Roman de la rose - Rhamant y rhosyn

Cyfeirnod: NLW MS 5016D

Dyma un o lawysgrifau llenyddol prydferthaf cyfandir Ewrop yr Oesoedd Canol sy’n dyddio o hanner olaf y 14eg ganrif.  Mae’n un o gerddi rhamant Ffrengig mwyaf poblogaidd ei chyfnod.

Disgrifiad o'r llawysgrif

Mae rhwymiad presennol y llawysgrif a’i chloriau gludfwrdd yn dyddio o’r 16eg ganrif, ac er nad hwn yw’r rhwymiad gwreiddiol, mae mewn cyflwr da. Ceir yn y llawysgrif 150 ffolio ar groen memrwn o safon uchel a gosodir y testun, mewn inc brown, mewn dwy golofn. Yn ogystal, gwelir nifer o fân-ddarluniau a goreuro priflythrennau prydferth trwy gydol y testun. Gwelir y rhan fwyaf o’r mân-ddarluniau yn rhan gyntaf Roman de la rose (ff. 3-26v) a dim ond pum darlun sydd ym mharhad y testun gan Jean de Meun (rhwng ff. 28-130). Ceir mân-ddarlun ychwanegol mewn gwaith arall gan de Meun, sef Le Testament, sydd wedi’i rwymo yng nghefn y llawysgrif hon (ff. 138-149). Ar ddechrau’r gwaith hwn gwelir darlun o’r Drindod ar gefndir glas gydag addurniadau aur, coch a gwyn.

Cynnwys

Awdur rhan gyntaf y gerdd hon, sydd ar ffurf alegori freuddwydiol, yw Guillaume de Lorris. Ychydig iawn a wyddom am yr awdur hwn a ysgrifennodd 4,085 llinell rhwng 1225 a 1230. Bu farw cyn iddo orffen y gerdd a lluniwyd diweddglo hirfaith (17,700 o linellau) gan Jean de Meun tua’r flwyddyn 1280.

Testun y gerdd yw serch cwrtais (courtly love), a chawn hanes y Carwr yn ceisio canfod y forwyn a gwir gariad. Caiff hithau ei darlunio fel blaguryn rhosyn o fewn ffiniau gardd gyda mur uchel o’i chwmpas. Yr oedd gardd gaeëdig yn symbol pwysig iawn o gymdeithas foneddigaidd y cyfnod. Daw’r Carwr ar draws yr ardd, sy’n eiddo i Déduit (hen air Ffrangeg am bleser), wrth gerdded ar hyd glannau afon ar ddiwrnod o Wanwyn, ac wrth ymdrechu i gyrraedd y forwyn mae’n cwrdd â nifer o gymeriadau alegorïaidd. Yn eu plith mae Fenws, Duwies Cariad, sy’n rhoi gwersi carwriaeth iddo, Tristwch, Pleser, Cenfigen ac Ariangarwch. Gyda’i gilydd maent yn trin a thrafod seicoleg cariad rhamantaidd.

Ar ddiwedd rhan de Lorris, gwelir mân-ddarlun o’r awdur newydd, sef de Meun, yn eistedd wrth ddesg yn ysgrifennu. Daw newid mawr yn arddull ac agwedd de Meun tuag at ei berthynas â natur cariad y tu allan i furiau cysgodol gardd pleser. Ceir ymdriniaeth mwy ymarferol a sinicaidd â chariad sy’n adlewyrchu’r agwedd newydd yn ymwneud â rhesymoliaeth ‘rationalism’ a ymddangosodd yn ail hanner y 13eg ganrif. Wyneba’r Carwr sawl rhwystr cyn cyrraedd ei forwyn a’i chusannu a daw’r gerdd i ben gyda’r breuddwydiwr yn deffro ar doriad gwawr.

Francis William Bourdillon

Mae’r llawysgrif hon yn rhan o gasgliad Francis William Bourdillon (1852-1921), ysgolhaig a chasglwr llyfrau brwd o Buddington yn Sussex. Prif ddiddordeb Bourdillon oedd llenyddiaeth Ffrangeg ac yn benodol rhamantau Ffrengig er bod gweithiau llenyddol Saesneg hefyd i’w cael yn ei gasgliad. Wedi ei farwolaeth, prynwyd y rhan fwyaf o’i lyfrgell bersonol yn 1922 gan y Llyfrgell Genedlaethol. Cynhwysa’r casgliad dros chwe mil o eitemau, ac yn eu plith ceir 40 o lawysgrifau canoloesol, llawysgrifau yn ymwneud â Sussex, llyfrau nodiadau personol a mwy nag un copi o’r llawysgrif Ffrangeg gynnar, Roman de la rose.  Dangosodd Bourdillon ddiddordeb arbennig yn y testun hwn ac ymroddodd i gasglu sawl copi. Ceir 7 copi yn ei gasgliad yn dyddio o’r 14eg a’r 15fed ganrif (llawysgrifau NLW 5011-5017).

Nid oedd gan Bourdillon, casglwr y llawysgrif, gysylltiad amlwg â Chymru, ond mae tystiolaeth yn dangos fod copi o Roman de la rose yn eiddo i Lywelyn Bren o Forgannwg yn 1317. Mae dylanwad y rhamant Ffrengig hon hefyd i’w gweld ym marddoniaeth Dafydd ap Gwilym a hefyd yng ngweithiau Geoffrey Chaucer, a gyfieithodd ran o’r testun i Saesneg Canol.

Digido’r llawysgrif

Penderfynwyd digido’r llawysgrif hon oherwydd ei bod yn enghraifft gynnar iawn o un o’r rhamantau ‘mwyaf dylanwadol a gyfansoddwyd yn Ffrainc yn ystod yr Oesoedd Canol’ yng ngeiriau Ceridwen Lloyd-Morgan (Cyfaill y Llyfrgell, Gaeaf 2002). Mae’r llawysgrif hon hefyd yn haeddu sylw oherwydd safon uchel iawn y darluniau coeth a’r prif lythrennau sydd i’w gweld drwyddi draw. Mae’n gynrychiolydd da o gasgliad enfawr a hynod werthfawr Bourdillon.

Darllen pellach

  • Blamires, A. a Holian, G., The Romance of the Rose Illuminated. Manuscripts at the National Library of Wales, Aberystwyth (Cardiff: University of Wales Press, 2002)
  • Horgan, Frances, The Romance of the Rose: A new translation (Oxford: Oxford University Press, 1999)

Adolygiadau

  • Johnston, Dafydd, ‘The Romance of the Rose Illuminated’, Studia Celtica, 37 (2003), 278
  • Lloyd-Morgan, Ceridwen, ‘The Romance of the Rose Illuminated: Manuscripts at the National Library of Wales’, Cyfaill y Llyfrgell, (Gaeaf 2002), 13-15

Gwaith ar dderbynfa'r Llyfrgell

Oherwydd gwaith adeiladu, ni fydd modd defnyddio derbynfa'r Llyfrgell ar ddydd Sadwrn 24 Medi. Golyga hyn nad oes modd tynnu lluniau er mwyn prosesu tocynnau darllen newydd.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.

Oedd y dudalen yn ddefnyddiol?