Testament Newydd William Salesbury

Cyfeirnod: W.s. 58

Yn 1563 pasiwyd deddf yn gorchymyn i esgobion Cymru ac esgob Henffordd drefnu cyfieithiad Cymraeg o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi Gyffredin erbyn y 1af o Fawrth 1567. Ni chyhoeddwyd cyfieithiad o'r Beibl cyfan tan 1588 pan ymddangosodd Beibl yr Esgob William Morgan, ond ar y 6ed o Fai 1567 cyhoeddwyd cyfieithiad o'r Llyfr Gweddi ac ar y 7fed o Hydref yn yr un flwyddyn cyhoeddwyd cyfieithiad o'r Testament Newydd. Cyhoeddwyd y ddau gan Humfrey Toy a'u hargraffu yn Llundain gan Henry Denham.

Cyfieithwyd rhannau o'r Testament Newydd gan Richard Davies, Esgob Tyddewi, a Thomas Huet, Cantor Tyddewi, ond roedd y rhan helaeth o'r Testament Newydd a'r cyfan o'r Llyfr Gweddi yn waith un cyfieithydd, sef William Salesbury. Ganwyd Salesbury yn Llansannan rywbryd cyn 1520 a threulio rhan fwyaf ei oes yn Llanrwst. Astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen lle daeth o dan ddylanwad y Diwygwyr Protestannaidd, yn enwedig Erasmus, a phenderfynu troi o grefydd Pabyddol ei deulu at Brotestaniaeth.

Ar ôl ymddangosiad y llyfr cyntaf i'w argraffu yn Gymraeg, sef Yny lhyvyr hwnn gan Syr Siôn Prys (1546), William Salesbury oedd yn gyfrifol am y rhan fwyaf o'r llyfrau Cymraeg a gyhoeddwyd tan 1588. Ef a ysgrifennodd y geiriadur Cymraeg cyntaf, sef A dictionary in Englyshe and Welshe (1547). Ef hefyd oedd yn gyfrifol am y cyhoeddiad cyntaf o ran sylweddol o'r Ysgrythur i ymddangos yn Gymraeg, sef Kynniver llith a ban (1551), sydd yn cynnwys cyfieithiad Salesbury o'r Efengylau a'r Epistolau a ddarllenid yr yr Eglwys ar y Sul. Roedd ei lyfrau eraill yn cynnwys casgliad o ddiarhebion, rhagarweiniad i'r iaith Gymraeg, llyfr gwrth-Pabyddol, a chyfieithiad o waith clasurol ar astronomeg.

Iaith gogledd Cymru yw iaith Testament Salesbury, ond mae'n cynnwys ffurfiau deheuol mewn nodiadau yn ymylon y tudalennau. Anelodd at eirfa ddysgedig yn ei gyfieithiad yn hytrach na defnyddio iaith pob dydd, a newidiodd orgraff geiriau Cymraeg i beri iddynt ymdebygu i eiriau Lladin. Oherwydd hyn mae iaith Salesbury yn gallu edrych yn ddieithr i ddarllenwyr heddiw, ond mae ei gyfieithiad yn garreg filltir bwysig yn hanes cyhoeddi yn y Gymraeg a hanes darparu'r Ysgrythurau i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain. Roedd hefyd yn gynsail i gyfieithiad William Morgan o'r Beibl cyfan, sef y fersiwn a ddefnyddid gan y Cymry heb lawer o newid am y bedair canrif nesaf.

Llyfryddiaeth

  • W. Alun Mathias, "William Salesbury a'r Testament Newydd". Yn Llên Cymru, Cyfrol 16 (1989), tt.40-68
  • Isaac Thomas, Y Testament Newydd Cymraeg, 1551-1620. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1976

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?