Thomas Rowlandson (1756-1827)

Yn 1772 cofrestrodd y Llundeiniwr Thomas Rowlandson fel myfyriwr yn yr Academi Frenhinol. Yr oedd yn ddrafftsmon penigamp, ac yn 1777 enillodd fedal arian am ei grefft. Gadawodd yr Academi yn 1778 gan gychwyn gyrfa hir fel arlunydd portreadau dyfrlliw hynod ddawnus.

Paentiwr golygfeydd a dychanwr

Yn ystod y 1780au enillodd Rowlandson enw da iddo'i hun am ei ddelweddau gwych ac weithiau deifiol o fywyd bob dydd y cyfnod. Amrywiai'r darluniau hyn o sylwadau gwleidyddol i droeon bywyd a charicatur genre. Defnyddir ei ddyfrlliwiau yn aml iawn i ddylunio bywyd yn yr oes Sioraidd ac yn arbennig felly rhai o'r cynulliadau mawr oedd yn gysylltiedig â chwaraeon, celf a diddanwch. Y mae ei Vauxhall gardens a luniwyd yn 1784 ac a ddangoswyd yr un flwyddyn yn yr Academi yn enghraifft nodedig ohono'n cyfuno ei allu i gyfansoddi â'i hiwmor i greu paentiad sydd ag arwyddocâd hanesyddol ac yn gampwaith celf ar yr un pryd.

Nid dim ond paentiwr golygfeydd diddorol mohono: roedd ei lygad am ddychan yn llenwi bron pob lluniad o'i waith â throeon bywyd a'i bathos. Dylanwadwyd ar Rowlandson gan y Ffrancwyr yn arbennig - arlunwyr Rococo megis Watteau a Fragonard. O'r ysgol honno y cafodd ei ddiddordeb mewn lliwio cain wedi'i gyfuno â chyfansoddiadau lled-wledig y gellid eu dehongli fel alegori. Agwedd arall ar draddodiad celf Ffrainc yw'r tirlun pur, ac fe berffeithiodd Rowlandson ei arddull yn hyn o beth dros lawer o flynyddoedd gan gynhyrchu astudiaethau niferus o'i arsylwi.

Gwaith Rowlandson yn y Llyfrgell Genedlaethol

Mae'r rhan fwyaf o gasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o waith Rowlandson yn astudiaethau tirlun ym Mhrydain, gyda'r mwyafrif yn dylunio tirlun Cymru. Syr John Williams, sefydlydd y Llyfrgell, a brynodd y lluniadau Cymreig gan ddeliwr yn Llundain yn nechrau'r ugeinfed ganrif. Maent bron i gyd yn lluniadau pin a golch yn null traddodiadol gweithiau topograffyddol Prydeinig ddiwedd y 18fed ganrif. Cawsant i gyd eu tynnu yn y fan a'r lle ac maent yn dangos dawn Rowlandson i greu golygfa ddymunol gyda gwaith golch grymusol a rhydd.

Yn 1797 teithiodd yr awdur Henry Wigstead o gwmpas Cymru yng nghwmni "my friend Mr Rowlandson". Mae'n debygol fod yr arlunydd wedi'i gyflogi nid yn unig fel cwmni i'r awdur ond hefyd fel arlunydd ar gyfer cynllun i gyhoeddi hanes taith fer drwy Gymru. Cyhoeddodd Wigstead ei gyfrol Remarks on a tour to North and South Wales yn 1799 gyda 22 acwatint ar sail lluniadau Rowlandson sydd yn awr yng nghasgliad y Llyfrgell, yn ogystal ag esiamplau o'i luniadau yntau mewn llaw galed a braidd yn wasaidd.

Mae'r gyfres yn ddiddorol oherwydd nid yn unig y mae'n portreadu safleoedd crand fel Castell Cas-gwent neu Bont Aberglaslyn, ond hefyd pentrefi anadnabyddus megis Castellnewydd Emlyn. Yn ei ddarlun o Aberystwyth gwelir yn amlwg hoffter Rowlandson o fywyd a chyffro. Fel casgliad mae'r lluniadau hyn yn gosod ger ein bron ddarlun byw o fywyd cefn gwlad yn ystod haf 1779 trwy lygaid arlunydd a oedd yn medru cyfuno tirlun bictwrésg ag arsylwi gofalus.

Cofnodi tirwedd

Roedd Rowlandson yn rhan o'r hen draddodiad Prydeinig o gofnodi'r tirwedd a chyfuno celf gyda rhyddiaith neu farddoniaeth i greu gwaith llenyddol. Wrth weithio yn y genre honno, yr awdur fyddai'n penderfynu pa luniadau i'w cynnwys ac mae'r acwatintau yn dangos bod yn well gan Wigstead ddarluniau syml heb amwysedd.

Mae gan y Llyfrgell nifer o luniadau taith ac mae rhai Rowlandson gyda'r goreuon. Efallai mai ei gyfansoddiad gwychaf yw'r dyfrlliw mawr o Ddolbadarn lle mae'n cyferbynnu'r twristiaid boneddigaidd yn cychwyn ar eu hymchwil am y pictwrésg ar Lyn Padarn â'r werin sydd ond yn medru rhythu ar yr ymwelwyr mewn rhyfeddod.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?