Peniarth 28: Darluniau o Lyfr Cyfraith Hywel Dda

Daniel Huws

XKD 9430 H9B (4to)

Cyfraith Hywel oedd yr enw gan Gymry yr Oesoedd Canol ar eu cyfraith frodorol. Collodd hi ei blaenoriaeth wedi goresgyn Cymru gan Edward I a Statud Rhuddlan yn 1284, ond fe barhaodd yn elfen bwysig yn y gyfraith a weinyddwyd yng Nghymru hyd at Ddeddf Uno 1536. Mae'r ffaith fod ar glawr gymaint â deugain o lyfrau cyfraith sy'n gynharach na 1536, a'r rhan fwyaf ohonynt yn ddiweddarach na 1284, yn dyst i barhad defnyddioldeb cyfraith Hywel.

Bu farw Hywel Dda yn 949 neu 950. Yng nghyfnod olaf ei deyrnasiad yr oedd yn rheoli mwy o diriogaeth Cymru nag unrhyw frenin o'i flaen, a bron mwy nag unrhyw Gymro a ddaeth ar ei ôl. Nodweddwyd ei deyrnasiad gan gyfnod o heddwch. Yr oedd Hywel felly mewn safle lle gallai hyrwyddo diwygiad ac unffurfiaeth yn y gyfraith Gymreig; y tebyg yw fod y gyfraith sy'n dwyn ei enw yn cynnwys cnewyllyn dilys o gyfraith a gynullwyd yn amser Hywel. Mae astudiaethau ar destunau'r llyfrau cyfraith yn awgrymu fod traddodiad ysgrifenedig hir i lawer o'u cynnwys, traddodiad sy'n debyg o fynd yn ôl o leiaf mor bell â chyfnod Hywel. Ac eto, nid oes ar glawr un llyfr sy'n gynharach nag ail chwarter y drydedd ganrif ar ddeg. Yn ogystal â chnewyllyn o ddeunydd cynnar sy'n gyffredin iddynt, fe geir yn y llawysgrifau hyn ddeunydd sydd yn amlwg yn perthyn i'r ddeuddegfed a hyd yn oed i'r drydedd ganrif ar ddeg.

Mae'r genhedlaeth gyntaf o lyfrau cyfraith, rhai ohonynt yn Lladin, rhai yn Gymraeg, yn perthyn i ddegawdau Canol y drydedd ganrif ar ddeg. Nid oes dyddiad ar yr un ohonynt. Mae'r rhan fwyaf ohonynt yn tarddu o Wynedd, cartref tywysogion Cymru yn ystod canrif olaf ei hannibyniaeth. Llyfrau bychain ac ôl traul arnynt yw'r rhan fwyaf o'r llyfrau hyn, llyfrau ymarferol i'w cario o gwmpas gan wŷr y gyfraith yn hytrach na llyfrau llyfrgell. Perthyn llawysgrif Peniarth 28 yn y Llyfrgell Genedlaethol i'r to cyntaf hwn o lyfrau cyfraith. Cynnwys un o'r fersiynau Lladin ar gyfraith Hywel (testun sy'n hysbys i ysgolheigion dan yr enw 'Lladin A'). Yr hyn sydd yn ei gosod ar wahân i'r holl lawysgrifau cyfraith eraill yw'r gyfres darluniau a atgynhyrchir yn y llyfryn hwn.

Nid yw'n amlwg paham yr addurnwyd Peniarth 28 â'r gyfres lluniau. Yr esboniad tebycaf yw bod y llyfr wedi'i wneud yn gopi cyflwyno ar gyfer rhyw berson o bwys. Mae'r ffaith fod y testun yn un Lladin yn awgrymu mai ar gyfer eglwyswr yn hytrach na gŵr cyfraith neu leygwr o Gymro y gwnaethpwyd y llyfr. Erbyn tua dechrau'r bedwaredd ganrif ar ddeg yr oedd Peniarth 28 yn llyfrgell abaty Sant Awstin yng Nghaergaint. Ond cyn hynny, fe ymddengys, hwn oedd yr union lyfr y dyfynnwyd ohono gan John Pecham, archesgob Caergaint, pan ysgrifennodd ei lythyr condemniol at Lywelyn ap Gruffudd ym mis Tachwedd 1282. Ni allwn ond dyfalu sut y bu i'r llawysgrif hon ddod i ddwylo Pecham. Mae tystiolaeth y testun yn awgrymu mai rhywle yn yr hen Ddyfed yr ysgrifennwyd hi.

Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg nid peth anghyffredin oedd fod gan noddwyr cefnog ar y Cyfandir ac yn Lloegr lawysgrifau o gyfraith ganon yr Eglwys a chyfraith sifil Rhufain oedd yn cynnwys darluniau yn rhan o'u haddurn. Mae enghreifftiau hefyd o lawysgrifau cyfreithiau brodorol, megis eiddo Lloegr a'r Almaen, sy'n cynnwys lluniau. Ond mae'n anodd credu fod dylanwad unrhyw fath arall o lyfr cyfraith ar y gyfres lluniau yn Peniarth 28, ar wahân efallai i'r syniad fod lluniau yn gweddu rywsut i gopi de luxe o lyfr cyfraith. Hyd yn oed yng nghyd-destun cyffredinol llawysgrifau canoloesol Cymreig mae Peniarth 28 yn llyfr hynod. Ychydig iawn o'r llawysgrifau hyn sydd â darluniau yn perthyn i'w haddurn o gwbl; llai byth ohonynt sydd â lluniau ac elfen fawr o wreiddioldeb yn perthyn iddynt. Llwm oedd y traddodiad Cymreig yn hyn o beth.

Mae'r rhan fwyaf o gelfyddyd ganoloesol yn dibynnu'n drwm ar fodelau blaenorol; amrywiai'r graddau o fenthyca a gwreiddioldeb. Yn Peniarth 28 gwelir yn llun y brenin, yr unig ddarlun y mae'n amlwg fod cynsail soffistigedig y tu ôl iddo, adlewyrchiad delw brenin y gellir gweld ei thebyg mewn llu o lawysgrifau, yn grefyddol a seciwlar, o ddiwedd y ddeuddegfed ganrif a dechrau'r drydedd ar ddeg. Ond am y gweddill, mae naws dyfeisio ar y pryd ar y lluniau, ambell un ohonynt yn awgrymu mwy o arfer na'i gilydd; gellir cynnig, er enghraifft, fod yr arlunydd wedi tynnu llun llawer milgi o'r blaen (neu fod ganddo fodel gan well arlunydd o'i flaen) tra bod buwch a gwenyn yn bur ddieithr iddo. Nid yw'r lluniau'n brin o fenter, beth bynnag a fo am y gelfyddyd. Ac y mae lle i dybio fod sylwadaeth ofalus y tu ôl iddynt (gweler y nodiadau ar ddiwedd y llyfryn hwn).

Mae'r inc a welir yn y darluniau yn Peniarth 28 yn edrych yr un fath ag inc yr ysgrifen. Dichon mai'r un oedd yr arlunydd a'r ysgrifwr. Defnyddiai ddau brif liw ar wahân i'w inc du: coch a gwyrdd. Defnyddir hefyd ar adegau ryw felyn tenau, rhyw frown tenau ac unwaith (ar gyfer y carw) ryw frown tenau cochaidd. Yn anffodus, yn y gwyrdd a ddefnyddid (ferdigris, mae'n debyg) yr oedd yna duedd i fwyta trwy'r memrwn; erbyn heddiw gwelir ambell dwll yn y ddalen.

Perthyn rhan helaethaf y darluniau yn Peniarth 28 i ddwy gyfres. O ffolio 1v hyd 6v ceir darluniau o'r brenin a rhai o'r pedwar swyddog ar hugain oedd yn perthyn i'w lys. Mae diddordeb arbennig yn perthyn i'r darluniau hyn gan nad oes gennym lawysgrif arall yn cynnwys ymgais gan Gymro o'r drydedd ganrif ar ddeg i bortreadu ei gyfoeswyr (a bwrw nad copïo o gynsail gynharach yr oedd yr arlunydd). Ar ffolio 15v a 17v ceir lluniau eraill o bobl. Yna, ar ffolio 20v hyd 26r daw cyfres o ddarluniau adar, anifeiliaid a phethau sydd o werth cyfreithiol, yn dynodi dechrau'r gwahanol adrannau sy'n ymdrin â'r gyfraith yn ymwneud â hwy. Er bod ambell ddarlun wedi dioddef trwy draul ar y llawysgrif, ac ambell un yn ddigon distadl ei gynnwys, fe gynhwysir pob un yn y llyfryn hwn, er mwyn gwneud cofnod llawn amdanynt.

Llyfryddiaeth
Argreffir testun Peniarth 28, ynghyd â thestunau'r fersiynau Lladin eraill ac astudiaeth sylfaenol o'r llawysgrifau a'u testunau, yn H.D. Emanuel, The Latin Texts of the Welsh Laws (Caerdydd, 1967). Mae cyfieithiad o'r testun i'r Saesneg gan Ian F. Fletcher, Latin Reduction A of the Law, of Hywel (Aberystwyth, 1986). Man cychwyn deall cyfraith Hywel yw Dafydd Jenkins, Cyfraith Hywel (ail argraffiad, Llandysul, 1976). Llawlyfr anhepgorol yw Dafydd Jenkins, The Law of Hywel Dda: Law Texts from Medieval Wales translated and edited (Llandysul, 1986). Ceir cyflwyniad cryno yn A. D. Carr a Dafydd Jenkins, Trem ar Gyfraith Hywel (Hendy-gwyn, 1985). Ar lawysgrif Peniarth 28 ei hun gweler Daniel Huws, 'Leges Howelda at Canterbury', National Library of Wales Journal xix (1976), tt. 340-4, ac xx (1977), t. 95.

Rhestr Darluniau
Atgynhyrchir y tri thudalen cyfan (1-3 isod) yn eu maint gwreiddiol.

  1. f. 1v. Brenin ar ei orsedd a theyrnwialen yn ei law. Ceir peth niwed i'r ddalen hon.
  2. f. 4r. Yr hebogydd yn dal gwalch neu hebog, a chlwyd; ynad llys (barnwr) yn ei gadair a llyfr cyfraith yn ei law.
  3. f. 6r. Y gwastrod yn dal cyfrwy a'r cog yn lladd ieir; y gof wrth ei waith a chapan 'Phrygaidd' ar ei ben.
  4. f. 3r. Y penteulu, prif swyddog y llys, yn ei gadair a byrllysg yn ei law. Mae staen ar y ddalen.
  5. f. 4v. Y pengwastrod.
  6. f. 3v. Y distain, sef prif ystiward y llys, a dysgl yn ei law. Tebyg fod ei wisg ddeuliw yn adlewyrchu un a nodweddai ei swydd. Mae'r gair distain, yn annisgwyl, yn fenthyciad o'r Saesneg ('dish-thane'). Erbyn y drydedd ganrif ar ddeg yr oedd y distain mewn gwirionedd wedi dod i weithredu fel prif weinidog.
  7. f. 6v. Y rhingyll, yn dal y wayw oedd yn perthyn i'w swydd.
  8. f. 5r. Y pencynydd, sef y prif heliwr, â'i gorn; dau yn cusanu, golygfa a awgrymir gan natur swyddogaeth y swyddogion a grybwyllir yn yr adran nesaf, sef gwas ystafell a morwyn ystafell.
  9. f. 5v. Y drysor a'r porthor. Allweddi gan y naill a byrllysg gan y llall (fe gysylltir byrllysg â swydd y drysor mewn rhai testunau).
  10. f. 20v. Ar adar.
  11. f. 21r. Ar gŵn.
  12. f. 22r. Ar wenyn.
  13. f. 23v. Ar gleddyfau a tharianau.
  14. f. 21v. Cyfraith hela.
  15. f. 22r. Ar goed. Mae William Linnard 'Mân-ddarlun yn llsgr. Peniarth 28', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru xxiii (1984), tt. 422-4, yn dangos fod naill goeden (ar y chwith) yn cynrychioli torri copi a'r llall yn cynrychioli tocio, sef y ddau ddull cyffredin gynt o drin coed a chael cnwd.
  16. f. 26r. (dalen sydd wedi cael niwed). Ar eifr; ar wyddau ac ieir. Bu hefyd ar y tudalen hwn ddarlun o gath, a gynrychiolir bellach gan amlinelliad twll yn y ddalen lle bwytaodd y lliw gwyrdd trwy'r memrwm.
  17. f. 25r. Ar foch.
  18. f. 25v. Ar ddefaid.
  19. f. 23v. Ar ychen a buchod.
  20. f. 24v. Ar geffylau.
  21. f. 15v. Tynnu gwallt, yn enghraifft o sarhaed.
  22. f. 17v. Dynes â dysgl. Dechrau'r adran ar gyfraith y gwragedd.
  23. f. 11v. Llythyren C addurnedig ar ddechrau adran ar gyfraith tir a daear.

Darllen pellach

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?