llygad yw ei luniau trawiadol o fwyngloddiau copr Mynydd Parys, Ynys Môn o 1790. Cafodd gwmni ei noddwr, Robert Fulke Greville (1751-1824), a’r arlunydd Julius Caesar Ibbetson (1759-1817) wrth ymweld â’r ardal. Mae persbectif ei luniau yn eu gwneud yn rhai dramatig dros ben ac yn pwysleisio perygl y gwaith a maint enfawr y mwyngloddiau. Yn ei lyfr Diwylliant Gweledol Cymru: Y Gymru Diwydiannol mae Peter Lord o’r farn mai lluniau John ‘Warwick’ Smith o’r mwyngloddiau yma yw’r rhai gorau iddo erioed eu creu. Ym 1794 cyhoeddwyd  y gyfrol A tour through parts of Wales, sonnets, odes and other poems, with engravings from drawings taken on the spot. Mae’n cynnwys 13 o luniau wedi eu seilio ar weithiau Smith.

Hafod, Ceredigion

Ym 1792 aeth John ‘Warwick’ Smith ar daith i Hafod, Ceredigion unwaith eto gyda Greville ac Ibbetson ac ym 1810 fe gyhoeddwyd 15 o'i ddarluniau yn A Tour of Hafod in Cardiganshire gyda thestun gan Syr James Edward Smith (1759-1828), llywydd y Gymdeithas Linneaidd. Gwelir rhai o’r lluniau gwreiddiol a greodd ar gyfer y cyhoeddiad gan gynnwys Hafod in Cwm Ystwith. The romantic abode of Thomas Johnes,Esq; M.P. Cardiganshire, yn y casgliad o 162 o llun a ddigidwyd. Mae’r gyfrol ei hun eisoes wedi cael ei digido gan y Llyfrgell.

Darllen Pellach

  • David Dimbleby, A Picture of Britain, (Llundain: Tate, 2005)
  • Greg Smith, The Emergence of the Professional Watercolourist, (Aldershot: Ashgate Publishing Limited, 2002)
  • Peter Lord, Diwylliant Gweledol Cymru Y Gymru Ddiwydiannol, (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1998)
  • Peter Lord, Gwenllian: Essays on Visual Culture, (Llandysul: Gwasg Gomer, 1994)
  • Simon Fenwick, ‘Smith, John (1749–1831)’, Oxford Dictionary of National Biography, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2004; cyfrol ar-lein, Ion. 2008 [accessed 27 Sept 2011]
  • W. Sotheby, A Tour through parts of Wales, sonnets, odes, and other poems with engravings from drawings taken on the spot, (Llundain: Argraffwyd gan J. Smeeton, yn St. Martin's Lane, ar gyfer R. Blamire, Strand, ger  Charing Cross, 1794)

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?