Casgliad Ffotograffig Geoff Charles

Gwefan Geoff Charles

Gwefan yn cyflwyno ffotograffau o Gymru a'r Gororau adeg yr Ail Ryfel Byd, 1939-1945, allan o gasgliad Geoff Charles, yn cynnwys:

  • 6000 o luniau i’w chwilio yn ôl enwau, lleoedd a phynciau
  • Themâu penodol fel amaeth, faciwîs a bywyd bob dydd
  • Cyfle i rannu atgofion, storïau a phrofiadau
  • Adran Addysg rhyngweithiol at ddefnydd ysgolion ac eraill

Un o brojectau Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Noddir gan y Gronfa Loteri Fawr fel rhan o gynllun Eu Gorffennol Eich Dyfodol.

Geoff Charles, Ffoto-newyddiadurwr

Mae cyfraniad Geoff Charles i ffotograffiaeth Cymru yn unigryw. Bu'n gweithio fel ffoto-newyddiadurwr o'r 1930au hyd at y 1970au a daeth at y gwaith hwnnw gyda dawn naturiol a chydymdeimlad dwfn â'i destun. Cofnododd yn arbennig ddigwyddiadau a phersonoliaethau y Gymru Gymraeg. Erbyn heddiw mae archif Geoff Charles yn un o drysorau'r Llyfrgell Genedlaethol.

Ganed Geoff Charles ym mhentref Brymbo yn 1909. Astudiodd ar gyfer Diploma mewn Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Llundain lle graddiodd gydag anrhydedd dosbarth cyntaf yn 1928. Bu'n gweithio i'r Western Mail am gyfnod byr yn paratoi adroddiadau ar rasys motobeics, rasys milgwn ac ymchwiliadau swyddogol i farwolaethau. Wedyn aeth i adrodd ar achosion llys a chyfarfodydd cyngor i'r Mountain Ash and Aberdare Express cyn symud i Guildford yn Lloegr i weithio ar y Surrey Advertiser.

Yn dilyn pwl o salwch dychwelodd adref a mynd i weithio ar y Wrexham Star a oedd wedi'i sefydlu â chyllid nesa' peth i ddim fis Chwefror 1934. Gwerthid y papur ar y stryd am geiniog, sef hanner pris y Wrexham Leader ei brif gystadleuydd. Yn fuan wedi ymuno â staff y Wrexham Star cafodd Geoff Charles ei hun yn adrodd ar hanes trychineb glofa Gresffordd. Cafodd fynediad i'r ystafell lampiau a deall fod nifer y dynion o dan ddaear yn llawer uwch na'r ffigwr swyddogol o 100. Gyda'r wybodaeth honno bu Mr Charles yn gyfrifol am gyhoeddi argraffiad arbennig o'r Star.

Yn eironig ddigon golygodd gwelliant yn yr economi ddiwedd y Wrexham Star wrth i'w werthwyr ar y stryd ddod o hyd i well a sicrach swyddi. Prynodd Geoff ei gamera cyntaf tra'n gweithio i'r Wrexham Star, sef VPK Thornton Pickard yn defnyddio platiau gwydr 6 x 9 cm (2.5" x 3.5"). Ym mis Mawrth 1936 prynwyd y Star gan y Wrexham Advertiser ac fe'i hymgorfforwyd ynddo. Ar y Wrexham Advertiser y cyfarfu Geoff Charles am y tro cyntaf gyda'r rheolwr gyfarwyddwr, Rowland Thomas. Erbyn hyn roedd yn ffotograffydd digon atebol ac fe gynigiodd Rowland Thomas y swydd o reolwr adran ffotograffig cwmni Woodalls Newspapers iddo. Yn fuan ar ôl hynny symudodd i'r Drenewydd fel rheolwr y Montgomeryshire Express, ac yno fe gyfarfu â newyddiadurwr ifanc addawol o'r enw John Roberts Williams y byddai'n cydweithio ag ef wrth ddarparu ffotograffau ar gyfer Y Cymro. Dechreuodd weithio'n achlysurol ar Y Cymro yn 1937 pan gafodd gyfweliad gyda'r Parchg Lewis Valentine cyn iddo gael ei garcharu am ei ran yn llosgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth. Daeth y gwaith gyda'r Cymro i ben bron yn gyfan gwbl yn ystod y rhyfel pan bu'n aelod o is-bwyllgor arddangos Pwyllgor Gweithredol Amaeth Rhyfel Sir Drefaldwyn a oedd yn gyfrifol am wella arferion ffermio. Dinistriwyd llawer o'i gynnyrch yn ystod y cyfnod hwn gan dân.

Ailgydiodd o ddifrif yn ei waith gyda'r Cymro yn dilyn y rhyfel pan apwyntiwyd John Roberts Williams yn olygydd. O fewn ychydig roedd eu gwaith ben ac ysgwydd uwchben unrhyw ffoto-newyddiaduraeth a oedd wedi bod yng Nghymru o'r blaen. Efallai mai'r ddelwedd o'r bardd gwlad Carneddog a'i wraig yn cael eu gorfodi i adael eu fferm fynyddig ar farwolaeth eu mab yw ei waith mwyaf adnabyddus. Ni lwyddodd yr un ffotograff arall i gydio yn nychymyg Cymru fel hwnnw cafodd le ochr yn ochr a Salem Curnow Vosper mewn nifer o gartrefi. Dros y cyfnod hwnnw fe groniclodd llawer mwy na digwyddiadau a phobl; ddarn wrth ddarn, ffotograff wrth ffotograff datguddir ffordd o fyw sydd wedi hen ddiflannu: y gwas fferm yn y lloft stabl, y postmon ar gefn ei geffyl, y chwarelwr a'i gar gwyllt. Cofnodir hefyd ddyfodiad trydan i bentrefi diarffordd, brwydr yr iaith ac effaith mecaneiddio ar fyd amaeth.

Mae'n debyg petai'n rhaid nodi un rhan o'i waith yn arbennig, yna ei ffotograffau o bobl a chymuned Capel Celyn fyddai'r rheiny. Wrth i wlad gyfan frwydro'n aflwyddiannus yn erbyn bwriadau Corfforaeth Lerpwl i foddi Cwm Tryweryn fe gofnododd Mr Charles bob agwedd ar fywyd y fro honno. Er nad oedd bywyd yno'n wahanol i'r rhelyw o gefn gwlad Cymraeg Cymru, golygodd y bygythiad fod pob agwedd ar y bywyd hwnnw wedi'i gofnodi'n gyda'r gofal pennaf.

Ymddeolodd Geoff Charles yn 1975, ond parhaodd i gyfrannu erthyglau a ffotograffau i'r Cymro a'r Farmers Weekly fel newyddiadurwr llaw rydd. Rhoddodd ei archif o 120,000 negydd i'r Llyfrgell Genedlaethol. Mae'r casgliad yn adnodd amhrisiadwy ar gyfer awduron, darlledwyr, haneswyr, myfyrwyr a'r cyhoedd yn gyffredinol.

Effaith finegr

Yn anffodus ar ddiwedd y 1990au dechreuodd rhai o'r negyddion gynhyrchu gwynt finegrog amlwg. Roedd yn arwydd pendant o broblem a allai fod yn fygythiad difrifol i unrhyw gasgliad o ffilm asetad.

Effaith finegr yw'r enw poblogaidd ar ddirywiad negyddion ar sylfaen ffilm asetad seliwlos. Er ei fod yn llawer mwy ymarferol na'r ffilm nitrad a'i rhagflaenodd, nid yw ffilm asetad seliwlos yn anninistriadwy. Cyfyd problemau pan fo'r asetad seliwlos sy'n sail i'r emwlsiwn ffotograffig yn dechrau dirywio a chynhyrchu’r isgynnyrch asid asetig ("finegr"). Ffurf ar seliwlos wedi'i addasu yw asetad seliwlos. Fe all, yn ddibynnol ar wres, lleithder cymharol ac asidedd geisio dychwelyd i'w ffurf wreiddiol. Mae hyn yn ei dro yn cynhyrchu asid asetig yn y plastig sy'n treiddio i'r wyneb gan achosi arogl, breuder ac yn fwy niweidiol na dim arall, leihad ym môn y ffilm. Mae'r lleihad yn achosi i'r emwlsiwn, sydd heb ei niweidio gan yr asid, wahanu oddi wrth sylfaen y ffilm, gan achosi'r sianeli sy'n nodweddiadol o'r effaith. Gellir arafu'r dirywiad trwy selio'r negyddion a effeithiwyd mewn gwactod a'u rhewi.

Ond ar gyfer archif bwysig sy'n cael ei defnyddio'n gyson fel un Geoff Charles, nid yw hyn yn ateb ymarferol.  Mae adran gadwraeth y Llyfrgell felly’n ymgymryd â’r dasg heriol o ‘drin’ y negyddion a effeithiwyd.

Gan ddefnyddio techneg a ddatblygwyd gan Chris Woods, cymrawd ymchwil ym Mhrifysgol Celfyddydau Llundain ac Ian ac Angela Moor yng Nghanolfan Cadwraeth Ffotograffig, gwaredir yr haenau o gelatin a seliwlos sy’n niweidio’r negyddion, gan ail-hydradu pilicl y ddelwedd, ac yna caiff y negyddion eu hailgrogiannu mewn amgaead polyester anadweithiol.

Mae’r driniaeth yma’n sicrhau na all effaith finegr niweidio pilicl y ddelwedd ymhellach, ac nad oes angen rhewgistiau arbenigol  i storio’r negyddion. Cafodd dros 1500 o negyddion eu trin yn y flwyddyn ddiwethaf a gobeithir trin yr holl negyddion asetad seliwlos yng nghasgliadau’r Llyfrgell yn yr un modd. Yn y mwyafrif o achosion mae’r driniaeth yn adfer y ddelwedd ar y negydd i’w hysblander gwreiddiol, ac yn y pen draw bwriedir ailddigido’r negyddion yma er mwyn cynnig mynediad i ddelweddau o safon uwch i’n defnyddwyr.

Dyma brosiect cyffrous sy’n profi gwerth cyfuno sgiliau cadwraethol a digido er mwyn sicrhau dyfodol diogel i’n casgliadau, a chynnig y mynediad gorau posibl i’n casgliadau, yn ddigidol ac yn ffisegol.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?